Crynodeb

  • Torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored

  • Dim cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored

  • Diddymu'r mesurau ychwanegol ar letygarwch awyr agored, fel y rheol chwech o bobl a phellter cymdeithasol

  • Angen Pàs Covid i ddigwyddiadau mawr awyr agored, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd

  • Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn cyngor gwyddonol

  • Y Ceidwadwyr yn gofyn unwaith eto am ymchwiliad Covid penodol i Gymru

  • Plaid Cymru yn erfyn ar bawb i gael y brechlynnau

  • Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel sero ddydd Gwener nesaf

  1. Ydw i angen Pàs Covid?wedi ei gyhoeddi 11:56 GMT 21 Ionawr 2022

    Bydd y Pàs Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd â mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd.

    Bydd rhaid parhau i ddangos Pàs Covid ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd hefyd.

    passFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Lefel sero o heddiw ymlaen ar gyfer gweithgareddau awyr agoredwedi ei gyhoeddi 11:53 GMT 21 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog nos Iau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn gwaethygu.

    O heddiw ymlaen bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

    Mae hyn yn golygu'r canlynol:

    • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored;
    • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored;
    • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m.
    lletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Croesowedi ei gyhoeddi 11:51 GMT 21 Ionawr 2022

    Croeso unwaith eto.

    Am 12:15 fe fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y diweddaraf ar lacio rheolau coronafeirws yng Nghymru.

    Bydd y newyddion diweddaraf ac atebion y Prif Weinidog i gwestiynau'r wasg i'w gweld yma ynghyd â'r ymateb.

    DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Roedd hi'n werth cyflwyno cyfyngiadau yn sgil Omicron'wedi ei gyhoeddi 15:56 GMT 16 Ionawr 2022

    Y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, yn dweud bod budd wedi dod o gyflwyno'r cyfyngiadau ym mis Rhagfyr.

    Read More
  5. 'Cynnydd sylweddol' yn nifer y dysgwyr Cymraegwedi ei gyhoeddi 15:00 GMT+1 4 Awst 2021

    Nifer y dysgwyr Cymraeg a gweithgareddau dysgu wedi cynyddu yn ystod y pandemig, yn ôl Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.

    Read More
  6. 'Trafod cynnal I'm a Celebrity yng Nghymru eto'wedi ei gyhoeddi 17:38 GMT 4 Chwefror 2021

    Cyn-ymgynghorydd 'I'm a Celebrity' yn dweud bod trafodaethau ar gynnal y gyfres yng Nghastell Gwrych eto.

    Read More
  7. Gwraig a mam Mark Drakeford wedi cael Covidwedi ei gyhoeddi 14:03 GMT+1 21 Hydref 2020

    Dywed Mark Drakeford mai'r amser anoddaf ar lefel bersonol oedd pan cafodd ei wraig a'i fam yr haint.

    Read More
  8. Covid-19: Band pres yn poeni na fydd modd cwrddwedi ei gyhoeddi 08:35 GMT+1 12 Gorffennaf 2020

    Pryderon Band Pres Pontarddulais na fydd hi'n ddiogel cyd-chwarae offerynnau pres rhag lledu'r feirws.

    Read More
  9. Gething yn ymddiheuro ar ôl rhegi am gyd-aelod Llafurwedi ei gyhoeddi 18:49 GMT+1 22 Ebrill 2020

    Vaughan Gething yn ymddiheuro i gyd-AC Llafur ar ôl rhegi wrth gyfeirio ati mewn cyfarfod dros y we.

    Read More