Galw am dargedu'r rheiny sydd heb eu brechuwedi ei gyhoeddi 13:27 GMT 21 Ionawr 2022
Plaid Cymru
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei bod yn allweddol i "annog y rheiny sydd heb eu brechu i'w gael e", am y bydd Covid yn "parhau yn salwch difrifol iawn" i'r rheiny sydd wedi'i wrthod.
"Beth am i ni geisio cael y bobl hynny sydd heb eu brechu i'w gael e er mwyn eu hamddiffyn nhw a'n diogelu ni i gyd er mwyn atal senario ble all amrywiolyn newydd ddod i'r amlwg," meddai.
"Os oes gyda ni garfan fawr o bobl sydd heb eu brechu fe all hynny arwain ar amrywiolyn mwy difrifol - a gobeithio na fydd hynny'n digwydd.
"Mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n gyrru'r neges anghywir - dydy'r ffaith fod Covid yn dod yn endemig ddim yn golygu ei fod wedi diflannu."











