bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Astudio'r Ddrama

Clustfeinio ar yr Arholiad Llafar

Yn yr arholiad llafar Safon Uwch Gyfrannol byddwch yn cael eich asesu ar eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r ddrama, a'ch sgiliau llafar. (Byddwch hefyd yn cael eich asesu ar drafodaeth o ffilm osod yn yr un arholiad).

Bydd gofyn i chi drafod a mynegi barn ar y canlynol:

  • datblygiad y plot/stori
  • y cymeriadau
  • y themâu
  • y defnydd o ddeialog
  • y defnydd o iaith ac arddull

Yn yr adran hon, cewch gyfle i wylio golygfeydd allweddol o'r ddrama, clywed y prif arholwr yn gofyn cwestiynau a gwrando ar grwp yn trafod y cwestiynau.

  1. Sut rydych chi’n ymateb i’r olygfa garu ar ddechrau’r Act Gyntaf?
    [Tud 17-18 y ddrama]
  2. Yn yr Act Gyntaf mae’r ferch a’r llanc yn trafod marwolaeth. Oes arnyn nhw ofn marwolaeth?
    [Tud 21-23 y ddrama]
  3. Oes diffyg cyfathrebu’n cael ei amlygu ar ddiwedd yr Act Gyntaf yn eich barn chi?
    [Tud 41-43 y ddrama]
  4. Mae’r grisiau’n cael lle canolog yn y ddrama. Beth yw pwysigrwydd ac arwyddocâd y grisiau i chi yn y ddrama?
    [Tud 43 - 44 y ddrama]
  5. Pethau materol sy’n bwysig i’r gwr. Ydych chi’n cytuno?
    [Tud 46-48 y ddrama]
  6. Ydych chi’n cytuno bod perthynas ryfedd rhwng y rhieni a’u mab Gwyn?
    [Tud 60-61 y ddrama]
  7. Drama llawn symbolaeth? Trafodwch.
    [Tud 79 y ddrama]

Cwestiynau eraill i chi eu hystyried:

  • Trafodwch gymeriad y Llanc/y Gwr.
  • Trafodwch un o’r golygfeydd allweddol yn y ddrama gan gyfeirio at y ddeialog, trafod y syniadaeth a’r themâu ac ystyried pwysigrwydd yr olygfa.
  • Manylwch ar ddatblygiad y ferch yn y ddrama.
  • Trafodwch yr ofnau yn y ddrama.
  • Trafodwch y gwrthdaro rhwng y ddau gymeriad.
  • Trafodwch thema twyll a rhagrith yn y ddrama.

 

BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad

Astudio'r Ddrama
Beth yw Drama?
Arholiad Llafar
Dan groen y ddrama
Cynlluniau Marcio
Barn y Beirniaid
Ysgrifennu Creadigol

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy