

Clustfeinio ar yr
Arholiad Llafar
1. Sut rydych chin ymateb ir
olygfa garu ar ddechraur Act Gyntaf?
Hefyd, ystyriwch y pwyntiau crynhoi canlynol a dewch i gasgliadau:
- Gwraig ar reddf famol yn gryf ynddi
yw mam y llanc ac nid yw am iddo dyfu nac am ei golli ir ferch. Hyn syn esbonio efallai pam
ei fod ef yn ystyried rhyw fel peth budr. Canlyniad hyn yw fod y ferch yn ei wawdio ai annog i fynd
adref i gysgu gydai fam
"Gysgi di hefo neb arall
"
"A tasat ti, fasat ti ddim yn gwbod be i neud
"
"Dw i ddim yn meddwl bod gin ti un hyd yn oed."
Ei ymateb ef yw rhoi clustan iddi ar draws ei boch.
- Y trais geiriol a chorfforol yn dangos
nad oes fawr o gariad rhwng y ddau. Y ferch am fodloni ei blys corfforol ei hun ac anwybyddu ofnaur
bachgen. Ef ar y llaw arall yn meddwl am ei ofnau heb ystyried ei hanghenion hi. Adeg y storm yn ei hofn
aiff iw freichiau. Maent yn cydio yn ei gilydd nifer o weithiau yn y ddrama, ond gellir dadlau mai
gweithred arwynebol ydyr cydio.
- Mwynhad y funud syn bwysig iddyn
nhw ac nid yw'r cydio yn dynodi cariad. Maen nhwn parhau i gweryla wrth iddo ef ei chroesholi am
ei phrofiadau rhywiol cynt, syn dangos ei eiddigedd, ei genfigen ai hunanoldeb.
- Nid ywr llanc yn gallu trin a thrafod
y dyfodol gydar ferch, ias a chyffror presennol syn bwysig iddo ef. Hoffa feddwl ei
fod yn feistr ar ei ffawd ei hun.
- Darlunir y gagendor rhwng y ddau yn yr
ail act wrth iddi hi hel atgofion am eu mab Gwyn, ond nid yw ef yn gwrando, yn hytrach maen ymboeni
am ei adroddiad ar Rio Tinto.
- Ni ddiflannodd y gwrthdaro rhyngddynt
yn y drydedd act chwaith.
"Wnest ti erioed alw cariad arna i."
Cwestiwn arall:
|