|
Mae'n aelod o glwb Caernarfon ers rhai blynyddoedd, ac yn ystod y tymor diwethaf fe gafodd ei dewis i gynrychioli Tîm Merched dan 14 oed Gogledd Cymru. Yn wir, mewn gem a chwaraewyd yn erbyn tîm Gorllewin Cymru yn Aberystwyth, cafodd Alaw ei henwi yn 'Chwaraewr y Gem'. Ac yng ngêm olaf y tymor, Alaw oedd y capten. Tipyn o gamp, felly.
Dyma ei holi am dipyn o'i hanes.
O ble daeth y diddordeb yma mewn gem sydd ychydig yn llai poblogaidd yng Ngogledd Cymru? Wedi'r cyfan, mae aelodau ei theulu yn ddilynwyr selog o'r bêl-droed yn dilyn tîm Cymru i wledydd Ewrop. Ac roedd ei diweddar daid, yn ogystal â bod yn fwtsiwr teithiol yn yr ardal, yn un o hoelion wyth tîm Mountain Rangers ers talwm.
Alaw: Mae mam yn dweud mai un o'r cymdogion oedd yma ers talwm a daniodd y diddordeb, ond dwi'n meddwl mai fy nghefnder yng Nghaernarfon gychwynnodd y peth.
Ers pryd mae hi'n chwarae i Dîm Merched Caernarfon?
Alaw: Ers tua blwyddyn, bellach
Pa safle mae hi'n chwarae ar y cae? Alaw: Maswr, fel arfer, ond dwi wedi ehwarae fel eanolwr hefyd. Mae'n well gen i safle'r maswr.
Pwy yw ei hoff dim/chwaraewr?
Alaw: Erbyn hyn, James Hook ydi fy ffefryn i. Roeddwn i'n licio Shane Williams cyn hynny. Y Scarlets ydi fy hoff dim i.
Ydi hi'n chwarae rygbi yn yr ysgol?
Alaw: Na, does'na ddim tîm merched yn yr ysgol, a cha'i ddim chwarae yn nhîm yr hogia. Ond mae 'na rai o'r genod yn licio chwarae rygbi yn ystod amser-chwarae.
Ydi ei ffrindia yn chwarae rygbi?
Alaw: Mae gen un o fy ffrindia, sef Nikita, ddiddordeb yn y gem ond dydi hi ddim yn chwarae.
Beth ydi ei barn hi am dim Cymru ar hyn o bryd?
Alaw: Roedden nhw'n chwarae'n well heb Stephen Jones yn erbyn Lloegr. Gobeithio y bydd James Hook yn cadw ei le yn y tîm at gemau Cwpan Y Byd at ddiwedd y flwyddyn yma.
Diolch iti, Alaw, a phob hwyl iti yn y dyfodol.
 |