|
Yn 2005 roedd yn Basra yn Iraq, lle peryglus dros ben ac un noson roedd pethau yn waeth nag arfer; mortars yn hedfan dros y gwersyll a phawb yn ofnus drost ben.
Aeth Emma. i'w gwely a dillad dros ei phen, ond roedd yn dal i glywed y bomiau, felly penderfynodd roi disg yn ei CD personol i foddi'r sŵn.
Dewisodd un o ddisgiau Bryn Terfel. Roedd wedi mynd a phedwar efo hi. Mae hi'n hoff dros ben o wrando ar Bryn yn canu.
Llwyddodd i anghofio am y mortars a theimlo'n well wrth wrando ar Bryn, hogyn Cymraeg yn byw i lawr y lôn o Lanllyfni, ond pan ganodd Calon Lân torri i lawr' a chrio a wnaeth.
Roedd ganddi hiraeth mawr am ei theulu a'i chartref ond ar yr un pryd roedd yn ddiolchgar i Bryn am fod yn gwmni iddi ar noson waethaf ei bywyd.
Erbyn hyn mae Emma wedi gadael am Kandahar yn Afghanistan , a bydd yno am bedwar mis - gyda Bryn yn gwmni.
Diolch o galon, Bryn, oddi wrth Emma a'i theulu oll.
 |