Gogledd DdwyrainNewyddion LleolChwaraeonY TywyddTeithioDigwyddiadauPapurau BroOriel yr EnwogionTrefiHanesLluniauDweud eich dweud
Parchedig John Owen Williams (Pedrog: 1853-1932)Un o fechgyn gwlad Llŷn oedd Pedrog a gadawodd ysgol y Llan yn Llanbedrog yn 12 oed. Garddwr fu ef wedyn cyn symud yn 1876 i Lerpwl lle y cafodd gyfleoedd gwych i ddatblygu ei ddoniau fel bardd, darlithydd, llenor a phregethwr. Yn 1884 ordeiniwyd ef yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr Cymraeg Kensington, Lerpwl a bu yno hyd iddo ymddiswyddo oherwydd afiechyd yn 1930, cyfnod o 46 mlynedd.
Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith a'r tro olaf yn Lerpwl ei hun yn 1900. Gwnaed ef yn Archdderwydd o 1928 hyd 1932 a phan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Barc Sefton ef oedd wrth y llyw.
Bu'n briod (collodd ei wraig Rose Ellen Williams yn 1916) a ganwyd iddynt ddau fab a thair merch. Chwith meddwl na chyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth gan y bu mor doreithiog, ond lluniodd hunangofiant difyr iawn o dan y teitl Stori Mywyd a'i gyhoeddi yn y flwyddyn y bu farw. Claddwyd ef yn Lerpwl.
Parchedig Ddr Owen ThomasUn o enwogion Cymry Lerpwl yn oes Fictoria. Ganwyd ef yng Nghaergybi yn 1812 a daeth i Lerpwl o Lundain yn 1865 ac aros hyd ei farwolaeth yn 1891. Gofalodd ar ôl Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Netherfield Road ond symudodd i gapel hardd Princes Road yn Toxteth yn 1871. Yr oedd yn awdurdod ar hanes pregethu Cymraeg ac y mae ei gofiant i'r Gweinidog o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, Cofiant y Parch John Jones, Talsarn (Wrecsam 1874) yn gampwaith o hyd.
Priododd ei ferch gyda'r Parchg Lodwig Lewis ac un o'r meibion y briodas oedd John Saunders Lewis a fu mor bwysig yn hanes Cymru'r Ugeinfed Ganrif.
Meddyliai'r ŵyr y byd o'i daid a llawenhaodd pan gyhoeddwyd cofiant iddo o dan y teitl Pregethwr y Bobl (Lerpwl a Llanddewi Brefi, 1979). Yna cafwyd fersiwn Saesneg The Life and Work of Owen Thomas 1812-1891: A Welsh Preachers in Liverpool (Lewiston, 1991), ac felly mae digon o ddeunydd wedi ei gyhoeddi ar y gŵr dawnus.
Ronw Moelwyn Hughes, PenbedwMab i'r Parchedig T G Moelwyn Hughes (1866-1944) a Mya (née Lewis) a fu yn fawr eu dylanwad ymhlith Cymry Penbedw. Ganwyd Ronw yn Aberteifi a chafodd yrfa nodedig fel myfyriwr gan ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y gyfraith ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Yr oedd y gyfraith a gwleidyddiaeth yn nwyd yn ei fywyd o ddyddiau coleg. Bu yn gynghorydd ar Gyngor Tref Penbedw a safodd fel ymgeisydd seneddol dros y Blaid Ryddfrydol yng Ngorllewin y Rhondda yn 1929. Gadawodd y Rhyddfrydwyr am y Blaid Lafur ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur Sir Gaerfyrddin yn 1941 cyn colli'r sedd i Rhys Hopkin-Morris.
Meddylid y byd ohono ym Mhenbedw fel ag yng ngorllewin Cymru, gan ei fod yn apelio'n fawr at y werin bobl. Yr oedd ei dad Moelwyn yn meddwl y byd ohono a newidiodd yntau ei liw gwleidyddol fel gweithred o barch i'w fab athrylithgar. Bu farw Ronw Moelwyn Hughes yn y flwyddyn 1955. Gadawodd wraig Louise Mary (merch hynaf Baron Fairfield) a dau fab a merch.
Parchedig Ddr Owen EvansTreuliodd Dr Owen Evans ddeunaw mlynedd o'i ymddeoliad yn Lerpwl, hynny yw o 1900 hyd 1918 ond roedd yn nabod y Glannau yn dda cyn hynny. Ordeiniwyd ef yn Berea, Ynys Môn yn 1883 a'r flwyddyn ddilynol cafodd ei wahodd i Gymanfa'r Annibynwyr. Bu mewn cymanfaoedd eraill, a soniai amdano yn aros ar aelwyd Gwilym Hiraethog. Cofiai wrando yn Lerpwl ar y cenhadwr enwog o'r India, Parchedig William Jones (1833-187) a wasanaethodd yn y ddinas sanctaidd, Benares a hefyd yn Singrowli lle bu farw.
Nid oedd Owen Evans ei hun yn bregethwr hwyliog ond yr oedd yn llenor ymroddedig - rhai o'i lyfrau ydy Gwyrthiau Crist (1868) ac Oriau gyda'r Iesu (1882). Meddai ar ddawn i gyfleu'r Ysgrythur mewn ffordd ddefosiynol. Gadawodd Lerpwl am Lundain gan mai yno y gweinidogaethodd hiraf o bob man y bu gan y bu yno ar ddau dro, Fetter Lane (1856-63) ac eilwaith yno gyda King's Cross, 1881-1906, cyfnod o 32 mlynedd. Bu farw ar 1 Mehefin 1920.
Parchedig David AdamsYn hanes diwinyddiaeth Gymreig rhaid rhoddi lle pwysig i David Adams (1845-1923). Ganwyd ef yn Nhal-y-bont, Ceredigion, a bu'n rhaid iddo adael ysgol yn lanc ifanc. Gweithiau mewn gwaith llafurus, ond aeth ati i ddysgu Lladin a Ffrangeg a gloywi ei Gymraeg a Saesneg. Nid oedd dal nôl arno - llwyddodd i gael ei alw yn ddisgybl athro, ei dderbyn i Goleg y Normal, Bangor a chael cyfle i ddysgu yn Ysgol y Bryn, Llanelli ac Ystradgynlais cyn mynd am ragor o addysg i Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Enillodd ei BA a dechreuodd bregethu yn 1874.
Ym mis Mai 1878 derbyniodd wahoddiad gan Eglwysi Hawen a Bryngwenith, Ceredigion. Bu yno hyd 1888 pan symudodd i dref y chwareli, Bethesda, Arfon. Yn Hydref 1895 symudodd i Lerpwl, i ofalu am gapel yr Annibynwyr, Grove Street, Lerpwl. Yno y bu hyd ei farw, 10 Gorffennaf 1923, ac yn Lerpwl y gwnaeth ei gyfraniad pwysig fel diwinydd a lladmerydd diwinyddiaeth yr Almaen.
Cyhoeddwyd ei gyfrol Paul yng ngoleuni'r Iesu (yn 1897) a Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (1914). Anrhydeddwyd ef yn 1913 pan gafodd y cyfle i fod yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr. Bu yn Lerpwl yn gweinidogaethu am 28 mlynedd.
Parch Robert Thomas (Ap Vychan)Go brin fod llawer o bobl yn cysylltu'r pregethwr a'r athro Ap Vychan, 1809-80 gyda dinas Lerpwl. Urddwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg yn 1840 yn Ninas Mawddwy, ond o fewn dwy flynedd, derbyniodd alwad o eglwys Salem, Bronlow Hill a chychwynnodd yno ym Medi 1842. Symudodd o Lerpwl chwe blynedd yn ddiweddarach i ofalu am Eglwysi Rhosllannerchrugog, Rhiwabon a Rhosymedre.
Yr oedd yn dipyn o ffefryn yn Lerpwl ar sail ei bersonoliaeth a'i gorff cydnerth. Dywedodd y diacon adnabyddus o Lerpwl, Josiah Thomas, amdano:
"Safai fel derwen gref ger bron tyrfa fawr, a chyrhaeddai ei lais y pellaf ynddi, a llefai oddi wrtho ffrwd gref, loyw, risialaidd o ymadroddiad coeth a chyfan, a gariai yn esmwyth bawb a phopeth o'u blaen."
Cafodd fagwraeth galed. Profodd dlodi mawr. Disgrifiodd yn ei hunangofiant y blynyddoedd cynnar yn Llanuwchllyn. Dysgwyd ef gan ei dad oherwydd nid oedd modd iddo dalu amdano. Ond goresgynnodd yr anawsterau i gyd. Un o arwyr oes Fictoria ydoedd.
John Roberts ('Minimus': 1808-1880)Ail fab Richard Roberts, masnachwr nwyddau llong yn Lerpwl oedd John Roberts, ac yn Lerpwl y ganwyd ef yn 1905. Daeth yn ŵr defnyddiol ym mywyd y Cymry a etholwyd ef yn flaenor yng nghapel Bedford Street pan nad oedd ond 19 mlwydd oed, yr ieuengaf y gwn i amdano. Yr oedd mewn cwmni o fechgyn Cymraeg, un ohonynt oedd Josiah Hughes a dreuliodd ei oes fer ym Malacca, Malaysia.
Hynodrwydd arall a berthyn i'w hanes yw'r ffaith ei fod ef yn un o sylfaenwyr cyntaf y Genhadaeth Dramor yn 1940. Tra'n parhau i weithio i gwmni llongau daeth yn Ysgrifennydd di-dâl i'r gymdeithas genhadol. Bu'n garedig iawn tuag at y cenhadon yn cynnig llety iddynt tra yn Lerpwl.
Bu ef a'i briod Elizabeth Milnes o Groesoswallt yn hynod groesawus, a chariwyd y traddodiad ymlaen gan ei unig ferch Miss Roberts, Hope Street. Galwai ei hun yn Minimus a lluniodd emynau cofiadwy. Bu farw yng Nghaeredin ar 6 Ionawr 1880 a chladdwyd ef ar fore Gwener, 9 Ionawr ym mynwent y teulu yn Eglwys Sant Iago, pryd y traddododd y Parchedig Ddr Owen Thomas, Princees Road deyrnged haeddiannol i goffadwriaeth ysgogydd y Genhadaeth ac amddiffynnydd y Sul.
Llew Llwyfo - Gŵr AmryddawnLewis William Lewis oedd enw bedydd Llew Llwyfo, a ganwyd ef ar 31 Mawrth 1831 ym mhentref Pensarn, Llanwenllwyfo, Ynys Môn. Gellir gweld o ble cafodd ef yr enw Llwyfo. Bu'n greadur anesmwyth ar hyd ei oes. Ni chredai mewn aros yn hir yn unman. Daeth i Lerpwl yn 1955 o Dreffynnon i olygu'r papur wythnosol, Yr Amserau. O fewn tair blynedd yr oedd yn Aberdâr fel newyddiadurwr, oddi yno i Ddinbych, yna Caernarfon cyn croesi môr yr Iwerydd i Utica a'r Unol Daleithiau.
Ond daliai i alw yn Lerpwl fel y tystiodd Lewis Jones, Hilbre. Yr oedd ei briod a Llew Llwyfo yn perthyn, cyfnither a chefnder. Geiriau Lewis Jones am hyn oedd: 'Costiodd y berthynas honno lawer swllt imi yn ystod ei drigais ef yn Lerpwl.' Meddai Llew Llwyfo ar lais arbennig fel canwr, a gelwid arno'n gyson i arwain eisteddfodau. Cyhoeddwyd ei nofel Llewelyn Parri, neu Meddwyn Diwygiedig yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl, un o'r nofelau cynharaf. Bu farw 23 Mawrth 1901 yn y Rhyl, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, ger Caernarfon.
Lewis Jones, HilbreGo brin y cafodd Cymry Glannau Mersi ŵr mwy gwybodus ym myd adar na'r Monwysyn, Lewis Jones a fu'n gofalu ar ôl Ynys Hilbre o 1896 hyd 1923. Gŵr o Laneilian, Môn oedd Lewis Jones a bu yn hynod o weithgar yng nghylch West Kirby. Yr oedd ef ynghyd â Eleazar Roberts, Robert Jones a Evan Evans yn arloeswyr yr achos crefyddol a bu'n flaenor a thrysorydd Capel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref West Kirby am ddeg mlynedd ar hugain.
Darlithiodd Lewis Jones gryn lawer yn Gymraeg a Saesneg, yn bennaf am Hilbre, yr ynysoedd a'r adar. Yr oedd yn fedrus gyda'r magic lantern a meddai ar saith o wahanol o ddarlithiau. Bu'n arwain eisteddfodau ar lannau Mersi, ac yr oedd yn un o arweinwyr yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelid ym Mhenbedw yn 1917. Lluniodd gannoedd o erthyglau i bapurau Cymraeg y Glannau, sef i'r papur Cymro o dan olygyddiaeth Isaac Foulkes ac i'r Brython pan oedd J H Jones (J E Aitsh) wrth y llyw. Ceir blas ar arddull a diddordebau Ynyswr fel ei gelwid yn ei gyfrol o ysgrifau Atgofion Ynyswr a gyhoeddwyd gan Wasg y Brython, Stanley Road, Bootle yn 1939.
Harry Evans (1873-1914)Mab i gerddor reit adnabyddus ym Morgannwg oedd Harry Evans. Ganwyd ef ar 1 Mai 1873 yn Russell Street, Dowlais yn fab i John Evans (Eos Myrddin) a'i briod Sarah. Daeth yn amlwg yn ardal Merthyr fel organydd ac arweinydd cymanfaoedd, a daeth i sylw Cymry Lerpwl pan enillodd Côr Meibion Dowlais a sefydlwyd ganddo yn 1898, y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1900. Yn 1903 derbyniodd wahoddiad Undeb Gorawl Gymreig Lerpwl (Côr a ffurfiwyd fel canlyniad i Eisteddfod 1900) i fod yn arweinydd y Côr a symudodd ef i Lerpwl.
Erbyn 1913 penodwyd ef yn arweinydd lleol a chofrestrydd Cymdeithas Philharmonig Lerpwl. Cydnabyddid ef erbyn hyn fel un o arweinwyr corawl gorau Prydain, a derbyniai wahoddiadau o bob cyfeiriad i arwain cymanfaoedd a beirniadu yng ngwyliau cerddorol Lloegr, yr Alban, Iwerddon a trwy Gymru gyfan. Bu farw yn ŵr ieuanc 41 mlwydd oed, ar 23 Gorffennaf 1914 a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl a cheir englyn o waith Pedrog ar ei fedd.
Parchedig David Miles JenkinsGŵr a anwyd yn Nhrelyn, Sir Fynwy ar 27 Chwefror 1837, a chymhellwyd ef i'r weinidogaeth, a bu am aml gwrs addysg yng Nghastell Newydd Emlyn, Coleg yr Annibynwyr yn y Bala. Bu'n weinidog yn Aberhosan, Drenewydd ac yno y priododd yr ail dro â Miss Griffiths, wyres i'r Parchedig John Roberts, Llanbrynmair. Ganwyd iddynt bump o blant - tri mab a dwy ferch. Priododd yr ail ferch gyda Mr E M Davies o'r Banc North a South Wales, Lerpwl ac mae ei merch hwy Miss Mair Davies, Wavertree wedi cyflawni gwaith mawr yng Nghyngor Eglwysi Rhyddion Lerpwl. Bu dau o'r meibion yn weinidogion, Parchedig S R Jenkins, Gravesend a'r Parchedig W G Jenkins, Huddersfield.
Yn 1876 symudodd y Parchedig D M Jenkins a'i deulu i Lerpwl ar dderbyn ohono alwad i Eglwys Annibynwyr Cymraeg Park Road, Lerpwl a bu'n weinidog yno hyd 1898, cyfnod o 23 mlynedd. Bu farw yng nghartref ei ferch (mam Miss Mair Davies) yng Nghaernarfon 21 Ionawr 1901 a chladdwyd ef ym mynwent Smithdown Road. Yr oedd yn ŵr o argyhoeddiadau diffuant, yn fyfyriwr diwyd, bugail doeth ac un o arloeswyr Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Derbyniodd dysteb o £300 ar derfyn 21 mlynedd, swm cyfystyr â £6,500 yn ein dyddiau ni.
Parchedig William NicholsonUn o Gaergybi oedd William Nicholson ac yno y ganwyd ef ym mis Ebrill 1844. Bu'n weinidog yn Rhoslan a Llanystumdwy gyda'r Annibynwyr cyn symud i ardal Bethesda Arfon ac oddi yno i gylch Caerffili. Derbyniodd alwad yn niwedd 1876 i olynu Gwilym Hiraethog yng nghapel Grove Street, Lerpwl. Ac am y naw mlynedd nesaf bu'n gweinidogaethu yn y capel hwnnw, yn weithgar fel llenor, bardd, darlithydd ac yn arbennig fel pregethwr poblogaidd.
Yn 1881 cychwynnodd gyhoeddiad misol o'r enw Y Cennad Hedd, a sgrifennodd rhannau helaeth ohono. Bu bron ag ennill ar y cywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl yn 1884. Ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth a bu'n siarad yn gyson ar lwyfannau'r Blaid Ryddfrydol.
Nid oedd yn gryf ei iechyd a rhoddodd yr eglwys gyfle iddo deithio am adferiad iechyd i Awstralia yn niwedd 1883. Bu i ffwrdd am ddeg mis ond ni chryfhaodd ryw lawer er iddo ddal ati gyda'i orchwylion hyd y diwedd. Bu farw 20 Gorffennaf 1885 yn 41 mlwydd oed a gosodwyd ef i orwedd ym mynwent Smithdown Road, Lerpwl.
Y mae ei garreg fedd yn gyrchfan pererinion o Gymru pob haf gan ei bod yn sefyll yn agos iawn i fedd ei ragflaenydd y Parchedig William Rees (Gwilym Hiraethog).
D. Ben Rees
Martin o FanceinionDiddorol tu hwnt. Cyfoeth o Gymreictod.Pam yn union y dylid cyfyngu Cymreictod i dir Cymru yn unig??
Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.