|
Traddodiad sy'n mynd nôl i'r ddeuddegfed ganrif pan fyddai'r Brenin neu'r Frenhines yn golchi traed y tlodion a rhannu cardod iddynt i gofio'r swper Olaf a'r Iesu yn golchi traed y disgyblion a cyn gorchymyn iddynt i garu'i gilydd.
Nid oes mwy o olchi traed ond deil y traddodiad o rannu cardod gan y Frenhines mewn gwasanaeth arbennig.
Eleni am y tro cyntaf cynhaliwyd y gwasanaeth yng Nghadeirlan Manceinion ac ymysg y gwahoddedigion i dderbyn Arian Cablyd roedd un o Gymry Manceinion, Gwenda Watson, wedi'i dewis gan Deon y Gadeirlan i dderbyn yr anrhydedd.
Yn naturiol feIly roedd pawb yn awyddus i gael yr hanes ac ni chawsom ein siomi. Dyma'r hanes yng ngeiriau Gwenda:
"Yn naturiol roedd y Gadeirlan o dan ei sang. Bu swn yr organ anferth bron a chodi'r to, y canu cynulleidfaol yn ysbrydoledig a phawb yn ymuno yn y gweddiau a'r darIleniadau tra roedd ei Mawrhydi yn symud o gwmpas y gwahoddedigion yn urddasol yn rhannu'r cardod i wyth deg un o wragedd ac wyth deg un o frodyr.
"Yr oedd yn fraint ac anrhydedd i gael fy newis i fod yn rhan o achlysuo o fri.
"Tra'n disgwyl derbyn y rhodd meddyliais am y rhai a gafodd effaith ar fy mywyd. Nid ydym yn mynd trwy'r byd ar ben ein hunain, mae pererinion eraill yn cydymdeithio a ni. Derbyniais ddau bwrs bach.
"Yn y pwrs gwyn eleni yr oedd gwerth wyth deg un o geiniogau sef oed y Frenhines ac yn y pwrs coch darn pum punt i ddathlu ei phriodas diamwnt a darn hanner can ceiniog i ddathlu can mlwyddiant Symudiad y Scouts. Roedd y cyfan mewn arian pur.
"Wrth dderbyn diolchais am fy ngwreiddiau Cymraeg, am gynhaliaeth a chyfeilIgarwch Cymry eglwysi Manceinion ac am y bywyd llawn gyda Vic (Y Parchedig Victor Watson) a'r teulu. Diwmod i gofio yn wir!"
 |