|
Cynhaliwyd twmpath a noson lawen yng ngwesty'r Springfield Treffynnon ar y nos Wener. Llenwyd strydoedd Treffynnon efo dros gant o blant o ysgolion y fro fore Sadwrn i ddawnsio dawns y Cadi Ha ynghyd â nifer o ddawnsfeydd eraill.
Bu'r Llydawyr yn gorymdeithio efo'r baghad (pibyddion) a dawnswyr yn eu dilyn i lawr prif stryd Treffynnon.
Nid oedd angen system sain arnyn nhwythau! Aeth pawb ymlaen am brynhawn o ddawnsio yn Abaty Basing.
Gyda'r nos cynhaliwyd twmpath dawns yn neuadd yr eglwys Yr Wyddgrug. Roedd yn noson llawn hwyl efo arddangosfeydd o ddawnsio gan ddawnswyr Maes Garmon, Meinir Siencyn a Huw Williams yn gwneud deuawd clocsio ac unwaith eto arddangosfeydd o ddawnsio Llydewig.
Bore Sul aeth pawb i Loggerheads lle daeth nifer i wylio perfformiadau gan Ddawnswyr Delyn a'i ffrindiau a'r dawnswyr a band o St Gergoire. Ymunodd nifer yn y dawnsio Llydewig ar lawntydd Loggerheads cyn ffarwelio â'r Llydawyr. Rydym yn hynod o ddiolchgar i drigolion y fro am gynnig llety i'r ymwelwyr. Oeddech chi yno? Dwedwch wrthon ni am yr ŵyl isod:
 |