Dilynwch y ddrama a chodi ychydig o Ffrangeg yr un pryd. Cliciwch ar bennod i fynd yn syth at y gweithgareddau.
Belle caisse
Car neis, ond car pwy ydy e? Mae'r ddau gefnder Ben ac Alex mewn trafferth ym mhennod gyntaf 'Les Choix'.
Tu t'es fait pincer
Mae Alex mewn trafferth gyda'r heddlu - ond pwy mewn gwirionedd wnaeth ddwyn y car?
Quelle fille
Mae pawb yn siarad am Alex ond mae e'n meddwl am bethau eraill pan mae e'n cwrdd â Jamila!
Elle est comment?
Wow! Pwy oedd honna? Mae Alex eisiau dod i wybod mwy am Jamila, ond ydy'r atebion i gyd gan Malik?
Les étrangers
Felly beth yn union ddwedodd Julie wrth Justine am Alex a Malik? Gwrandewch ar ei neges ffôn...
De bons amis
Mae Malik yn mynd i nôl Jamila. Mae mam Jamila'n ceisio trefnu cariad ar gyfer ei merch, ond pwy mewn gwirionedd sy'n ffansïo pwy?
Pas un mauvais garçon
Ydy Alex yn fachgen cynddrwg â hynny? Mae pawb yn dweud pethau cas amdano, ond ei dadcu sy'n ei nabod orau.
Tu l'aimes?
Mae pawb yn mynd i'r traeth. Mae Justine ac Anaïs yn tynnu coes Jamila am y bachgen mae hi'n ei hoffi. Pwy ydy'r bachgen lwcus?
Ce n'est pas mon style
Mae Justine ac Anaïs yn gwisgo'n barod i fynd i lawr i'r dref ac mae'n nhw'n ceisio cael Jamila i newid ei steil.
C'est ton choix
Mae Alex yn ddieuog ac o'r diwedd mae tadcu yn cyhuddo Ben o ddwyn y car. Fydd Alex yn gallu maddau i'w gefnder?
La rencontre
Mae cariad lond y lle, mae'n benwythnos ac mae pawb allan yn y dref. Fydd Jamilla'n gallu anghofio am enw drwg Alex?
