Disgyblion gydag enw da Mawrth 2007 Disgyblion o Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau enillodd y gystadleuaeth i enwi papur bro newydd De Sir Benfro, gyda Dan y Landsker yn dod i'r brig o blith yr holl gynigion.
Yn cyfeirio at yr ardal islaw'r llinell hynafol oedd yn rhannu Sir Benfro Gymreig a Seisnig, mae'r enw yn adlewyrchu twf iaith a diwylliant Cymraeg yn Ne Sir Benfro.
Yn y llun gwelir Louvain Jones o Antur Teifi yn cyflwyno'r camera (yn rhoddedig gan Gwmni Asda, Doc Penfro) i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberdaugleddau gyda Kevin Knox, Pennaeth Adran Gymraeg yr Ysgol.