Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.
Pan mae’r môr yn colli egni, mae’n gollwng y deunydd y mae wedi bod yn ei gludo. Enw’r broses hon yw dyddodiadPan fydd defnyddiau’n cael eu dyddodi neu eu gadael ar ôl, er enghraifft afon yn colli ei hegni ac yn methu â chario ei llwyth ymhellach.. Gall dyddodiad ddigwydd ar forlinau sydd â ton adeiladolTonnau sy’n helpu i gronni defnyddiau ar y traeth. Maen nhw’n dueddol o fod ag amledd isel a thorddwr cryf..
Mae’r ffactorau sy’n arwain at ddyddodiad yn cynnwys: