Mae prosesau erydiad, màs-symudiad a hindreuliad yn torri deunydd yn ddarnau llai ac yn ei symud o’r arfordir. Mae llawer o ffactorau yn effeithio ar gyfraddau erydiad arfordirol a’r tirffurfiau sy’n cael eu creu.
Mae deunydd hefyd yn cael ei symud ar hyd y morlin drwy màs-symudiadPan fydd creigiau a defnyddiau’n cael eu symud am i lawr ar raddfa fawr.. Màs-symudiad yw symudiad gwaddod ar i lawr oherwydd disgyrchiant.
Cwymp creigiau
Mae darnau o’r graig yn disgyn oddi ar wyneb y clogwyn, fel arfer o ganlyniad i hindreuliad rhewi-dadmer.
Tirlithriad
Mae darnau mawr o’r graig yn dod yn rhydd ac yn llithro i lawr i’r gwaelod.