Main content
Bydd y rhaglen yma ar gael yn fuan ar ôl cael ei darlledu

Cofio Butlin's Pwllheli

75 mlynedd ers i Butlin's agor ym Mhwllheli, Ffion Emyr sy’n olrhain hanes y gwersyll. 75 years since Butlin's opened in Pwllheli, Ffion Emyr reminisces about the holiday camp.

Mae’n 75 mlynedd ers i wersyll eiconig Butlin's agor ym Mhwllheli, ac fel un a oedd yn arfer mynd yno fel plentyn, mae gan y gantores a’r cyflwynydd Ffion Emyr ddiddordeb mawr yn y gwersyll.

Mewn rhaglen arbennig, mae Ffion yn olrhain ychydig o hanes y gwersyll, ac yn sgwrsio gyda nifer a oedd yn gweithio yno, a rhai a oedd yn mynd ar wyliau yno.

Cawn glywed am y cotiau coch a’r cystadleuthau ‘glamorous Granny’, y gwahanol swyddi roedd rhai o bobl yn ardal yn eu gwneud yno, a’r tân mawr a ddigwyddodd ym 1973. A thybed sut ddyn oedd Billy Butlin ei hun?

27 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul 19:00

Darllediadau

  • Sul 22 Mai 2022 18:30
  • Mer 25 Mai 2022 18:00
  • Dydd Calan 2023 08:00
  • Llun 2 Ion 2023 18:30
  • Dydd Sul 19:00
  • Dydd Mercher 18:00