Ateb y Galw: Y cyflwynydd Aled Hughes

  • Cyhoeddwyd
al hughes

Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma. Aled yw llais y bore ar yr orsaf, yn cyflwyno ei raglen o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Yr wythnos yma, mae Aled yn dringo'r Wyddfa bob diwrnod ar ôl ei raglen er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwyn bisgid mŵ-mŵ gan Claire yn y Cylch Meithrin gan ddechrau rhyfel arweiniodd at bob un o'r plant yn beichio crïo ryw ffordd neu'i gilydd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Kylie Minogue - poster mawr o Charlene ar wal llofft.

kylieFfynhonnell y llun, Dave Hogan
Disgrifiad o’r llun,

Kylie yn 1990, a wnaeth ddwyn calon yr Aled Hughes ifanc

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi ddim wir yn cywilyddio.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gwylio'r ffilm Wonder efo'r plant - mi oeddan nhw'n crïo ac felly mi wnes i.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Rhegi gormod.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Enlli - byd arall.

Pen llyn
Disgrifiad o’r llun,

Fel hogyn o Lanbedrog, mae gan Ynys Enlli a Phen Llŷn le pwysig iawn yng nghalon Aled

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson ein priodas ar ynys St Lucia.

line
line

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol. Sarcastig. Hapus.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Un Nos Ola Leuad a The Usual Suspects.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Richard Burton - yr hellraiser Cymraeg gwreiddiol.

burtonFfynhonnell y llun, Evening Standard
Disgrifiad o’r llun,

Richard Burton, yr actor a'r 'hellraiser' o Bontrhydyfen

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mi oeddwn i bron iawn a boddi ym Mhorthdinllaen pan yn tua 14 oed cyn i ymwelydd fy llusgo i i'r lan.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Parti efo pawb sy'n bwysig - pwy fyddai ddim yn cael sesh ar y diwrnod hwnnw?!

Beth yw dy hoff gân a pham?

Pink Floyd - Wish You Were Here - tiwn.

al

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Sŵp nionyn Ffrengig, sirloin wedi'i chosi ar y gril a hufen iâ fanila efo crymbl mwyar duon.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lois - fy merch 6 a 3/4 oed. Mae'r byd yn lle cŵl iawn trwy'r llygaid yna...

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Deri Tomos

Hefyd o ddiddordeb:

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw