Rhybudd teithio wrth i Take That gyrraedd Caerdydd

Bydd Take That yn diddanu torf enfawr nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd teithio mewn grym wrth i'r band enwog Take That ymweld â Chaerdydd ddydd Mawrth.
Bydd nifer o ffyrdd ger y stadiwm ar gau o 15:00 ymlaen, a bydd system giwio yng ngorsafoedd trenau Caerdydd Canolog ac yng ngorsaf Heol y Frenhines.
Dim ond dau gyngerdd sy'n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality eleni.
Dywedodd Gavin Marshall, prif swyddog gweithredu URC, er bod eleni wedi bod "'chydig yn siomedig", eu bod wedi canolbwyntio ar gynnal digwyddiadau eraill fel yr Hyrox.
Blynyddoedd diweddar 'llewyrchus'
Ychwanegodd Gavin Marshall fod llai o gyngherddau eleni wedi blynyddoedd "llewyrchus" yn 2024 a 2025.
Yn 2025 bu perfformiadau yn y stadiwm gan Oasis, Chris Brown, Lana Del Ray, Kendrick Lamar a SZA a bu enwogion fel Taylor Swift, Pink a Bruce Springsteen ar y llwyfan yno yn 2024.
Wrth siarad am y 3,000 o baneli solar sydd wedi eu gosod ar do'r stadiwm yn ddiweddar, dywedodd fod "llai" o gyngherddau eleni ond fod URC yn "gyffrous am y dyfodol".
"Ni'n gweld e fel 'chydig o 'blip' eleni, ond mae wastad yn anghyson gyda chyngherddau - dim ond hyn a hyn o artistiaid sy'n gallu gwerthu 70,000 o seddi," meddai.
"Ond rydym yn gwybod bod dau gyngerdd gwych ar y ffordd y mis hwn gyda Take That a Metallica ac mae llawer wedi ei gynllunio ar gyfer 2027."

"Rydym yn hyderus fod eleni yn 'chydig o blip," meddai prif swyddog gweithredu URC
Fe wnaeth Gavin Marshall gydnabod bod gan artistiaid dueddiad newydd i aros mewn un lleoliad perfformio am gyfnod hir yn hytrach na gwneud taith - fel mae Harry Styles yn gwneud ar y funud.
Fe wnaeth y cyn seren One Direction gychwyn ei 12 noson o berfformio yn Stadiwm Wembley ddydd Gwener.
"Mae gennym lwyth o gyhoeddiadau cyffrous yr ydym yn edrych ymlaen at eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf ar gyfer 2027, felly rydym yn hyderus fod eleni yn 'chydig o blip."
Paneli solar Stadiwm Principality yn ddigon i bweru 50 diwrnod gêm
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Ymestyn cytundeb i noddi enw Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
Bydd nifer o lonydd ar gau yn y brifddinas wrth i Take That berfformio nos Farwth (y manylion yn llawn isod), ac mae 'na rybudd y bydd y traffig yn drwm.
Y cyngor yw i bobl sy'n dod i'r cyngherddau dros yr haf i gynllunio o flaen llaw.
Dywedodd Georgina Porter, Rheolwr Cyflenwi Cwsmeriaid a Chynllunio Digwyddiadau Trafnidiaeth Cymru: "Gyda chyfres wych o ddigwyddiadau'r haf ar draws ein rhwydwaith, rydyn ni am i bawb fwynhau'r cyngherddau.
"Mae disgwyl i'r gwasanaethau trên fod yn brysur, ac rydyn ni'n gwneud popeth ag y gallwn i gefnogi hynny drwy gynnal mwy o wasanaethau lle'n bosib ac ychwanegu trenau hwyrach er mwyn cludo pobl adref.
"Bydd ein timau ar gael yn ein gorsafoedd i'ch cefnogi a'ch cadw chi i symud yn ddiogel.
"Yr unig beth yr ydym yn ei ofyn yw i chi gynllunio ymlaen llaw, gwirio manylion eich trên olaf adref, a thrin ein timau gyda'r caredigrwydd a'r parch maent yn eu haeddu."
Pa lonydd fydd wedi cau ar gyfer Take That?
Ddydd Mawrth, 16 Mehefin, bydd yr holl lonydd ger y stadiwm ar gau rhwng 15:00 a hanner nos.
Mae'r lonydd yn cynnwys:
Stryd y Dug (Duke Street)
Stryd y Castell
Heol Fawr (High Street)
Stryd Caroline
Heol Eglwys Fair
Stryd Wood
Sgwâr Canolog
Heol y Porth (Westgate)
Stryd y Cei
Plas y Neuadd (Guildhall Place)
Y Gwter (Golate)
Stryd y Parc
Stryd Havelock
Heol Scott
Ffordd y Brenin (Kingsway)
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen (Cowbridge Road East) - yn rhannol
Stryd Tudor - yn rhannol
Stryd Plantagenet a Stryd Beauchamp - yn rhannol
Bydd Teras yr Orsaf a Stryd Guildford yn caniatáu mynediad i fysiau yn unig o'r gyffordd â Heol Casnewydd i'r gyffordd â Ffordd Churchill.
Bydd Teras yr Orsaf hefyd yn cau am gyfnod byr i ganiatáu i Orsaf Heol y Frenhines weithredu'n ddiogel am 90 munud wedi i'r cyngerdd ddod i ben.
Bydd Heol Penarth ar gau am 30 munud cyn i'r cyngerdd ddod i ben ac am hyd at awr wedi hynny, i deithwyr trên sy'n cyrraedd ac yn gadael Gorsaf Caerdydd Canolog.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.