Lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl canfod corff mewn parc

LillyFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu merch 14 oed o'r enw Lilly a oedd ar goll wedi cael gwybod am y farwolaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i gorff gael ei ganfod mewn parc ym Mlaenau Gwent nos Lun.

Dywedodd Heddlu Gwent fod corff menyw wedi ei ganfod yn ardal Parc Duffryn yn nhref Blaenau am 22:10.

Dywedodd y llu nad yw'r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol, ond bod teulu merch 14 oed o'r enw Lilly a oedd ar goll wedi cael gwybod.

Parc Duffryn yn nhref Blaenau
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y corff ei ganfod yn ardal Parc Duffryn yn nhref Blaenau nos Lun

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Prif Arolygydd Ditectif Steven Thomas y bydd swyddogion yn bresennol yn ardal y parc wrth i ymholiadau barhau.

"Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi gofid a phryder ymhlith ein cymunedau," meddai.

Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig