Miloedd yn dathlu yng ngorymdaith Pride Cymru

Fore Sadwrn fe wnaeth filoedd o bobl ymgynnull ger Gwesty'r Angel i ddechrau ar yr orymdaith dwy filltir o amgylch canol y ddinas
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi bod yn cymryd rhan mewn gorymdaith Pride Cymru yng nghanol dinas Caerdydd.
Fore Sadwrn fe wnaeth filoedd o bobl ymgynnull ger Gwesty'r Angel i ddechrau ar yr orymdaith dwy filltir o amgylch canol y ddinas, gan orffen wrth y Castell.
Aelodau'r gymuned traws sy'n arwain gorymdaith yr ŵyl LHDTC+ mwyaf yng Nghymru, gyda'r trefnwyr yn disgrifio'r digwyddiad fel "penwythnos o ddathlu, protestio, a gwelededd pwerus".
Dywedodd Dan Walsh, cadeirydd Pride Cymru, fod yr ŵyl yn "bwysicach nag erioed".
"Mae digwyddiad eleni yn gyfle i ddod at ein gilydd, sefyll mewn undod, a dathlu ysbryd gwydn y gymuned LHDTC+ yng Nghymru," ychwanegodd.

Mae Pride Cymru'n ddigwyddiad blynyddol sy'n parhau i dyfu, gyda dros 50,000 yn mynychu yn 2025.
Yn dilyn yr orymdaith mae'r gantores Kate Nash yn perfformio yng Nghastell Caerdydd.
Mae drags Cymraeg gan gynnwys Baroness Mary Golds a Catrin Feelings hefyd yn perfformio, ynghyd â pherfformiadau gan DJs a bandiau.
Bydd y dathliadau'n parhau ddydd Sul, gyda Bright Light Bright Light, sy'n adnabyddus am gydweithio gydag Elton John, a Marmalade o'r rhaglen RuPaul's Drag Race UK yn perfformio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.