Parc Cenedlaethol Eryri i godi gwaharddiad dadleuol ar barcio dros nos

Mae tua pedair miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cytuno i godi cyfyngiadau ar barcio dros nos mewn naw o'u meysydd parcio tra y bydd ymgynghoriadau pellach yn cael eu cynnal.
Cytunodd yr aelodau hefyd i fwrw 'mlaen â'r cyfyngiadau arfaethedig mewn dau faes parcio yn ardal Llyn Tegid.
Daeth y penderfyniad ar ôl gwrthwynebiad gan rai pobl leol ac ymwelwyr, oedd yn dadlau bod y gwaharddiad wedi arwain at fwy o bobl yn parcio dros nos mewn mannau answyddogol fel strydoedd preswyl.
Dywedodd aelodau'r awdurdod hefyd eu bod am weld mwy o frys wrth lunio cynlluniau i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o faniau gwersylla a chartrefi modur yn parcio dros nos am ddim mewn ardaloedd heb gyfleusterau.
'Dyw'r mynydd byth yn ddistaw'
Mae bron i bedair miliwn o bobl yn ymweld ag Eryri bob blwyddyn, gyda llawer o'r rheiny'n dechrau'r daith i gopaon y mynyddoedd yn oriau mân y bore er mwyn gweld yr haul yn codi.
Mae Bryn Hughes o Ddeiniolen yn un sydd wedi gwneud y daith sawl tro.
Yn rhedeg busnes lleol, mae'n arwain grwpiau i ben Yr Wyddfa, gyda theithiau i weld y wawr yn boblogaidd iawn.
"Dwi 'mond wedi bod yn rhedeg y busnes ers pum mlynedd, ond fel rhywun lleol dwi wedi bod yn cerdded y mynyddoedd ers hirach, ac mae o 'di mynd lot mwy o ran niferoedd," meddai.
"Mae pobl isio mynd fyny pan mae'n ddistaw, ond mae mwy a mwy yn mynd fyny i weld yr haul yn codi rŵan, felly dyw'r mynydd byth yn ddistaw."

Mae dringo'r Wyddfa i weld yr haul yn codi wedi cynyddu mewn poblogrwydd, yn ôl Bryn Hughes
Er ei fod yn "gallu deall pwynt y parc yn trio atal campervans rhag parcio dros nos mewn meysydd parcio", dywedodd Bryn fod y gwaharddiad wedi cael gormod o effaith ar bobl eraill hefyd.
Dywedodd: "Dwi ddim yn cytuno efo campervans yn defnyddio maes parcio i wersylla - ti isio iddyn nhw ddefnyddio'r campgrounds a thalu'u ffordd.
"Ond dwi'n meddwl bod stopio pawb rhag parcio yn ystod oriau mân y bore ddim yn gwneud synnwyr.
"Pan 'dach chi'n meddwl am faint o bobl sydd yn mynd i fyny i'r mynydd i weld yr haul yn codi, mae angen llefydd iddyn nhw barcio, yn enwedig achos mae modd iddyn nhw wneud tipyn bach o bres gan y bobl yma."
Ychwanegodd: "Mae'r gwaharddiad wedi rhoi mwy o bwysau ar Lanberis hefyd achos mae sawl maes parcio yno, felly mae'n haws mynd i fanno, ond dim ond un lle sydd ar gyfer llwybrau Waktin, Rhyd Ddu a Cwellyn, felly os ma' gwaharddiad ma' pobl am barcio ar y stryd neu fynd i Lanberis yn lle."
'Gwneud eu busnes yn ein gerddi'
Nid Bryn Hughes oedd yr unig un i gwestiynu'r gwaharddiad.
Ym mis Ebrill dywedodd pobl leol wrth y BBC eu bod yn ofni y byddai'r rheolau newydd yn annog mwy o bobl i barcio mewn strydoedd preswyl.
Dywedodd Richard Edwards, perchennog gwesty gwely a brecwast ym Metws-y-coed, mai dyna'n union oedd wedi digwydd.
"Dyma un o'r unig strydoedd yn y pentref sydd heb gyfyngiadau parcio, felly mae o hyd wedi denu pobl mewn campervans, ond mae'r gwaharddiad parcio dros nos wedi gwneud pethau'n waeth," meddai.
"Mae yna barc gwersylla 300 llath i ffwrdd, ond maen nhw dal yn dod yma gan achosi trafferthion mynediad i'r stryd, gollwng sbwriel a hyd yn oed gwneud eu busnes yn ein gerddi a'n meysydd parcio."

Roedd y parc cenedlaethol wedi gwahardd pobl rhag defnyddio'r meysydd parcio rhwng 22:00 a 03:00
Cyn cyfarfod cyffredinol blynyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddydd Mercher, daeth adroddiad gan y prif weithredwr i'r casgliad bod angen rhoi saib ar y newidiadau i oriau agor y meysydd parcio yn y rhan fwyaf o'r safleoedd er mwyn ystyried yn llawn yr effaith ar ddefnyddwyr.
Ychwanegodd yr adroddiad fod problemau sy'n gysylltiedig â gwersylla dros nos yn cynnwys sbwriel, gwastraff dynol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ogystal â'r ffaith nad yw'n cefnogi safleoedd carafanau a gwersylla cyfreithlon sydd eisoes yn gweithredu yn yr ardal.
"Mae'r awdurdod wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb i'r broblem hon, er nad yw'n fater syml," meddai'r adroddiad, a gafodd ei drafod gan yr aelodau.

Mae sawl un o'r meysydd parcio dan sylw wedi eu lleoli o amgylch Yr Wyddfa
Cyn penderfyniad yr aelodau ddydd Mercher, roedd parcio dros nos wedi'i wahardd rhwng 22:00 a 03:00 mewn naw o'r safleoedd, a rhwng 22:00 a 06:00 yn Llyn Tegid a Llangywer.
"Y prif reswm am hyn yw nad yw defnyddio'r meysydd parcio hyn yn ystod y nos yn cael ei ystyried yn hanfodol i bobl allu mwynhau'r parc cenedlaethol," meddai'r adroddiad.
"Prif ddefnydd y meysydd parcio hyn yw darparu mynediad yn ystod y dydd i Lyn Tegid a'r ardal gyfagos."
Bydd ymgynghoriadau pellach yn cael eu cynnal gyda gwahanol sefydliadau a defnyddwyr y parc cenedlaethol cyn ailystyried y mater.
Daw'r adroddiad i'r casgliad: "Mae'n annhebygol y bydd un ateb syml neu gyflym i'r broblem hon, ond byddwn yn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda'i gilydd i geisio dod o hyd i ateb.
"Os na fydd modd dod o hyd i ateb llawn, byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill o leihau'r broblem."
Yn ystod y cyfarfod ddydd Mercher, cytunodd yr aelodau i roi saib ar y cyfyngiadau mewn naw maes parcio tra bydd gwaith pellach yn cael ei wneud ar y mater.
Mae papur pellach i fod i gael ei gyflwyno i aelodau'r awdurdod ym mis Medi, a bydd swyddogion hefyd yn adrodd yn ôl yng nghyfarfod 9 Rhagfyr ar sut mae'r cyfyngiadau yn y meysydd parcio yn ardal Llyn Tegid wedi gweithio yn ymarferol.
Dywedodd yr aelodau hefyd eu bod am weld mwy o frys wrth ddatblygu atebion i'r broblem o faniau gwersylla a chartrefi modur yn parcio dros nos mewn mannau lle nad oes cyfleusterau addas ar eu cyfer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.