Kevin Sinnott, artist 'Running Away with the Hairdresser', wedi marw

- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Kevin Sinnott a ddaeth i enwogrwydd am ei lun 'Running Away with the Hairdresser' wedi marw yn 78 oed.
Cafodd Mr Sinnott ei eni yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr i rieni Gwyddelig.
Mae'r llun enwog 'Running Away with the Hairdresser' - sy'n ddelwedd o ddau ffigwr yn rhedeg ar hyd stryd teras - i'w weld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Roedd llun tebyg i 'Running Away with the Hairdresser' - hefyd o waith yr artist - ar werth yn 2023
Yn 2023 aeth llun tebyg o waith yr artist ar werth.
Roedd Kevin Sinnott yn dal i baentio yn ei gartref yng Nghwm Garw tan yn ddiweddar, ac roedd yn cael ei ddisgrifio fel un o arlunwyr diweddar mwyaf blaenllaw Cymru.
Wedi'i hyfforddi yng Ngholeg Celf Brenhinol Llundain, bu'n llwyddiannus iawn yn yr 1980au gydag arddangosfeydd mewn galerïau blaenllaw yn Llundain a'r Unol Daleithiau.
Cafodd ei waith ei brynu hefyd gan y Metropolitan Museum of Art yn Efrog Newydd, y Cyngor Prydeinig, Coleg Celf Brenhinol Llundain, yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2023
