Cyhuddo dyn 22 oed o lofruddio dyn arall yn Y Trallwng

Bu farw Young John Mongan yn y digwyddiad yn oriau mân bore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall ym Mhowys dros y penwythnos.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i'r digwyddiad ar Stryd yr Eglwys yn Y Trallwng am 01:16 fore Sul.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw Young John Mongan, 49 oed o Walsall.
Mae Martin Slezak o'r Trallwng wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
