'Braf cael chwalu'r stereoteip am bobl hoyw' a siarad Cymraeg

Elisha
Disgrifiad o’r llun,

Elisha Davies o Sir Gaerfyrddin oedd un o sêr ail gyfres I Kissed a Girl

GanGwen Aeron
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Elisha Davies o Sir Gaerfyrddin yn dweud mai'r negeseuon y mae hi wedi'u derbyn gan fenywod eraill ers ymddangos ar y gyfres I Kissed a Girl yw'r peth fydd yn aros gyda hi fwyaf.

Ers i'r ferch 22 oed ymddangos ar ail gyfres y rhaglen garu ar BBC Three ym mis Mehefin dywed bod nifer wedi cysylltu â hi yn diolch iddi am eu cynrychioli nhw a hynny am y tro cyntaf.

"Mae llawer o bobl yn dal i feddwl bod merched hoyw yn edrych mewn ffordd benodol ond dyw hynny ddim yn wir," meddai.

"Dwi wedi cael cymaint o negeseuon gan bobl sy'n edrych fel fi. Mae pobl wedi dweud wrtha i drwy'r amser fy mod i'n edrych yn rhy straight, neu eu bod nhw'n meddwl mai ally ydw i.

"Roedd hi'n neis iawn gweld bod pobl yn uniaethu efo fi. Dyna pam mae'r sioe yma mor bwysig - mae'n chwalu'r stereoteipiau am sut mae pobl yn meddwl y dylai merch hoyw edrych."

Mae'r ffeinal wedi'i darlledu'r wythnos hon, gyda Elisha a'i phartner ar y rhaglen, Elise, yn dewis ymrwymo i'w gilydd.

Ers hynny mae Elisha wedi cadarnhau ar y cyfryngau cymdeithasol nad yw'r berthynas wedi parhau ond bod y ddwy yn parhau'n ffrindiau.

Elisha
Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiodd Elisha'r Gymraeg wrth gyflwyno ei hun ar bennod gyntaf y gyfres

Er mai rhaglen garu yw I Kissed a Girl, mae Elisha'n dweud nad dod o hyd i berthynas oedd y prif reswm dros fynd ar y rhaglen.

"Doeddwn i ddim jyst am ddod o hyd i gariad," meddai.

"Dwi wedi stryglo gydag anxiety ers blynyddoedd, ac roedd y syniad o fynd ar y teledu yn fy nychryn i.

"O'n i eisiau profi i fi fy hun nad yw bod yn bryderus yn golygu na alla i wneud rhywbeth. O'n i eisiau gwthio fy hun allan o'r parth cysurus.

"Pan dwi'n edrych yn ôl, roedd y profiad yn hollol anhygoel. Fyddwn i ddim yn newid dim."

Yn ogystal â dod i adnabod Elise, mae'n dweud mai'r cyfeillgarwch mae hi wedi'i ffurfio yw un o uchafbwyntiau'r profiad.

"Dwi wedi gwneud ffrindiau fydd gyda fi am oes. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn fy mod i wedi dod allan o'r profiad gyda pherthynas a gyda ffrindiau gorau newydd."

'Defnyddio'r Gymraeg yn bwysig'

Yn ystod eiliadau cyntaf y rhaglen fe wnaeth Elisha gyflwyno ei hun yn Gymraeg drwy ddweud: "Dwi'n barod i gusanu merch."

Roedd hynny'n benderfyniad bwriadol, meddai.

"O'n i eisiau dangos cynrychiolaeth Gymreig a defnyddio'r Gymraeg ar y teledu.

"Ges i gymaint o negeseuon positif gan bobl yn dweud pa mor braf oedd clywed rhywun yn siarad Cymraeg ar raglen fel hon.

"Glywes i hefyd fod pobl mewn watch parties yng Nghaerdydd wedi bloeddio pan o'n i'n ymddangos ac yn siarad Cymraeg. Roedd hynny'n neis iawn."

Dewisodd Elisha ac Elisa ymrwymo i'w gilydd yn y ffeinal
Disgrifiad o’r llun,

Dewisodd Elisha ac Elisa ymrwymo i'w gilydd yn y ffeinal

‘Haeddu cael rhaglen fel hyn’

Yn mis Mawrth fe wnaeth y BBC gadarnhau na fydd I Kissed a Girl yn dychwelyd ar ôl yr ail gyfres.

Dywedodd y gorfforaeth ei bod yn "eithriadol o falch" o'r rhaglen, ond bod yn rhaid gwneud "penderfyniadau anodd" oherwydd pwysau ariannol.

Mae Elisha'n gobeithio nad dyma ddiwedd rhaglenni o'r fath.

"Dwi'n credu ein bod ni'n haeddu cael rhaglenni fel hyn ar y teledu. Pan dwi'n edrych ar y negeseuon dwi wedi'u cael, mae'n fy atgoffa bob dydd pa mor bwysig oedd y rhaglen yma i bobl.

"Mae llawer o'r negeseuon wedi dod gan ferched sy'n dweud, 'Dyma'r gynrychiolaeth femme rydyn ni ei hangen.' Mae hynny'n golygu cymaint achos mae'n dangos i bobl eu bod nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain.

"Mae'r ymateb mae'r sioe wedi'i gael yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl, felly dwi'n gobeithio y bydd rhywun arall yn ei chodi hi yn y dyfodol.

"Mae'n drist iawn dweud hwyl fawr iddi, ond dwi wedi mwynhau pob eiliad o'r profiad. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig