Be' nesa' i dîm merched Cymru yn y ras am le yng Nghwpan y Byd?

Mae Cymru wedi gorffen ar frig eu grŵp rhagbrofol
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n deg dweud ein bod ni wedi gweld y gorau a'r gwaethaf o Gymru yn ystod ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd 2027 hyd yn hyn.
O ran y pethau positif - maen nhw wedi gorffen ar frig y grŵp sy'n golygu llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail-gyfle, a hynny yn sgil buddugoliaeth wych yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond roedd 'na berfformiadau siomedig oddi cartref, yn enwedig yn Montenegro, sydd 56 safle yn is na Chymru ar restr detholion y byd, gyda'r gêm yn gorffen yn gyfartal 1-1.
Mae digon o bethau i'r rheolwr Rhian Wilkinson bendroni felly cyn y gemau ail-gyfle cyn diwedd y flwyddyn.
Y gemau ail-gyfle
Felly sut maen nhw'n gweithio?
Bydd trefn y gemau yn cael eu cyhoeddi ar 18 Mehefin, a bydd gennym ni well syniad bryd hynny o obeithion Cymru o gyrraedd y rowndiau terfynol ym Mrasil yr haf nesaf.
Roedd Cymru yn yr ail haen - Adran B - yn ystod yr ymgyrch ragbrofol, ac fe fyddan nhw'n wynebu tîm orffennodd yn ail neu'n drydydd yn Adran B dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol.
Fe fyddan nhw felly yn wynebu naill ai Twrci, Y Ffindir, Gwlad Belg, Gogledd Iwerddon, Slofacia neu Israel, neu'r Weriniaeth Tsiec neu Albania eto.
Bydd y gemau yma'n digwydd rhwng 7 a 13 Hydref.

Cymru yn dathlu cyrraedd Euro 2025 drwy'r gemau ail-gyfle
Ennill y rownd gynderfynol a bydd Cymru'n chwarae mewn rownd derfynol, eto dros ddau gymal, rhwng 26 Tachwedd a 5 Rhagfyr.
Dyma lle byddan nhw fwy na thebyg yn chwarae yn erbyn tîm o'r brif haen - Adran A - all olygu gemau yn erbyn Lloegr, Sweden, Yr Iseldiroedd neu'r Eidal.
Bydd wyth rownd derfynol - gyda saith tîm yn sicrhau eu lle ym Mrasil - ac un tîm buddugol (y detholyn isaf ar restr detholion y byd) yn gorfod chwarae mewn cystadleuaeth gyda thimau o gyfandiroedd eraill am le yn y rowndiau terfynol.
"Mae amseru y gemau ail-gyfle yn dda i ni ym mis Hydref," yn ôl cyn-gapten Cymru Kath Morgan.
"Mi fydd y rhan fwyaf o'r chwaraewyr wedi cael dau fis llawn o gemau cystadleuol gyda'u clybiau.
"Mae'r perfformiad yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec yn rhoi gobaith i fi gan eu bod nhw wedi curo tîm da, a rheoli'r gêm o'r dechrau i'r diwedd.
"Maen nhw wedi gorffen yr ymgyrch yn llawn hyder, ac maen nhw'n gwybod be allen nhw ei gyflawni fel tîm os ydyn nhw'n chwarae ar eu gorau."
Ymdopi heb Fishlock

Fe sgoriodd Mared Griffiths dair gôl yn ystod yr ymgyrch ragbrofol
Hon oedd ymgyrch ragbrofol gyntaf Cymru ers i Jess Fishlock ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Yn cael ei chydnabod fel y chwaraewr gorau yn hanes tîm y merched gyda 165 o gapiau a 48 o goliau, maen nhw'n esgidiau anferth i'w llenwi.
Mared Griffiths sydd bellach yn gwisgo'r crys rhif 10 - hen rif Fishlock - ac mae'n ymddangos ei bod hi'n mynd i fod yn dipyn o seren.
19 oed ydi'r ferch o Drawsfynydd sy'n chwarae i Manchester United, ac mae Rhian Wilkinson wedi rhoi lot o ffydd ynddi dros y misoedd diwethaf.
Fe sgoriodd hi dair gôl yn yr ymgyrch ragbrofol ac yn barod mae hi'n edrych yn gwbl gyfforddus ar y llwyfan rhyngwladol.
'Swn i'n synnu dim gweld Wilkinson yn adeiladu tîm Cymru o'i hamgylch dros y blynyddoedd nesaf.

Fe enillodd Laura Hughes un cap dros Awstralia cyn cynrychioli Cymru
Mae 'na chwaraewyr eraill wedi creu argraff yn ystod yr ymgyrch hefyd.
Mae Hannah Cain wedi datblygu i fod y dewis cyntaf yn y llinell flaen gyda chwe gôl yn ei chwe gêm ddiwethaf, gyda Ceri Holland yn profi unwaith eto pa mor bwysig ydi hi i'r tîm gyda'i pherfformiadau cyson a'i gallu i greu goliau.
Ond yr un sydd wedi sefyll allan fwyaf i fi yn ddiweddar ydi Laura Hughes, er mai dim ond tair gêm mae hi wedi ei chwarae dros Gymru.
Yn chwarae i glwb Melbourne City, mae hi wedi ennill un cap dros Awstralia, ond gan mai gêm gyfeillgar oedd hi, roedd ganddi'r hawl i newid ei meddwl a chynrychioli Cymru gan fod teulu ei mam yn byw ym Mhorthcawl.
Yn chwaraewr canol cae technegol gwych, a dim ond yn 24 oed, mae hi am fod yn chwaraewr pwysig i Gymru dros y degawd nesaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
