Ozzy, y 'ci bionig' o Geredigion a'r cyntaf o'i fath ym Mhrydain

Cerys Davies, gyda Ozzy ar ei glin
- Cyhoeddwyd
Mae ci o ardal Aberystwyth yn cael ei alw'n 'gi bionig' yn dilyn triniaeth cwbl newydd i drin anaf i'w goes.
Ozzy, sy'n Australian Cattle Dog, yw'r ci cyntaf ym Mhrydain i gael darn o ditaniwm bionig wedi'i ffitio fel cymal yn ei goes.
Roedd perchennog Ozzy, Cerys Davies, sy'n byw yn Nhrawscoed, yn trafod yr hanes ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar 9 Mehefin.
"Ges i fe pan oedd e'n gi ifanc iawn, ar fy mhen-blwydd," meddai Cerys. "O'n i wedi bod yn chwilio am gi fel fe am tua dwy flynedd - dydyn nhw ddim yn frîd hawdd i gael gafael arno.
"'Nes i weld y brîd yn gyntaf ar Facebook, ac o'n i'n meddwl bo' nhw'n gŵn mor bert, ac bod fi moyn un - o'n i eisiau un gyda dwy lygad ddu fel sydd gan Ozzy."

Fe brynnodd Cerys ei chi, Ozzy, o ardal Durham
Roedd Ozzy'n gi hyfryd bach yn ôl Cerys, ond pan oedd tua 18 mis oed fe sylwodd Cerys nad oedd mor fywiog ag yr oedd, a'i fod yn dueddol o hercian.
"Es i nôl a mlaen at y vets lleol, ac yn y diwedd gafon ni'n gyrru i arbenigwyr ym Mryste i drio gweld beth oedd yn mynd 'mlan."
Trininaeth arloesol
Mae'r driniaeth arloesol y cafodd Ozzy yn arwyddocaol gan ei fod y cyntaf o'i fath ar ynysoedd Prydain, ond fe all fod yn driniaeth gyffredin yn y dyfodol agos.
Esboniodd Cerys pam y dewisodd fynd am yr opsiwn yma i Ozzy.
"Es i am yr opsiwn achos oedd e'n gi mor ifanc, ac roedd hwn yn rhoi'r mwyaf o symudiad yn ei goes e. Hwn oedd yn gadael iddo fe fod mor actif â phosib, ac o'n i isie fe gael y bywyd gore bosib."

Y cymalau newydd bionig sydd yng nghoes Ozzy
Mae'r darn sydd wedi ei roi yng nghoes Ozzy wedi ei greu yn arbennig a'i bersonoli iddo ef, nid darn generig.
"'Nathon nhw dynnu sawl llun o'i goes e er mwyn creu 3D image, fel bo' nhw'n gallu printio'r ffêr yn berffaith. Mae'n fodel perffaith o'i ffêr e, ac yn ffitio'n iawn iddo ef.
"Roedd y driniaeth mis Rhagfyr, ac os edrychwch chi arno fe nawr bydde chi byth yn gallu dweud ei fod wedi cael triniaeth, dydy e ddim yn dangos dim byd fel hercian na dim."

Ozzy wedi'r driniaeth
Dywed Cerys ei bod hi'n hynod falch o'r penderfyniad i ddewis y driniaeth yma i Ozzy, gan ei fod wedi rhoi bywyd newydd i'w chi.
"Dwi'n falch iawn achos dydy e ddim mewn poen fel o'dd e. Mae e wedi newid yn llwyr - mae ei gymeriad e rili wedi dod mas ers cael y driniaeth."
Mae'r arbenigwyr ym Mryste'n ffyddiog y bydd coes Ozzy'n parhau'n iach ac yn gryf am gyfnod maith, ac y bydd y ci llawn egni yn rhedeg ar gaeau Trawscoed am flynyddoedd i ddod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Ionawr

- Cyhoeddwyd9 Medi 2025

- Cyhoeddwyd15 Mai
