Achos newydd yn erbyn dyn oedd wedi'i gyhuddo o dreisio yn Eisteddfod Boduan

Emlyn Jones yn gadael y llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyddiad wedi'i bennu ar gyfer achos o'r newydd yn erbyn ffermwr o Ddyffryn Conwy oedd wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yr oedd wedi ei chyfarfod yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Roedd Emlyn Jones, 27 oed o Gapel Curig, wedi gwadu'r pedwar cyhuddiad yn ei erbyn, gan gynnwys ymosodiad rhyw, crogi bwriadol a threisio.
Ar derfyn achos a barodd bedwar diwrnod, fe gafodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon eu rhyddhau ddydd Gwener, 12 Mehefin, ar ôl methu â dod i ddyfarniad.
Fe gafodd Mr Jones ei ryddhau ar fechnïaeth.
Yn dilyn yr achos roedd Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cael saith diwrnod i benderfynu a oeddent yn bwriadu parhau gyda'r erlyniaeth ac a ddylid cynnal achos o'r newydd.
Heddiw, yn dilyn adolygiad pellach, daeth cadarnhad bod dyddiad wedi ei bennu sef 7 Mehefin 2027 yn Llys y Goron Caernarfon.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin

- Cyhoeddwyd9 Mehefin

- Cyhoeddwyd8 Mehefin
