Biliau llety gwyliau o £15,000 yn gwneud i deulu ystyried gadael Powys

Mae Siwan Humphreys yn dweud bod y biliau wedi rhoi straen ariannol ar ei theulu
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Bowys yn dweud bod biliau uchel o ganlyniad i'r rheolau ar lety gwyliau hunanarlwyo wedi rhoi straen ariannol sylweddol arni hi a'i theulu.
Dywedodd Siwan Humphreys, 36, fod y biliau ar gyfer dau fwthyn mae hi'n eu gosod wedi bod dros £15,000 mewn tair blynedd, a'i bod yn ystyried symud o'i chartref.
Yng Nghymru, os nad yw llety hunanarlwyo yn cael ei osod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn, gall gael ei ddynodi fel ail gartref, gan olygu bod rhaid talu treth cyngor ac, mewn rhai ardaloedd, premiwm ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru - a gyflwynodd y rheolau - yn dweud y byddan nhw'n parhau i adolygu'r trothwy hwnnw.

Fe adnewyddodd Siwan hen feudy a garej yn ddau lety gwyliau yn 2016
Mae Siwan yn wreiddiol o bentref Carno ac wedi dychwelyd i fyw yno gyda'i phartner a'i dau blentyn ar ôl cyfnod i ffwrdd.
Fe sefydlodd ddau lety gwyliau drwy adnewyddu hen feudy a garej ger cartref y teulu yn 2016.
Mae hi'n dweud nad ydyn nhw'n addas fel cartrefi i bobl fyw ynddyn nhw.
Yn 2023, fe sefydlodd Llywodraeth Cymru'r rheolau newydd ar lety hunanarlwyo.
Ar ddiwedd 2024 fe gafodd Siwan fil treth cyngor o £10,000 ar gyfer y ddau.
Roedd hynny'n "panic stations", meddai, ac fe gafodd fenthyciad i'w dalu.
Mae hi'n dweud iddi gyflwyno dogfennaeth sy'n dangos ei bod wedi cyrraedd y trothwy 182 diwrnod.
O ganlyniad, fe all fod yn gymwys i dalu trethi busnes, sy'n rhatach na threth cyngor, ac mae'r broses honno'n parhau.
Y polisi 'ddim yn annog fi i aros'
Eleni, mae hi hefyd wedi cael bil ychwanegol o £5,000.
Dywedodd bod y biliau wedi rhoi pwysau ariannol arni hi a'i theulu.
"Dwi 'di cymryd mwy o waith ac mae gen i fwy o swyddi rhan-amser," meddai.
"Jyst y straen o orfod talu'r biliau yma, a ti ddim yn gwybod os wyt ti'n mynd i gael yr arian yma yn ôl, na ydy o werth aros fan hyn?"

Mae Siwan yn dweud nad yw'r llety'n addas i'w ddefnyddio fel cartref parhaol
Mae hi'n ofni na fydd y bythynnod yn cyrraedd y trothwy yn y dyfodol, ac na fydd hi'n gallu fforddio talu'r dreth cyngor ychwanegol, na'r premiwm ar ben hynny ym Mhowys, sy'n 75%.
I lety gwyliau ym mand D yn y sir, fe fyddai hynny'n costio dros £4,000 y flwyddyn.
"Dwi'n gallu gweld y bwriad tu ôl y polisi," meddai Siwan.
"Mae'n bwysig bod 'na lefydd i bobl fyw, yn enwedig mewn lle fel hwn, a 'da ni eisiau denu pobl i'r ardal tra'n cadw pobl leol yma hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig Cymraeg.
"Dydy'r polisi yma ddim yn annog fi i aros o gwbl, ac mae'n teimlo fel ei fod yn gyrru fi o'r ardal.
"Dydy'r polisi ddim yn gweithio i bawb."
Yn ariannol, meddai, dydy hi ddim yn "gwneud synnwyr" i aros, ac mae'r syniad o adael yn "dorcalonnus".
Ychwanegodd: "Y prif beth sy'n cadw ni yma yw'r plant - maen nhw'n rili hapus."
Beth ydy'r rheolau?
Yn flaenorol, roedd eiddo oedd ar gael i'w rentu am o leiaf 140 diwrnod, ac yn cael ei osod am 70, yn gymwys i dalu trethi busnes is yn hytrach na threth cyngor.
Mae'r system honno yn parhau i fodoli yn Lloegr.
Yng Nghymru, mae angen i eiddo fod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod a chael ei osod am 182.
Os na, maen nhw'n gallu cael eu dynodi fel ail gartrefi ac felly'n gorfod talu treth cyngor, ac mewn ardaloedd penodol, premiwm ychwanegol ar ben hynny.
Roedd y rheol yn rhan o ddeddfwriaeth i geisio cryfhau mesurau i fynd i'r afael â phrinder tai fforddiadwy mewn rhannau o Gymru sy'n boblogaidd gyda thwristiaid a pherchnogion ail dai.

Dywedodd Siân Gwenllian fod y trothwy 182 diwrnod yn parhau dan adolygiad
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y trothwy o 182 diwrnod yn parhau dan adolygiad.
"Dwi'n deall bod rhai pobl yn pryderu am y sefyllfa yma," meddai'r Gweinidog Tai, Siân Gwenllian.
"Gall yr adolygiad fod yn edrych ar eithriadau.
"Dydy pob achlysur ddim efallai yn gweddu ar gyfer bod yn rhan o'r stoc tai presennol - er enghraifft anheddau neu lety wrth ymyl fferm."
Yn ôl Cyngor Powys, pan mae eiddo hunanarlwyo yn cael ei ddynodi fel un sydd i fod i dalu treth cyngor, mae angen i'r perchennog gydymffurfio â'r gofynion hynny o dan ddeddfwriaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth

- Cyhoeddwyd28 Awst 2025

- Cyhoeddwyd28 Ionawr
