Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:17 GMT+1 6 Awst

    Diolch am ddilyn ein llif byw heddiw.

    Dyma oriel o rai o'n hoff luniau o'r dydd ac uchafbwyntiau'r cystadlu yn y Pafiliwn.

    Fe fydd criw Cymru Fyw yn crwydro'r maes eto yfory, welwn ni chi yn Llantwd!

    Medal DdramaFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  2. Ymwelwyr y prynhawnwedi ei gyhoeddi 17:16 GMT+1 6 Awst

    Mae ymwelwyr y prynhawn yn gwneud y mwyaf o'r tywydd braf ar y maes.

    Roedd Megan a Betsi o Gaerdydd yn falch o'u hetiau newydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Megan a Betsi o Gaerdydd yn falch o'u hetiau newydd

    Mae Sharon a Tony wedi teithio o Aberaeron i fwynhau'r arlwy
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Sharon a Tony wedi teithio o Aberaeron i fwynhau'r arlwy

  3. Y Babell Lên yn dathlu Anne Pashwedi ei gyhoeddi 17:12 GMT+1 6 Awst

    Roedd cynulleidfa fawr yn y Babell Lên brynhawn heddiw ar gyfer digwyddiad oedd yn dathlu cyfraniad Anne Pash i fyd llefaru.

    Y Babell Lên
  4. Gareth Evans-Jones 'ar ben ei ddigon' wedi seremoni Medal y Dramodwyrwedi ei gyhoeddi 17:03 GMT+1 6 Awst

    Enillwyr Medal y Dramodydd yn cael eu cyfweld ar y maes wedi'r seremoni
    Disgrifiad o’r llun,

    Enillwyr Medal y Dramodydd yn cael eu cyfweld ar y maes wedi'r seremoni

    Mae Gareth Evans-Jones, wnaeth ennill y Fedal Ryddiaith ddoe, yn cadw cwmni i Iwan Griffiths yn stiwdio Radio Cymru. Dywedodd ar ôl y seremoni:

    "Dwi wrth fy modd. Mae Lois yn llenor eithriadol ac mae Mirain yn arbennig hefyd fel dramodydd.

    "Mae'n enghraifft o ogoniant byd y ddrama a'r sector o ran cydweithio. Mae modd cael dau neu fwy yn cydweithio, ac wedyn y gymuned yn dod ynghŷd. Dwi ar ben fy nigon.

    "Wrth gael cywaith, mae'n awgrymu fod cryfderau y ddwy yn dod at ei gilydd."

  5. Angen dwy gadairwedi ei gyhoeddi 17:02 GMT+1 6 Awst

    Ar ôl cyrraedd y llwyfan, cafodd dwy gadair eu gosod er mwyn i Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw dderbyn Medal y Dramodydd a mwynhau dehongliad o'u gwaith buddugol.

    Enillwyd y Fedal Ddrama
    Dramodydd
  6. Y gynulleidfa'n llongyfarch y dramodwyr buddugolwedi ei gyhoeddi 16:52 GMT+1 6 Awst

    Melda a Mirain
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe gafodd Melda a Mirain groeso cynnes yn y Pafiliwn ar ôl sefyll ar eu traed

    Mae Sian Eirian wedi cyflwyno dwy fedal i'r enillwyr ar y llwyfan.

  7. Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones yn ennill Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:45 GMT+1 6 Awst

    Medal y Dramodydd

    Cywaith rhwng Melda Lois Griffiths a Mirain Alaw Jones sydd wedi dod i'r brig yng nghystadleuaeth Medal y Dramodydd yn Eisteddfod y Garreg Las.

    Eglura Nic Parry wedi eu croesawu i'r llwyfan.

    "Dyma'r unig gystadleuaeth o'r prif gystadlaethau, ble mae cydweithio yn cael ei ganiatáu".

    Mwy yma.

  8. 'Cwch Gwenyn' gan Ymlaen sy'n cipio Medal y Dramodydd... ond pwy yw'r dramodydd?wedi ei gyhoeddi 16:42 GMT+1 6 Awst

    Mae aelodau o'r panel oedd yn beirniadu eleni wedi cyhoeddi mae 'Cwch Gwenyn' yw enw'r ddrama ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth.

    Ond pwy yw Ymlaen, y dramodydd buddugol?

    Ar ganiad y cyrn, mae dau berson wedi codi ar eu traed...

  9. 18 cais yng nghystadleuaeth Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:33 GMT+1 6 Awst

    Medal y Dramodydd

    Wrth agor y seremoni, mae Nic Parry wedi cyhoeddi fod 18 cais yng nghystadleuaeth Medal y Dramodydd eleni.

    Roedd gwahoddiad i ddramodwyr i gyflwyno naill ai fraslun o ddrama ac enghraifft o olygfeydd, neu ddrafft o ddrama lawn.

  10. Medal y Dramodyddwedi ei gyhoeddi 16:23 GMT+1 6 Awst

    Mae Seremoni Medal y Dramodydd ar fin dechrau ac mae digon o ffyrdd i'w dilyn ar-lein:

    Ac wrth gwrs, arhoswch gyda ni yma ar Cymru Fyw!

  11. Digonedd yn digwydd ar y maeswedi ei gyhoeddi 16:19 GMT+1 6 Awst

    Draw yn y Tebot Hud, mae'r derwydd Kristopher Hughes wedi bod yn egluro wrth Eisteddfodwyr sut mae mynd ati i ddarllen cardiau tarot.

    Kris Hughes

    Tra bod Lywis, un o gystadleuwyr cyfres Y Llais yn diddanu cynulleidfa ar lwyfan Mas ar y Maes.

    Lywis

    Ac mae'r criw yma o berfformwyr stryd hefyd yn boblogaidd.

    Perfformwyr stryd
  12. 'Byddwch yn falch o'r iaith... peidiwch byth bod ag ofn ei siarad'wedi ei gyhoeddi 16:12 GMT+1 6 Awst

    Dyma ran o araith Carys Garnon James, Arweinydd Cymru a'r Byd Eisteddfod y Garreg Las yn y Pafiliwn brynhawn heddiw.

    Yn enedigol o Landudoch, mae Carys wedi byw mewn pentref gwledig yn Bafaria ers 40 mlynedd.

    Gwyliwch isod.

  13. 28 o gyn-enillwyr Gwobr Goffa Osborne Roberts ar lwyfan y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 16:07 GMT+1 6 Awst

    BBC

    Cyn cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts, cafodd 28 o gyn-enillwyr y gystadleuaeth eu croesawu ar lwyfan y Pafiliwn.

    Mae'r wobr - y Rhuban Glas i gantorion rhwng 19 a 25 oed - yn cael ei gyfrif fel un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol. Eleni, mae'n 75 o flynyddoedd ers ei sefydlu.

    Fe wnaeth Teifryn Rees, enillydd y wobr yn Eisteddfod 1961 ac sydd bellach yn 91 oed, arwain wrth i'r Pafiliwn gyd-ganu Unwaith Eto 'Nghymru Annwyl.

    Byddwn yn darganfod pwy yw'r enillydd eleni yn fuan...

    Teifryn Rees yn y Pafiliwn
  14. 'Mae'r diolch i Richard a Wyn yn enfawr'wedi ei gyhoeddi 16:03 GMT+1 6 Awst

    Mewn sesiwn ym mhabell Encore, mae Kevin Davies ac Eirian John wedi bod yn hel atgofion am sîn gerddoriaeth fywiog ardal yr Eisteddfod yn ystod yr 80'au.

    Hefyd yn cymryd rhan roedd Malcolm Neon, Graham Bowen, Hubert Mathias ac Eirian John. Fe gafodd Aled Hughes sgwrs â Kevin ac Eirian ar ôl y sesiwn,

    Roedd cyfraniad Richard ac Wyn Jones, y ddau frawd sefydlodd Stiwdio Fflach yn amlwg iawn yn y drafodaeth.

    Meddai Eirian: "Roedd Richard a Wyn yn fodlon helpu pawb. Roedd unrhyw grŵp oedd eisiau yn cael cyfle i recordio yn stiwdio Fflach - roedd hwnna yn amhrisiadwy".

    Gwrandewch yn llawn isod.

  15. Cyfle i ymarfer i Parti'r Ddinaswedi ei gyhoeddi 15:52 GMT+1 6 Awst

    Roedd Parti'r Ddinas yn ddiolchgar o ddod o hyd i le er mwyn ymarfer cyn cystadlu brynhawn heddiw.

    Parti'r Ddinas
  16. Dathlu cyfraniad Dyfed Elis-Gruffyddwedi ei gyhoeddi 15:42 GMT+1 6 Awst

    Daeth torf fawr i lwyfan Sfferen i wrando ar drafodaeth am fywyd a gwaith y daearegwr a'r awdur Dr Dyfed Elis-Gruffydd.

    Roedd yn byw ym mhentref Llechryd ger Aberteifi.

    Ar un adeg roedd yn un o olygyddion a chyfarwyddwyr cyhoeddi Gwasg Gomer.

    Bu hefyd yn bennaeth Amgueddfa Wlân Cymru, ac yn ddarlithydd yn Adran Ddaeareg a Daearyddiaeth Polytechnig Dinas Llundain ac yn ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

    darlith
  17. Digon o chwerthin yng Nghaffi Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:34 GMT+1 6 Awst

    Roedd digonedd o chwerthin i'w glywed o Gaffi Maes B wrth i'r digrifwr, Carwyn Blayney berfformio set stand yp.

    Caffi Maes B
    Torf Caffi Maes B
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth torf fawr i wylio Carwyn, sydd hefyd yn un o gyflwynwyr Radio Cymru ar y maes yr wythnos hon

  18. 'Dod gartref' i dderbyn y Fedal Wyddoniaeth yn anrhydedd i'r Athro Siwan Davieswedi ei gyhoeddi 15:25 GMT+1 6 Awst

    Dyma ymateb yr Athro Siwan Davies yn dilyn seremoni Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod brynhawn heddiw.

  19. Beirniaid yr Eisteddfod yn 'sarhaus' drwy ddisgrifio nofel awdur fel un gan AIwedi ei gyhoeddi 15:17 GMT+1 6 Awst

    Mae awdur sydd wedi dysgu Cymraeg wedi dweud fod beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn "sarhaus" tuag at ei nofel.

    Daw wedi iddyn nhw ddweud yn y seremoni ddydd Mawrth eu bod yn credu i un o'r ymgeiswyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith.

    Fe gysylltodd awdur y nofel, Romy Wood o Gaerdydd, gyda BBC Cymru yn dweud nad oedd hi wedi defnyddio AI i ysgrifennu'r nofel.

    Mewn ymateb i sylwadau Romy Wood fe ddywedodd y beirniaid, Lleucu Roberts, Meinir Wyn Edwards a Llwyd Owen eu bod nhw'n "llwyr dderbyn canllawiau parch yr Eisteddfod".

    "Mae'n ddrwg calon gennym ein bod wedi peri gofid, ond roedd y tri ohonom yn unfarn mai rhyw fath o ddeallusrwydd artiffisial oedd wedi creu'r gwaith."

    Mwy yma.

  20. Llonydd i ddarllen llyfrwedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1 6 Awst

    Yn ogystal â mwynhau holl stondinau y maes, roedd David o Gastell Newydd Emlyn yn falch o gael eistedd lawr i ddarllen llyfr.

    David o Gastell Newydd EmlynFfynhonnell y llun, bbc