Crynodeb

  1. 'Rhaid i ni fod yn onest' - Eluned Morganwedi ei gyhoeddi 10:24 GMT+1 30 Mawrth

    Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi cyrraedd - gan ddweud wrth ymgyrchwyr y blaid fod Llafur yn dechrau "pennod newydd" wedi'i seilio ar "degwch y gallwch ei deimlo".

    Mae hi'n dweud bod y maniffesto yn "stori sydd wedi'i gwreiddio yn heriau heddiw ac yn llawn gobaith am yfory."

    "Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn onest lle mae pobl.

    "Rydych chi i gyd wedi'i glywed ar garreg y drws... O dan y cyfan mae teimlad nad yw rhywbeth yn hollol iawn

    "Nid yw pobl yn gofyn am berffeithrwydd ond yr hyn maen nhw ei eisiau yw "mwy o sicrwydd" a llawer llai o ofn", meddai.

    Maniffesto
  2. Llafur yn ceisio ennill pleidleisiau drwy rewi treth incwmwedi ei gyhoeddi 10:22 GMT+1 30 Mawrth

    Felicity Evans
    BBC Cymru

    Mae Llafur Cymru yn ymwybodol mai cost byw yw un o brif bryderon pleidleiswyr, a dyna pam y maen nhw wedi gwneud yr addewid i rewi cyfradd treth incwm.

    Er nad oes unrhyw lywodraeth Gymreig wedi newid cyfradd treth incwm, er bod y pwerau ganddynt, mae'n werth cofio y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i ymestyn y rhewi yn y trothwyon lle mae pobl yn dod yn atebol i dalu treth incwm tan 2031 yn tynnu mwy o bobl i dalu'r dreth am y tro cyntaf neu'n tynnu talwyr presennol i mewn i fracedi treth uwch.

    Mae effaith y "llusgo cyllidol" hwn yn uwch yng Nghymru oherwydd bod cyflogau cyfartalog yn tueddu i fod yn is.

  3. Pledleiswyr eisiau 'sefydlogrwydd'wedi ei gyhoeddi 10:20 GMT+1 30 Mawrth

    Dywedodd Huw Irranca Davies wrth y gynulleidfa yn Abertawe fod y blaid yn ei gweld hi'n anodd ar y stepen drws wrth ymgyrchu.

    Mae'r blaid wedi clywed am "rwystredigaeth" a'r ffaith fod pobl wedi "colli ffydd mewn gwleidyddiaeth" a bod pleidleiswyr eisiau "sefydlogrwydd".

    Yw hyn felly yn cyd fynd â neges y blaid o 'Bennod Newydd' sydd ar flaen eu maniffesto?

    Huw Irranca Davies
  4. 'Ni allwch gynyddu cyflogau gyda TikTok'wedi ei gyhoeddi 10:15 GMT+1 30 Mawrth

    "Fe wnaethon ni amddiffyn yr hyn oedd yn bwysig," meddai Irranca-Davies, gan ddweud bod y blaid wedi amddiffyn y GIG rhag "toriadau'r Torïaid".

    "Mae hwn yn gynllun sydd â thegwch wrth ei wraidd", meddai am addewid y blaid ar gyfer yr etholiad.

    Dywed fod y maniffesto yn "gynnyrch misoedd o waith gan gynifer o bobl".

    "Mae hwn yn gynllun difrifol ar gyfer pennod newydd.

    "Ni allwch drwsio rhestrau aros gyda hashnod. Ni allwch gynyddu cyflogau gyda TikTok."

    "Mae'n rhaid cael cynllun a'r penderfyniad i'w gyflawni."

  5. Treth incwm yn bwnc llosgwedi ei gyhoeddi 10:11 GMT+1 30 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Eluned Morgan ar fin cyhoeddi’r hyn fydd yn rhan o raglen Llafur Cymru pe bai’n nhw’n ymestyn y cyfnod o 27 mlynedd mewn grym.

    Mi fydd hi’n rhoi pwyslais ar gostau byw, yn gwneud addewid i rewi treth incwm yng Nghymru. Ers i Senedd Cymru gael y grym dros drethi incwm yn 2019, nid yw Llywodraeth Cymru wedi eu haddasu.

    Ond gyda’r Ceidwadwyr a Reform yn addo torri ceiniog o gyfraddau treth, a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisiau eu cynyddu, gellir gweld pam mae o’n bwnc llosg.

  6. Huw Irranca-Davies yn agor y digwyddiadwedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1 30 Mawrth

    "Mae'n anodd allan yna", meddai'r dirprwy brif weinidog wrth iddo agor y digwyddiad, gan gyfaddef pa mor anodd yw hi i Lafur Cymru.

    Dywed Huw Irranca-Davies fod pobl eisiau mwy o "sicrwydd" a llai o "ofn yng nghefn eu meddyliau".

    "Byddwn yn rhoi hynny iddyn nhw," meddai.

    Dywed bod Reform yn "cymryd pleidleiswyr Cymru am ffyliaid" ac yn dweud nad yw eu hymgeiswyr yn "ddim mwy na Thorïaid wedi'u hailgylchu".

    Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru yn dewis ffraeo cyfansoddiadol dros helpu'r rhai sy'n agored i niwed, meddai Irranca-Davies.

    ManifestoFfynhonnell y llun, Athena pictures
  7. Siaradwyr cyntaf ar y llwyfanwedi ei gyhoeddi 10:05 GMT+1 30 Mawrth

    Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart yw'r cyntaf ar y llwyfan yma yn y ddinas, gan gyflwyno'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies i annerch y dorf.

  8. Addewid am newidwedi ei gyhoeddi 10:03 GMT+1 30 Mawrth

    Rydym wedi derbyn y maniffesto - pamffled gydag arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan ar y blaen.

    Mae Llafur, sydd wedi bod yn rheoli ers cychwyn datganoli, wedi nodi mai eu haddewid ar gyfer etholiad y Senedd ydy "Pennod newydd i Gymru".

    Mae Morgan wedi sgwennu yn dweud bod teuluoedd ar draws Cymru "wedi gwrthsefyll gormod o stormydd", ond bod Llafur Cymru wedi "gwarchod beth sydd o bwys i'r mwyafrif".

    "Mae pobl yn iawn i obeithio ar gyfer mwy, a dwi'n rhannu eich diffyg amynedd", mae'n nodi.

    "Yr un yw eich hiraeth am newid ag ydyw i mi."

  9. Y maniffesto yn nwylo ein gohebwyrwedi ei gyhoeddi 10:00 GMT+1 30 Mawrth

    Fel y gwelwch chi mae'r maniffesto yn nwylo ein gohebwyr, ac fe fyddwn ni'n dod â'r holl fanylion i chi cyn gynted â phosib.

    Y maniffesto
  10. Pa bleidiau eraill sydd wedi cyhoeddi eu cynlluniau?wedi ei gyhoeddi 09:56 GMT+1 30 Mawrth

    Mae 'na bleidiau eraill wedi rhannu manylion eu maniffestos yn barod.

    Y Ceidwadwyr oedd gyntaf, ac ymhlith eu haddewidion oedd torri treth incwm ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

    Ychydig ddyddiau wedyn daeth lansiad Reform, a ddywedodd y bydden nhw'n blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol petawn nhw'n ennill yr etholiad.

    Am fwy o straeon am yr etholiad ewch yma.

  11. Beth sy'n cael ei gyhoeddi heddiw?wedi ei gyhoeddi 09:53 GMT+1 30 Mawrth

    Maniffesto Llafur sydd dan sylw heddiw, y rhestr o flaenoriaethau ac addewidion gan y blaid os ydyn nhw mewn grym yn y Senedd ar ôl yr etholiad.

    Mae rhai o'u syniadau eisoes wedi eu rhyddhau i'r wasg - ewch yma i weld mwy.

  12. Pwy yw Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 09:50 GMT+1 30 Mawrth

    Eluned Morgan yw Prif Weinidog Cymru, ac arweinydd Llafur Cymru - y ddynes gyntaf i arwain y blaid.

    Pan ymunodd Ms Morgan â Senedd Ewrop yn 1994, hi oedd ond y bumed fenyw o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.

    Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.

    Am 15 mlynedd ar ôl hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.

    Yn 2011 fe gafodd ei dyrchafu’n aelod o Dŷ’r Arglwyddi fel y Farwnes Morgan o Drelái, a bu’n llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Senedd San Steffan, cyn cael ei hethol i Senedd Cymru yn 2016 dros etholaeth ranbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.

    Ers hynny, mae hi wedi cyflawni cyfres o swyddi fel gweinidog, cyn cael ei phenodi’n weinidog iechyd yn 2021, ynghanol y pandemig ac yna ei phenodi yn Brif Weinidog Cymru.

    Gallwch ddarllen fwy am hanes Eluned Morgan yma.

    Eluned MFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Llafur wedi bod wrth y llyw am 27 o flynyddoeddwedi ei gyhoeddi 09:45 GMT+1 30 Mawrth

    Mae 27 mlynedd wrth y llyw yn amser hir yn ôl unrhyw safonau gwleidyddol.

    Ond yn ddiweddar dydy'r polau piniwn ddim wedi bod yn ffafriol iawn i Lafur Cymru, gyda rhai yn credu bod gan y blaid ychydig dros bum wythnos i newid pethau.

    Mae 'na graffu mawr wedi bod ar record y blaid - yn enwedig ar restrau aros y GIG a thargedau sydd wedi eu methu, roedd ymateb gwael yn gyhoeddus yn erbyn y gyfraith 20mya ac mae Llafur wedi cael tri phrif weinidog ers iddi ennill yn ôl yn 2021.

    Mae’r gwrthbleidiau yn teimlo bod llawer o bleidleiswyr eisiau newid a bod cystadleuwyr mwyaf Llafur - Plaid Cymru a Reform - yn ceisio cyflwyno eu hunain fel opsiynau hyfyw ar gyfer llywodraeth.

  14. Beth yw'r dyddiadau pwysig?wedi ei gyhoeddi 09:40 GMT+1 30 Mawrth

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfrif y pleidleisiau

  15. 96 o Aelodau'r Senedd eleniwedi ei gyhoeddi 09:38 GMT+1 30 Mawrth

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

  16. Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?wedi ei gyhoeddi 09:35 GMT+1 30 Mawrth

    Wrth i nifer yr aelodau gynyddu yn y Senedd, mae ffiniau'r etholaethau hefyd yn newid.

    Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o etholaethau, gyda chwe sedd yn y Senedd i bob etholaeth.

    Ewch yma i weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi.

    Map etholaethau

    Bydd y pleidiau yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth ac fe all ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.

    Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol, ac mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau.

    Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.

  17. Etholiad mwyaf nodedig ers '99?wedi ei gyhoeddi 09:34 GMT+1 30 Mawrth

    Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai 2026.

    Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad - fel yr oedd - yn 1999.

    Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y newidiadau i'r modd mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol.

    Ewch yma am ganllaw byr i'r newidiadau.

  18. Croesowedi ei gyhoeddi 09:28 GMT+1 30 Mawrth

    Croeso atom ni wrth i'r Blaid Lafur gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026.

    Fe allwch chi wylio'n fyw o 10:00 ymlaen, gyda disgwyl i'r arweinydd, a'r Prif Weinidog Eluned Morgan, annerch aelodau'r blaid.

    Fe fyddwn ni hefyd yn dod â'r holl ddadansoddi i chi gydol y bore, felly arhoswch gyda ni.