Crynodeb

  1. Mwy o benawdau'r maniffestowedi ei gyhoeddi 11:24 GMT+1 7 Ebrill

    Mae'r blaid yn cynnig rhewi rhenti gan ddweud y byddai "rheolaethau renti" yn dilyn hynny, mewn ymgais i fynd i'r afael â chostau tai.

    Maen nhw am gyflwyno tocynnau bysiau £1, ac am ddisodli treth cyngor gyda "treth gwerth tir" fydd yn cael ei thalu gan landlordiaid yn hytrach na thenantiaid.

    Hefyd, maen nhw am gyflwyno gofal plant i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed, ac ymestyn prydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd.

    Mae'r blaid yn dweud y byddai'n atal ffonau mewn ysgolion, ac yn cefnogi "symud yn raddol tuag at wythnos waith pedwar diwrnod".

  2. Mynediad at dai ac apelio at bobl ifancwedi ei gyhoeddi 11:23 GMT+1 7 Ebrill

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae Anthony Slaughter yn dweud fod mynediad i dai yn allweddol i pam ei fod yn rhan o wleidyddiaeth heddiw.

    Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth fydd o bosib yn apelio at etholwyr ifanc sydd yn ei chael hi’n anoddach cael mynediad i dai un ai yn y sector rhentu, neu i’r rhai sy’n ceisio prynu.

    Mae ymrwymiad rydym wedi clywed yn barod ar reoli costau rhentu, ond hefyd un newydd i adeiladu 60,000 o dai cymdeithasol ar hyd y 10 mlynedd nesaf.

    Mae hyn yn cymharu ag ymrwymiad Llafur i adeiladu 100,000 o dai, gyda 40,000 yn dai cymdeithasol dros yr un cyfnod.

  3. Addo bysus rhadwedi ei gyhoeddi 11:19 GMT+1 7 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae Anthony Slaughter yn dweud wrth y gynulleidfa yma ym Mhort Talbot nad ydi o erioed wedi gyrru, ac o deithio ar hyd a lled Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae’n gwybod pa mor anodd a drud mae’n gallu bod.

    Ac felly mae’r blaid yn addo y bydd pawb o dan 22 oed yn gallu teithio ar fysiau am ddim, ac y bydd teithiau unffordd ar fysus am £1 i oedolion.

  4. 'Rydyn ni'n bobl gyffredin'wedi ei gyhoeddi 11:16 GMT+1 7 Ebrill

    Nathan Goldup-John

    Un o ymgeiswyr y Gwyrddion, Nathan Goldup-John oedd gyntaf i siarad, gan ddweud y byddai'r blaid yn "buddsoddi'n iawn" yn system drafnidiaeth Cymru, a glanhau afonydd y wlad.

    "Nid newid mewn rheolwr yw'r brif broblem. Ry'n ni angen newid sut dy'n ni'n mynd ati," meddai.

    "Rydyn ni'n bobl gyffredin. Nid gyrfa mewn gwleidyddiaeth sydd gennym ni. Dy'n ni ddim yn bobl sy'n gwneud penderfyniadau o bell."

  5. 'Pwyslais mawr ar dai'wedi ei gyhoeddi 11:12 GMT+1 7 Ebrill

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae yna bwyslais mawr ar dai yn y maniffesto yma. Mwy nag unrhyw blaid arall, mae sicrhau bod rhentu tŷ yn fwy fforddiadwy, yn flaenoriaeth i'r Blaid Werdd.

    Felly mae 'na addewidion i rewi rhenti, adeiladu mwy o dai cymdeithasol a gwneud tai yn addas i fyw ynddyn nhw.

    Polisïau fydd o bosib yn ddeniadol i bobl ifanc mewn dinasoedd fel Caerdydd maen nhw’n eu targedu yn yr etholiad yma.

  6. Beth yw prif flaenoriaethau'r maniffesto?wedi ei gyhoeddi 11:11 GMT+1 7 Ebrill

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    • Treth gwerth tir yn lle treth cyngor
    • Rhewi rhenti tai preifat
    • Terfyn ar unwaith ar ofal mewn coridorau ysbytai
    • Tocynnau bws am £1
    • “Gwir berchnogaeth gyhoeddus” dros ddŵr
  7. Pwy ydy Anthony Slaughter?wedi ei gyhoeddi 11:07 GMT+1 7 Ebrill

    Anthony Slaughter

    Nesaf ar y llwyfan yw Anthony Slaughter. Daw arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru o Hull yn Sir Efrog yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn ne Cymru ers tua 25 mlynedd.

    Yn blentyn fe fudodd ei deulu o Hull i Awstralia fel rhan o'r genhedlaeth y 10 Pound Poms, cyn dychwelyd i ogledd Lloegr ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach.

    Ond yn 1970, gydag yntau'n wyth mlwydd oed, fe symudodd y teulu i Dde Affrica, ac yno y cafodd Anthony Slaughter ei fagu a ble roedd yn byw yn ŵr ifanc.

    Dros gyfnod o 25 mlynedd fe ymgartrefodd yn Llundain, yn "byw fel sgwatiwr am amser hir, yn y sîn anarcho-punk", meddai - roedd mewn band pync, gyda'r cyd-aelodau hefyd o Dde Affrica.

    Nid nes iddo ddod i Gaerdydd y dechreuodd Mr Slaughter ganolbwyntio o ddifrif ar wleidyddiaeth, gan ymuno â'r Blaid Werdd yn 2010 a sefyll yn isetholiad De Caerdydd a Phenarth yn 2012.

  8. Cynyddu disgwyliadauwedi ei gyhoeddi 11:06 GMT+1 7 Ebrill

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Yn siarad yn gyson gyda’r Blaid Werdd a’u harweinydd yng Nghymru, Anthony Slaughter, mae’r twf yn eu disgwyliadau fel plaid ar gyfer etholiad y Senedd wedi bod yn rhyfeddol i’w weld.

    Wedi canlyniad gweddol i Anthony Slaughter yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth yn 2024, lle bu’n ail pell tu ôl i Lafur a Stephen Doughty, y targed oedd brwydro etholiad da yng Nghaerdydd Penarth i gael un aelod o’r Gwyrddion i mewn o dan system gyfrannol.

    Ond mae hynny wedi’i throi ar ei phen, gydag arolygon yn awgrymu y gall y Gwyrddion ennill dros 10 sedd ym mis Mai.

    Dyma pam mae’r maniffesto yma yn un pwysig, a hynny o ran cytundebau posib gyda Phlaid Cymru os mai nhw fydd y blaid fwyaf wedi’r etholiad.

  9. Y maniffesto yn nwylo ein gohebwyrwedi ei gyhoeddi 11:04 GMT+1 7 Ebrill

    Mae'r lansiad wedi dechrau a'r maniffesto yn nwylo ein gohebwyr.

    Fe fyddwn ni'n dod â'r holl fanylion i chi cyn gynted â phosib.

    Mae modd gwylio'r lansiad yn fyw ar dop y dudalen yma, gyda Nathan Goldup-John y siaradwr cyntaf.

    Maniffesto
  10. Ydy'r neuadd yma'n gyfarwydd?wedi ei gyhoeddi 11:00 GMT+1 7 Ebrill

    Gareth Lewis
    Golygydd gwleidyddol BBC Cymru

    Dyma'r un neuadd y gwelon ni Nigel Farage yr haf diwethaf yn cyhoeddi ei gynlluniau i ailagor ffwrneisi chwyth Port Talbot a phyllau glo yng Nghymru.

    Ond allai'r cyferbyniad heddiw ddim bod yn gryfach.

    Mae'r Gwyrddion am i 100% o anghenion trydan Cymru gael eu diwallu gan ynni adnewyddadwy erbyn 2035.

    Ond yn debyg i Reform, mae gan y Gwyrddion lygad ar wneud argraff yn yr etholiad yma - os nad fel y blaid fwyaf, yna o bosib drwy gydweithio â phlaid arall.

    Lansiad
  11. Pa bleidiau eraill sydd wedi cyhoeddi eu cynlluniau?wedi ei gyhoeddi 10:55 GMT+1 7 Ebrill

    Mae 'na bleidiau eraill wedi rhannu manylion eu maniffestos yn barod.

    Y Ceidwadwyr oedd gyntaf, ac ymhlith eu haddewidion oedd torri treth incwm ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

    Ychydig ddyddiau wedyn daeth lansiad Reform, a ddywedodd y bydden nhw'n blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol petawn nhw'n ennill yr etholiad.

    Tro Llafur oedd hi yr wythnos diwethaf, gydag Eluned Morgan yn addo rhewi cyfraddau treth incwm a sicrhau bod apwyntiad meddygol ar gael o fewn 48 awr os oes problem na all aros.

    Bydd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cyhoeddi eu maniffestos nhw yn ystod yr wythnos nesaf.

    Am fwy o straeon am yr etholiad ewch yma.

  12. Y Blaid Werdd yn gobeithio siapio'r llywodraeth wedi'r etholiadwedi ei gyhoeddi 10:50 GMT+1 7 Ebrill

    Fe wnaeth y Blaid Werdd lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiad y Senedd yr wythnos diwethaf, gan ddweud y gallen nhw siapio'r llywodraeth newydd fydd yn cael ei ffurfio.

    Mae'r blaid yn gobeithio ennill eu seddi cyntaf erioed yn y Senedd, ac yn dweud y gallen nhw fod â rôl allweddol mewn penderfynu pwy fydd yn brif weinidog yn gyfnewid am weithredu rhai o bolisïau'r blaid

    Dywedodd arweinydd y blaid ar lefel y DU, Zack Polanksi, y byddai ei blaid yn trafod rheolaethau rhent, gostwng biliau dŵr a disodli'r dreth gyngor gyda'r llywodraeth newydd.

    Yn y cyfamser, roedd rhai o'r blaid wedi cyhuddo Plaid Cymru o beidio â bod yn ddigon "asgell chwith".

    Mae mwy o wybodaeth am y lansiad ar gael yma.

    Lansiad Gwyrddion
  13. 96 o Aelodau'r Senedd eleniwedi ei gyhoeddi 10:46 GMT+1 7 Ebrill

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

  14. Beth yw'r dyddiadau pwysig?wedi ei gyhoeddi 10:42 GMT+1 7 Ebrill

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    7 Mai - Diwrnod y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Cyfle olaf i gasglu papur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfri'r pleidleisiau

  15. Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?wedi ei gyhoeddi 10:35 GMT+1 7 Ebrill

    Wrth i nifer yr aelodau gynyddu yn y Senedd, mae ffiniau'r etholaethau hefyd yn newid.

    Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 o etholaethau, gyda chwe sedd yn y Senedd i bob etholaeth.

    Ewch yma i weld ym mha etholaeth rydych chi ynddi.

    Map

    Bydd y pleidiau yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth ac fe all ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad.

    Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol, ac mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau.

    Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny.

  16. Etholiad mwyaf nodedig ers '99?wedi ei gyhoeddi 10:31 GMT+1 7 Ebrill

    Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ar 7 Mai.

    Mae'n argoeli i fod yr etholiad mwyaf nodedig i Fae Caerdydd ers sefydlu'r Cynulliad - fel yr oedd ar y pryd - yn 1999.

    Mae hynny i raddau helaeth oherwydd y newidiadau i'r modd mae Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol.

    Ewch yma am ganllaw byr i'r newidiadau.

  17. Croesowedi ei gyhoeddi 10:30 GMT+1 7 Ebrill

    Croeso aton ni wrth i'r Blaid Werdd gyhoeddi eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd 2026.

    Fe allwch chi wylio'n fyw o 11:00 ymlaen, gyda disgwyl i'r arweinydd Anthony Slaughter ac eraill annerch aelodau'r blaid.

    Fe fyddwn ni hefyd yn dod â'r holl ddadansoddi i chi gydol y bore, felly arhoswch gyda ni.