Crynodeb

  1. 'Nifer pleidleisiau yn uwch oherwydd Reform'wedi ei gyhoeddi 11:27 GMT+1 24 Hydref 2025

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Roedd 'na gyfnod pan oedd pryder am ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth a'r niferoedd isel oedd yn pleidleisio mewn etholiadau - yn enwedig isetholiadau.

    Mae'r sylw a gafodd Caerffili yn awgrymu bod pethau yn newid.

    Dyma'r tro cyntaf erioed i fwy na 50% bleidleisio mewn isetholiad i'r Senedd.

    Dywedodd gohebydd gwleidyddol Golwg Rhys Owen ar raglen Dros Frecwast: "Mae Reform wedi chwarae rôl yn hynny.

    "Dwi'n meddwl maen nhw wedi denu ella pobl sydd ddim yn hanesyddol wedi cymryd lawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, so maen nhw ella rŵan wedi ymuno ac ella’n cymryd mwy o ddiddordeb nag oedden nhw’n arfer gwneud."

  2. 'Canlyniad mwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers hanner canrif a mwy'wedi ei gyhoeddi 11:18 GMT+1 24 Hydref 2025

    Richard Wyn Jones
    Cyflwynydd Podlediad Gwleidydda

    Wrth siarad ar bodlediad BBC Cymru, Gwleidydda, dywedodd Richard Wyn Jones mai dyma'r "canlyniad mwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers hanner canrif a mwy", ers ethol Gwynfor Evans i San Steffan yn 1966.

    "Mae'n golygu bod Rhun ap Iorwerth mewn sefyllfa gref iawn i fod yn Brif Weinidog Cymru blwyddyn nesa'," meddai.

    Dywedodd fod y canlyniad yn "awgrymu bod yna ganrif o ddominyddiaeth yn dod i ben mewn ffordd digon llipa i ddweud y gwir".

    Wrth sôn am y nifer uchel a bleidleisiodd, dywedodd: "Roedd o'n drawiadol iawn bod gymaint wedi troi allan ac mae hynny wedi helpu Plaid Cymru yn sylweddol.

    "Mae pobl iau llawer iawn yn fwy ffafriol i Blaid Cymru yng Nghymru bellach na unrhyw blaid arall."

    Gydag etholiad Senedd Cymru ar y gweill, dywedodd fod y canlyniad yn "rhoi gymaint o fomentwm iddyn nhw [Plaid Cymru] ar gyfer y flwyddyn nesa', ac yn codi cwestiynau caled iawn i’r pleidiau eraill – yn arbennig i Reform a’r Blaid Lafur."

  3. 'Dyfal donc a dyr y garreg'wedi ei gyhoeddi 11:08 GMT+1 24 Hydref 2025

    Cyn-aelod Cynulliad dros y Rhondda, Geraint Davies fu'n canmol dyfalbarhad Lindsay Whittle i geisio ennill sedd yng Nghaerffili ar raglen Dros Frecwast.

    Roedd Mr Davies yn aelod o’r Cynulliad - fel oedd Senedd Cymru ar y pryd - rhwng 1999 a 2003.

    Fel un sy’n adnabod cynrychiolydd newydd Caerffili ers nifer o flynyddoedd, dywedodd bod Lindsay Whittle yn “siaradwr arbennig” sy’n “cyffroi pobl”.

    Ychwanegodd bod parch mawr tuag ato yn yr ardal, lle mae'n gynghorydd ers hanner canrif, ac na fyddai ei blaid wedi gallu cael ymgeisydd gwell.

    Disgrifiad,

    Geraint Davies

  4. Y cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu pobl o bob oedwedi ei gyhoeddi 10:47 GMT+1 24 Hydref 2025

    Dywedodd Anwen Hill, sy'n byw yn yr etholaeth, ei bod wedi'i synnu o weld y canlyniad.

    "Ro'n i'n gwybod bod hi'n mynd i fod yn agos iawn," meddai, a hithau wedi gweld y pleidiau yn rhannu negeseuon o'u hymgyrchoedd ar gyfryngau cymdeithasol.

    "Ond pan 'da chi'n darllen y sylwadau wedyn, roedd e i gyd yn Reform, Reform, Reform, a ddoe ro'n i'n poeni braidd, gosh ma' rhain yn gryf," meddai.

    Roedd o'r farn bod cyfryngau cymdeithasol yn medru dylanwadu ar bobl o bob oed - nid pobl iau yn unig.

    Anwen Hill

    Dywedodd: "Ma' ran fwyaf o bobl fy oedran i yn defnyddio Facebook, ond roedd y sylwadau yna, rhan fwyaf o'r rheina yn ganol oed neu'n hyn, dwi'n meddwl bod nhw'n cael dylanwad."

    Dywedodd mai un mater sydd wedi codi yn ystod yr ymgyrch yw lleoliad yr etholaeth ei hun, gyda rhai o bobl yr ardal ddim yn gwybod a oedden nhw'n rhan ohono.

    "Mae 'na dipyn bach o ddysgu dwi'n meddwl i bobl - roedd pobl yn gweld hwn fel etholiad ar gyfer y sir.

    "Roedd rhaid i fi wneud ymchwil fy hun i wybod beth oedd etholaeth Caerffili yn y Senedd, a ges i sioc o weld fod llefydd fel y Coed Duon ddim yn rhan ohono fe."

  5. Carwyn Jones: 'Llafur ddim yn cymryd pobl Cymru yn ganiataol'wedi ei gyhoeddi 10:38 GMT+1 24 Hydref 2025

    Mae’r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi gwadu bod Llafur yn cymryd etholwyr Cymru yn ganiataol gan fod eu pleidlais wedi bod mor gryf ers degawdau.

    Ychwanegodd mai un o’r rhesymau dros gwymp Llafur yn isetholiad Caerffili oedd ymateb pobl i arolygon barn, oedd yn dangos bod gan Reform siawns cryf o ennill.

    Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd: “Roedd pobl wastad yn d'eud wrtha i ‘chi wastad yn cymryd pobl Cymru yn ganiataol’. Nid fel yna oedd e’n teimlo pan o’n i’n rhedeg etholiadau.

    "Ro’n i wastad yn gweithio’n galed i ennill hyder a chefnogaeth pobl Cymru. Doedd byth amser lle oedden ni’n meddwl 'does dim rhaid gwneud lot o waith, ni’n mynd i ennill ta beth' - nid fel yna oedd e.”

    Ychwanegodd bod Reform wedi denu rhai pobl fyddai fel arfer yn cefnogi y Ceidwadwyr a Llafur, ond bod ffactorau eraill hefyd wedi cael effaith ar y canlyniad.

    Meddai: “Gafodd arolwg barn ei gyhoeddi wythnos diwetha' yn dangos bod Plaid Cymru a Reform yn agos at ei gilydd, a fi’n credu beth ddigwyddodd wedyn oedd, roedd gwasgfa ar ein pleidlais ni [Llafur], a phobl yn dweud 'er mwyn cael Reform mas ni’n mynd i bleidleisio dros Blaid Cymru'.”

  6. 'Rhun ap Iorwerth mewn sefyllfa gref iawn i fod yn brif weinidog'wedi ei gyhoeddi 10:31 GMT+1 24 Hydref 2025

    "Dyma'r canlyniad isetholiad mwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers dros hanner can mlynedd a mwy," yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones.

    Mae rhifyn arbennig o bodlediad Gwleidydda gyda Richard Wyn Jones a Vaughan Roderick yn ymateb i'r canlyniad yng Nghaerffili ar gael yma.

    Disgrifiad,

    Richard Wyn Jones

  7. Lindsay Whittle am weithio'n 'ddiflino' dros bobl Caerffiliwedi ei gyhoeddi 10:23 GMT+1 24 Hydref 2025

    Lindsay WhittleFfynhonnell y llun, Getty Images

    Yn annerch y cefnogwyr y tu allan i Gastell Caerffili, mae Lindsay Whittle yn dweud fod y bleidlais yn "rhoi Caerffili ar y map".

    "Ddoe fe wnaeth pobl Caerffili greu pwt o'u hanes eu hunain," meddai.

    Dywedodd ei fod wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o bob cwr o'r byd - Yr Alban, Ffrainc ac Awstralia.

    "Rwy'n credu bod y byd yn edrych ar Gymru - gwlad sy'n deffro ac yn dechrau rheoli ein bywydau ein hunain eto," meddai Whittle.

    Ychwanegodd y bydd yn gweithio'n "ddiflino ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn", a'i fod yn falch iawn o alw Caerffili yn gartref iddo.

  8. Mwy o bleidleiswyr iau yn 'ffafriol iawn i Blaid Cymru'wedi ei gyhoeddi 10:17 GMT+1 24 Hydref 2025

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Ychwanegodd Vaughan Roderick mai un o'r pethau yr oedd wedi gweld yn ddiddorol oedd "faint o bobl wnaeth bleidleisio".

    "Fe wnaeth dros hanner yr etholwyr bleidleisio, dyw hynny byth wedi digwydd yn un o etholiadau'r Senedd o'r blaen," meddai, gan ychwanegu ei fod yn "ymddangos bod nifer sylweddol o bleidleiswyr iau wedi pleidleisio".

    "Yr hyn ni'n gwybod am bleidleiswyr iau yw, yn gyntaf eu bod nhw'n annhebygol iawn o bleidleisio.

    "Yn ail, nhw sy'n fwyaf cefnogol o annibyniaeth.

    "Yn drydydd, nhw yw'r grŵp sy'n fwyaf gwrthwynebus i Brexit, a nhw yw'r bobl sy'n lleiaf tebygol i bleidleisio i Nigel Farage a phlaid Reform.

    "Mae'n ymddangos efallai oherwydd y cyfryngau cymdeithasol bod natur y bobl wnaeth bleidleisio yn wahanol i'r arfer, ac os ydy hynny yn digwydd yn etholiadau Senedd Cymru ar raddfa eang, mae hynny yn ffafriol iawn iawn i Blaid Cymru."

  9. 'Bydd Lindsay yn cynrychioli Caerffili a Chymru gyfan'wedi ei gyhoeddi 10:10 GMT+1 24 Hydref 2025

    Dyma ymateb rhai o bobl Caerffili i'r canlyniad.

    Disgrifiad,

    Ymateb rhai o bobl Caerffili i'r canlyniad

  10. 'Buddugoliaeth hanesyddol' - Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 10:04 GMT+1 24 Hydref 2025

    Mae torf o gefnogwyr Plaid Cymru wedi dod ynghyd y tu allan i Gastell Caerffili i ddathlu'r canlyniad a chlywed gan yr arweinydd Rhun ap Iorwerth a'u haelod newydd o'r Senedd, Lindsay Whittle.

    Mae Mr ap Iorwerth yn ailadrodd bod y canlyniad yn dangos bod modd i'w blaid "ennill yn unrhyw ran o Gymru".

    Dywed bod yr isetholiad yn "arwydd da" cyn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa', ond nad yw ei blaid yn "cymryd unrhyw beth yn ganiataol".

    "Mae'n fuddugoliaeth enfawr, buddugoliaeth hanesyddol i Gaerffili, Plaid Cymru a hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru," meddai.

    "Dwi'n meddwl bod pobl wir yn deffro rŵan i'r ffaith bod Plaid Cymru yn dod i safle cryfach a chryfach i ffurfio'r llywodraeth nesa'."

    Lindsay WhittleFfynhonnell y llun, PA Media
  11. 'Gwers yma i lywodraethau Cymru a'r DU'wedi ei gyhoeddi 09:59 GMT+1 24 Hydref 2025

    Mae dirprwy brif weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies wedi bod yn ymateb i'r canlyniad ar BBC Radio 5 Live, ac yn adlewyrchu ar yr hyn sy'n rhaid i'r Blaid Lafur ei gynnig i etholwyr er mwyn adennill ffydd pleidleiswyr.

    "Yn gyntaf, maen nhw'n chwilio am blaid all gynnig gobaith gwirioneddol o ddyfodol gwell ar eu cyfer nhw a'u plant," meddai.

    "Mae hynny'n golygu pethau sylfaenol - cyfleoedd gwaith a sgiliau, arian yn eu poced.

    "Mae 'na wers yma i lywodraethau Cymru a'r DU - mae angen i'n polisïau ni gyd-fynd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gwireddu pethau fel yna.

    Ychwanegodd nad yw isetholiad o reidrwydd yn adlewyrchu'r hyn fydd yn digwydd yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesa'.

    "Mae'n edrych fel tasg fawr iawn i droi pethau o gwmpas," meddai, "ond mae modd gwneud e."

    Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, PA Media
  12. Canlyniad y Ceidwadwyr yn 'fwy o gywilydd na'r bleidlais Lafur'wedi ei gyhoeddi 09:53 GMT+1 24 Hydref 2025

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Wrth ddadansoddi'r canlyniadau ar Dros Frecwast, dywedodd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC, fod angen i ni "beidio ag anghofio" am y canlyniad i'r blaid Geidwadol.

    "Mae'r Ceidwadwyr wedi dod yn ail yng Nghaerffili nifer o weithiau," meddai.

    "Ma' tref Caerffili ei hun yn lle eithaf llewyrchus, dosbarth canol, pobl yn cymudo i Gaerdydd.

    "Ma' canlyniad y Ceidwadwyr o 2%, fysen i'n awgrymu hyd yn oed yn fwy o gywilydd arnyn nhw nac yw'r bleidlais Lafur."

    Ond wrth sôn am hanes Llafur yng Nghaerffili, dywedodd fod "dim canlyniad tebyg i hwn wedi bod yng Nghaerffili ers i'r un ohonom ni ddod i'r byd 'ma".

    Fe esboniodd fod canlyniad Reform UK yn "ddigon parchus o'i gymharu â'r hyn mae Reform a'u rhagflaenwyr nhw, Plaid Brexit a UKIP, wedi cael yng Nghaerffili yn y gorffennol."

    Ond dywedodd fod "Reform wirionedd yn credu bo' nhw am ennill ddoe, does dim dwywaith am hynny".

  13. 'Llafur ddim yn boblogaidd ar hyn o bryd'wedi ei gyhoeddi 09:48 GMT+1 24 Hydref 2025

    Yn ôl cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae gan y blaid Lafur "lot o waith i'w wneud" er mwyn adennill eu cefnogaeth ar ôl colli sedd Caerffili.

    Dywedodd Mr Jones hefyd ar raglen Dros Frecwast ei bod hi'n "wir i ddweud fod y Blaid Lafur ddim yn boblogaidd ar hyn o bryd".

    Disgrifiad,

    Carwyn Jones

  14. Beth sydd wedi digwydd dros nos a'r bore 'ma?wedi ei gyhoeddi 09:41 GMT+1 24 Hydref 2025

    Os mai nawr 'dych chi'n ymuno â ni y bore 'ma, dyma gipolwg o'r hyn sydd wedi digwydd dros nos a'r bore 'ma:

    • Fe wnaeth ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle ennill isetholiad Caerffili gyda 47% o’r bleidlais. Reform UK oedd yn ail gyda 36% o’r bleidlais, a Llafur ymhell ar eu hôl gyda 11% o’r bleidlais
    • Roedd y nifer a bleidleisiodd yn uchel, gyda 50.43% o bleidleiswyr cymwys yn cymryd rhan - y tro cyntaf i isetholiad i Senedd Cymru gael dros 50%
    • Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wedi dweud fod y canlyniad yn dangos y gall ei blaid "ennill unrhyw le yng Nghymru"
    • Mae Reform yn dweud eu bod yn siomedig, ond yn mynnu nad yw'r canlyniad yn "fethiant mewn unrhyw synnwyr"
    • Mae ffigyrau o fewn y Blaid Lafur wedi cydnabod bod "mynydd i'w ddringo" cyn etholiad y Senedd fis Mai, ond yn dweud bod modd iddyn nhw adennill ffydd etholwyr
  15. Ymateb dwy oedd yn pleidleisio am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 09:35 GMT+1 24 Hydref 2025

    Martha
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Martha ei bod wedi mwynhau gwylio'r ddadl wrth arwain at yr etholiad

    Dyma oedd yr isetholiad cyntaf i Martha a Maisie o Gaerffili fwrw pleidlais ynddi.

    Wrth siarad â Kate Crocket yng Nghaerffili y bore 'ma, dywedodd Martha ei bod yn "teimlo'n nerfus amdano fe, gan ystyried bo' nhw'n ddau barti gwbl wahanol".

    Dywedodd ei bod wedi mwynhau cael y profiad o bleidleisio: "Y profiad yna sy'n neud i ti deimlo bod hyn yn bwysig i fi, ti'n sefyll 'na ac yn croesi fe allan, mae'n teimlo'n neis i ddweud y gwir.

    "Rhywbeth gwnaeth rili selio'r peth i fi gyda'r bleidlais oedd gwylio'r ddadl, a gweld y ffordd oedden nhw'n siarad gyda phobl, a'r ffordd oedden nhw'n cyfleu eu syniadau nhw."

    Maisie
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Maisie fod pleidleisio wedi bod yn "brofiad da"

    Dywedodd Maisie fod yr isetholiad wedi bod yn bwnc trafod mawr yn yr ardal.

    "Dwi wedi mwynhau, ro'n i'n edrych ymlaen at bleidleisio ac wedyn yn besimistaidd am y canlyniad, ond nawr yn optimistig am y canlyniad yn 2026," meddai ar Dros Frecwast.

    "Ro'n i'n edrych ymlaen ato fe, achos dyma oedd tro cyntaf fi, a dwi'n meddwl oedd e'n brofiad da."

  16. Pleidlais dros 'garedigrwydd a brawdgarwch'wedi ei gyhoeddi 09:24 GMT+1 24 Hydref 2025

    Yn ôl yr hanesydd Dr Elin Jones mae’r fuddugoliaeth i Blaid Cymru yn adlewyrchu egwyddorion sy’n bwysig yn yr etholaeth ers dros ganrif.

    Dywedodd bod Lindsay Whittle yn ddyn "o egwyddor a chydwybod" a’i fod yn cynrychioli ardal wnaeth bleidleisio dros Morgan Jones yn 1921 - y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf i gael ei ethol i San Steffan.

    Meddai Dr Jones: "Dydw i ddim yn gwybod a fydd y Blaid Lafur wedi colli’r dydd am byth yn yr ardal yma.

    "Ond rwyf yn credu ein bod ni wedi dangos yn yr etholaeth yma bod ni’n cefnogi pobl sydd eisiau arddel gwerthoedd cyfiawnder, tegwch, caredigrwydd, brawdgarwch - y gwerthoedd oedd yn annwyl i Morgan Jones, a’r gwerthoedd sydd wedi bod yn annwyl yn yr ardal yma i gynifer o bobl."

  17. Carwyn Jones: 'Llafur â mynydd i'w ddringo'wedi ei gyhoeddi 09:16 GMT+1 24 Hydref 2025

    Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones fod gan y Blaid Lafur fynydd i'w ddringo ar ôl canlyniad yr isetholiad, ond bod amser o hyd i bethau newid cyn mis Mai.

    "Oes, mae 'na fynydd i'w ddringo, ond dyw hynny ddim yn meddwl bod chi'n rhoi lan," meddai.

    "Mae 'na bwysau wedi bod arnom ni'n ariannol gyda'r llywodraeth Dorïaidd dros y blynydde, ond mae 'na gyfle nawr wrth weithio gyda'n gilydd yn Llundain a Chaerdydd i droi pethe rownd."

    Ychwanegodd fod cyfle i "sicrhau bod pobl yn gweld bod dal ysbryd gyda ni, bod dal syniadau gyda ni, er mwyn i ni wrth gwrs ennill eu ffydd nhw eto ym mis Mai".

    "Mae 'na gyfle gyda'n gilydd nawr i droi pethe rownd ym mis Mai.

    "Wrth gwrs mae hi'n mynd i fod yn anoddach, ond mae 'na hyder 'da fi y bydd Eluned a Keir yn gallu newid pethau erbyn yr haf."

    Carwyn JonesFfynhonnell y llun, PA Media
  18. 'Ni wedi stopo poeni'wedi ei gyhoeddi 09:10 GMT+1 24 Hydref 2025

    A ninnau wedi cael tipyn o ymateb gan wleidyddion a gohebwyr gwleidyddol, beth oedd barn pobl ifanc yr ardal wedi'r canlyniad?

    Dywedodd Freya, 18, sy'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ond o Gaerffili yn wreiddiol, bod 'na "atmosffer rili tense" wedi bod yn ystod yr wythnos.

    "Ma' lot o bobl wedi bod yn poeni am y sefyllfa, ond dwi'n credu nawr, heddiw, ni wedi stopio poeni, ond mae wedi bod yn ddiddorol iawn i gael gymaint o sylw ar yr etholaeth."

    Dywedodd ei bod yn "hapus iawn" gyda'r canlyniad.

    Freya

    Dywedodd fod y Gymraeg wedi bod yn un o'r materion oedd o bwys i bobl ifanc yr ardal yn ystod y cyfnod ymgyrchu.

    "Fi'n gwybod os oedd Reform yn ennill bydde fi'n bersonol yn poeni am eu polisïau nhw oherwydd wrth gwrs doedden nhw ddim yn glir iawn gyda'u polisïau.

    "I fi oedd Reform yn sefyll am bopeth oedd yn gyferbyniad i bethau Cymraeg, ac i fi, oedd [y ffaith bod] Llŷr Powell yn siarad Cymraeg yn meddwl dim i fi."

    A hithau â diddordeb mewn gwleidyddiaeth, dywedodd: "Dwi'n meddwl mae'r etholiad yma wedi rhoi mwy o sylw ar wleidyddiaeth leol a dwi'n meddwl fod hynny'n rili bwysig yn y lleoliad ble y'n ni, lle mae canlyniad mor dynn."

  19. Canlyniad ‘hanesyddol’ - yn ôl hanesyddwedi ei gyhoeddi 09:05 GMT+1 24 Hydref 2025

    Mae’n air sy’n cael ei glywed yn aml mewn etholiadau – hanesyddol. Ond mae Dr Elin Jones mewn sefyllfa dda iawn i'w defnyddio.

    Yn ôl yr hanesydd, sydd hefyd yn byw yn yr etholaeth, mae canlyniad yr isetholiad yma yn un "rhyfeddol".

    Dr Elin Jones

    Dyma’r trydydd isetholiad arwyddocaol yn hanes Caerffili, meddai.

    Daeth y cyntaf yn 1921 pan enillodd Morgan Jones o’r Blaid Lafur y sedd, a’r ail yn 1968 pan fu bron i Dr Phil Williams ei chipio i Blaid Cymru.

    Yr olaf - a’r un mwyaf arwyddocaol – ydy 2025.

    “Pan o’n i’n tyfu lan roedden nhw’n gweud ‘does dim isio chi feddwl ambyti pwy fydd yn ennill y sedd - Llafur fydd hi',” meddai Dr Jones ar Dros Frecwast.

    “Dyma un o’r mwyafrifoedd mwyaf gan unrhyw blaid ym Mhrydain ar wahân i Ogledd Iwerddon, ac roedd hynny’n wir.

    “Roedd y Blaid Lafur yn rheoli’r lle yma. Roedden nhw wedi ennill y sedd ar ddechrau 20fed ganrif a chollon nhw ddim mohoni am dros ganrif - rhyfedd o beth.

    "Felly roedd hi’n noson ac mae hi’n fore hanesyddol heddi.”

  20. Beth fyddai'r sefyllfa pe bai'r un canlyniad fis Mai?wedi ei gyhoeddi 09:00 GMT+1 24 Hydref 2025

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mi fydd yna system etholiadol wahanol iawn y tro nesaf y bydd pobl Caerffili yn pleidleisio.

    Yn etholiad y Senedd fis Mai, bydd y sedd yn llawer mwy, felly mi fydd 'na chwe aelod yn cael eu hethol yn etholaeth newydd Baenau Gwent Caerffili Rhymni.

    Mae 'na system bleidleisio llawer mwy cyfrannol hefyd.

    Wrth gwrs, fe allwn ni weld pobl yn pleidleisio yn wahanol iawn, ond petai'r canlyniad yma yn cael ei efelychu dan y system newydd mi fyddai Plaid Cymru a Reform yn ennill tair sedd yr un.

    Ond petai Llafur yn cael 400 yn fwy o bleidleisiau mi fyddai'n newid i dair i Blaid Cymru, dwy i Reform ac un i Lafur, sy'n dangos sut y gall nifer gweddol fach o bleidleisiau newid y canlyniad o dan y system newydd.