Diweddariadwedi ei gyhoeddi 11:20 GMT+1 9 Ebrill
Cemlyn Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Dro ar ôl tro dros y blynyddoedd diwethaf mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr – bwrdd iechyd mwya’r wlad sy’n gwasanaethu gogledd Cymru – wedi bod yn y penawdau am y rhesymau anghywir.
Mae’r maniffesto’n dweud y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn “datblygu cynllun pwrpasol i ddelio â’r gamreolaeth barhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr”.
Byddai hynny’n cynnwys “archwilio’r holl opsiynau ar gyfer diwygio”.







