Crynodeb

  1. Cynllun ffordd liniaru'r M4 wedi bod yn destun trafod am flynyddoedd tan ei wrthod yn 2019wedi ei gyhoeddi 12:07 GMT 3 Mawrth

    Yn 2019 fe benderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedden nhw am fwrw 'mlaen, dolen allanol gyda chynllun ffordd liniaru yr M4.

    Ar y pryd geiriau y Prif Weinidog, Mark Drakeford oedd:

    "Yn arbennig, rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y cai'r prosiect effaith andwyol sylweddol ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent a'u rhwydwaith o ffosydd a bywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac y cai effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent.

    "O ganlyniad, yn fy marn i mae effeithiau andwyol y prosiect ar yr amgylchedd yn drech na'i fanteision."

    Bu'r ffordd liniaru ger twneli Bryn-glas yn destun trafod ers 1992.

    Roedd amgylcheddwyr yn croesawu'r penderfyniad ond y byd busnes yn teimlo fod gwrthod y cynllun yn ergyd i'r economi.

    M4
  2. Dim amserlen ar gyfer ffordd liniaru'r M4wedi ei gyhoeddi 12:07 GMT 3 Mawrth

    "Pa mor gyflym fyddech chi'n mynd ati i adeiladu ffordd liniaru'r M4?"

    Dywed Millar fod yr arian yno o fewn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru.

    Dywed y byddai'n cael ei ddarparu gyda chyfuniad o gyllid, gan gynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i'r arian.

    Nid yw Millar yn rhoi amserlen, gan ddweud nad yw am roi addewid afrealistig.

    M4
  3. 'Po fwyaf o Geidwadwyr yn y Senedd nesaf, y mwyaf o synnwyr cyffredin'wedi ei gyhoeddi 12:06 GMT 3 Mawrth

    Dywed Millar nad oes ganddo ddiddordeb mewn trafod bargeinion gyda phleidiau eraill ar ôl yr etholiad.

    "Po fwyaf o Geidwadwyr yn y Senedd nesaf, y mwyaf o synnwyr cyffredin fydd yna," meddai.

    Gofynnir iddo pa mor realistig yw hi y gallent gael pleidleiswyr i droi allan ar gyfer refferendwm ar godiadau treth gyngor dros 5%.

    Dywed Millar fod treth gyngor bron wedi treblu mewn rhai lleoedd ers sefydlu'r Senedd.

    Dywed arweinydd Torïaidd y Senedd fod cynghorau yn Lloegr, lle mae angen refferenda, wedi gallu "tynhau eu gwregysau a gwneud yr arbedion effeithlonrwydd sydd eu hangen ar bobl".

  4. Un bleidlais fydd gan etholwyr y tro hwnwedi ei gyhoeddi 12:03 GMT 3 Mawrth

    Yn 2026 dim ond un bleidlais fydd gan etholwyr, a fydd dim cyfle i gefnogi ymgeisydd penodol (heblaw bod yr ymgeisydd yn sefyll yn annibynnol).

    Yn hytrach, bydd pleidleiswyr ond yn gallu dewis plaid.

    Ym mhob un o'r 16 o etholaethau bydd gan bob plaid restr o ymgeiswyr.

    Bydd y nifer o ymgeiswyr sy'n cael eu hethol o restr pob plaid yn dibynnu ar y gyfran o'r bleidlais mae'r blaid wedi ei hennill.

    Mater i'r pleidiau eu hunain fydd penderfynu sut maen nhw'n llunio'u rhestrau o ymgeiswyr.

    Pan ddaw'r etholiad fydd etholwyr yn methu dewis a dethol yr unigolion yr hoffen nhw eu hethol.

    Gorsaf bleidleisio
  5. 'Pob pleidlais yn cyfrif'wedi ei gyhoeddi 12:01 GMT 3 Mawrth

    Mae Darren Millar yn gorffen ei araith trwy ddweud yn y system etholiadol newydd fod "pob pleidlais yn cyfrif".

    "Gyda'n gilydd, gadewch i ni drwsio Cymru, gadewch i ni gael Cymru i weithio."

    Yn y cwestiwn cyntaf gan y cyfryngau, mae Gareth Lewis o BBC Cymru yn gofyn sut y bydd yn talu am y maniffesto.

    Mae Millar yn gwadu nad cynllun ar gyfer y llywodraeth ydyw ond yn fwy o restr ddymuniadau ar gyfer bargeinion posibl yn y Senedd.

    Mae'n amlinellu rhai costau - gan gynnwys talu am doriad i'r Dreth Trafodiadau Tir trwy leihau gwariant ar weision sifil.

    Dywed Millar y byddai newidiadau i drethi busnes yn arwain at gynnydd net "heb gost".

    Mae'r Senedd i'w gweld o lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Senedd i'w gweld o lansiad maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig

  6. 'Gwaharddiad dros dro ar ffermydd gwynt a solar mawr'wedi ei gyhoeddi 12:00 GMT 3 Mawrth

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn darparu rhagor o dystiolaeth o'r hollt amlwg sy'n datblygu rhwng y pleidiau ar faterion amgylcheddol cyn yr etholiad.

    Gyda'u llygaid ar ymgyrchoedd amlwg yn erbyn rhagor o dyrbeini a pheilonau mewn rhannau o'r wlad maen nhw'n cynnig moratoriwm - neu waharddiad dros dro - ar ffermydd gwynt a solar mawr.

    Mae hen addewid i adfywio ffordd linaru'r M4 ar draws gwastadeddau Gwent yn ganolog hefyd - roedd y penderfyniad i roi'r gorau i'r cynllun dadleuol yn 2019 yn cael ei weld fel buddugoliaeth enfawr i amgylcheddwyr.

    A bydd cynnig £100m yn fwy i'r gyllideb amaeth yn apelio at garfan o bleidleiswyr sydd wedi bod yn protestio'n erbyn symud at bolisïau ffermio gwyrddach yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

    pylonFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Dim ffermydd gwynt mawr a gwahardd cyfryngau cymdeithasol mewn ystafelloedd dosbarthwedi ei gyhoeddi 11:59 GMT 3 Mawrth

    "Dydyn ni ddim yn barod i aberthu cefn gwlad Cymru... i ffermydd solar a gwynt ar raddfa fawr," meddai Millar.

    Mae'n dweud y bydden nhw'n amddiffyn plant agored i niwed drwy gomisiynu "ymchwiliad annibynnol dan arweiniad barnwr i gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol yng Nghymru".

    "Byddwn ni'n trwsio'r Senedd ei hun - dim mwy o bwerau, dim mwy o wariant ar brosiectau sydd heb eu datganoli," meddai, gan addo gwrthdroi'r cynnydd arfaethedig yn nifer aelodau'r Senedd o 60 i 96.

    Mae Millar hefyd yn addo gwahardd cyfryngau cymdeithasol mewn ystafelloedd dosbarth.

    fferm wyntFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Millar: Y Ceidwadwyr 'i drwsio Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:56 GMT 3 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Pan mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn sôn am "drwsio Cymru" - enw’r maniffesto - be maen nhw’n feddwl?

    Mae’r blaid yn gyson wedi bod yn wrthwynebol i bron pob polisi mawr mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi, meddyliwch yn bennaf am y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen â ffordd osgoi’r M4 a pholisi ugain milltir yr awr.

    Maent wedi dadlau mai ideoleg Llywodraeth Cymru sy’n gyrru’r hyn maent yn ei weld sy’n anghywir gyda chyfeiriad y wlad.

    “Mae gennym gynllun i drwsio Cymru,” medd Darren Millar.

    Efallai nad yw’n syndod mai treth sy'n cael sylw Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf.

  9. Datgan 'argyfwng iechyd' ar ddiwrnod cyntaf ein llywodraethwedi ei gyhoeddi 11:53 GMT 3 Mawrth

    Dywed Millar ar ddiwrnod cyntaf llywodraeth Dorïaidd Cymru "byddem yn datgan argyfwng iechyd".

    "Nid label yn unig ydyw, mae'n fandad," meddai.

    Dywed y byddai'n golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar "un nod - mynd i'r afael â'r argyfwng yn ein gwasanaethau iechyd cenedlaethol".

    "Byddwn yn cynyddu niferoedd ysbytai ac yn sicrhau bod gan ein staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt."

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Atgyfodi Asiantaeth Datblygu Cymru yn syniad da?wedi ei gyhoeddi 11:51 GMT 3 Mawrth

    Huw Thomas
    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Mae atgyfodi Asiantaeth Datblygu Cymru yn syniad poblogaidd ymhlith y rhai sy'n cofio dyddiau da y buddsoddi o dramor, ond bydd angen amcan clir i’r corff newydd os yw buddsoddwyr heddiw yn mynd i wario yng Nghymru.

    O ystyried y ffyniant yn y sector ynni adnewyddadwy, mae gwrthwynebiad y Ceidwadwyr tuag at ddatblygiadau gwynt a solar yn arwydd cynnar o densiwn yn y strategaeth economaidd. Tra bod modd cael ambell i lwyddiant hawdd gyda’r sector adnewyddadwy, mae’r blaid wedi gorfod cydbwyso hynny a’r realiti o ddenu busnesau mawr sy’n targedu cefn gwlad Cymru.

    Bydd cwmnïau Cymreig yn croesawu unrhyw ymdrech i fynd i'r afael â'r ddiffyg sgiliau yn y gweithlu, a gallai'r addewid o 125,000 o brentisiaethau leddfu'r boen sy’ ynghlwm a phrinder staff mewn rhai sectorau ar hyn o bryd.

    SolarFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Gwireddu 'breuddwyd perchnogaeth cartref'wedi ei gyhoeddi 11:49 GMT 3 Mawrth

    Dywed Millar y byddai ei blaid yn torri treth incwm ac yn dileu y Dreth Trafodiadau Tir fel y gall pobl wireddu "breuddwyd perchnogaeth cartref" a byddai'n "cefnogi ein strydoedd mawr" trwy ddileu trethi busnes ar gyfer cwmnïau bach.

    Mae'n dweud y byddai'r Torïaid yn ailsefydlu Asiantaeth Datblygu Cymru.

    Byddai hefyd yn dileu "treth dwristiaeth wenwynig Llafur a Phlaid".

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Agenda treth uchel Llafur'wedi ei gyhoeddi 11:45 GMT 3 Mawrth

    Dywed Darren Millar nad yw "agenda treth uchel Llafur wedi bod yn faich yn unig, mae wedi bod yn lladdwr twf".

    "Er bod Llafur a Phlaid wedi treulio blynyddoedd yn eistedd yn y cefn yn siarad am y cyfansoddiad... maen nhw wedi gwastraffu arian trethdalwyr ar driciau, signalau rhinwedd a phrosiectau balchder".

    "Rhaid i'r cyfnod hwn o ddirywiad rheoledig ddod i ben ym mis Mai eleni," meddai.

  13. 'Cael Cymru i weithio'wedi ei gyhoeddi 11:42 GMT 3 Mawrth

    Mae Millar yn agor ei araith, gan bwyntio at y Senedd, gan ddweud bod llywodraeth bresennol Cymru wedi anghofio gwneud "y pethau mawr, y pethau bach" a phopeth rhyngddynt.

    Disgrifiodd ei faniffesto fel "cenhadaeth achub" i gael "Cymru i weithio".

    Dyma faniffesto cyntaf ymgyrch y Senedd "oherwydd mai ni yw'r unig blaid sy'n barod i arwain o'r diwrnod cyntaf".

    Dywed y byddai'n hyrwyddo perchnogaeth tai ac yn rhoi mwy o arian "ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed".

    "Am 27 mlynedd dywedwyd wrthym fod yn rhaid i ni fodloni am lai," meddai, gan ddweud ei fod yn gyfle i "danio economi Cymru".

    Millar
  14. 'Rwy’n dal i feddwl am ei thad'wedi ei gyhoeddi 11:37 GMT 3 Mawrth

    Anghofiodd yr Arglwydd Byron Davies enw Natasha Asghar AS wrth ei chyflwyno.

    “Rwy’n dal i feddwl am ei thad” meddai, gan gyfeirio at Mohammad Asghar a fu farw yn 74 oed yn 2020.

    Natasha Asghar
  15. 🤔 Cofrestru i bleidleisio erbyn pryd? Pryd mae'r cyfrif?wedi ei gyhoeddi 11:36 GMT 3 Mawrth

    20 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio

    17:00 ar 21 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau pleidlais drwy'r post a phleidlais bost drwy ddirprwy

    17:00 ar 28 Ebrill - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy

    07:00 a 22:00 ar 7 Mai - Dyddiad y bleidlais

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bapur pleidleisio newydd drwy'r post os bydd y gwreiddiol wedi'i ddifetha neu wedi mynd ar goll

    17:00 ar 7 Mai - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau brys drwy ddirprwy

    8 Mai - Cyfrif y pleidleisiau

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ar 6 Mai, 2020 daeth y newid enw yn swyddogol, pan cafodd yr enw 'Cynulliad' ei ollwng, a'r Senedd/Parliament ei ddefnyddio'n gyfreithiol

  16. Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, sy'n cyflwyno'r maniffestowedi ei gyhoeddi 11:30 GMT 3 Mawrth

    Mae Darren Millar AS Gorllewin Clwyd yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ers 2024 - ac ar hyn o bryd mae'n arwain 13 Aelod o'r Senedd.

    Y tro cyntaf i Darren, 49 oed, gael ei ethol i Senedd Cymru oedd yn 2007, ac erbyn hyn mae ar ei bedwerydd tymor.

    Cafodd ei benodi yn arweinydd, heb etholiad yn 2024, wedi i'w ragflaenydd Andrew RT Davies, ymddiswyddo.

    Ymddiswyddodd Mr Davies ar ôl misoedd o anniddigrwydd am ei arweinyddiaeth.

    Ers ei benodi mae Darren Millar wedi bod yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o greu gwlad "sydd wedi torri".

    Ers ei gyfnod wrth y llyw mae e wedi colli tri aelod - mae un yn wynebu achos o gamblo yn anghyfreithlon ac mae dau arall wedi ymuno â Reform UK.

    Darren Millar
  17. Sut byddai'r Ceidwadwyr yn talu am y cynlluniau treth a gwariant?wedi ei gyhoeddi 11:22 GMT 3 Mawrth

    Mae Darren Millar wedi rhoi ychydig mwy o fanylion i BBC Radio Wales ynglŷn â sut y byddai'r Ceidwadwyr yn talu am rai o'u cynlluniau treth a gwariant.

    Byddai toriad treth incwm o 1c yn cael ei ariannu gan "ymgyrch effeithlonrwydd" o 1 i 1.5% yn Llywodraeth Cymru, er na nododd ble y byddai arbedion yn cael eu gwneud.

    ArianFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Beth ry'n ni'n ei wybod yn barod?wedi ei gyhoeddi 11:14 GMT 3 Mawrth

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae Darren Millar eisoes wedi dweud fore Mawrth y bydd maniffesto y Ceidwadwyr Cymreig yn "gynllun cadarnhaol i ryddhau twf economaidd, creu swyddi, hyrwyddo perchnogaeth tai, torri trethi a gwastraff, rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy'n gweithio'n galed ledled y wlad, a thrwsio ein gwasanaethau cyhoeddus".

    "Mae pobl yng Nghymru yn gweiddi am newid cadarnhaol, dyma ein cynllun credadwy - mae wedi'i brisio i gyflawni hynny," meddai yn gynharach.

    Ymhlith yr addewidion mae torri ceiniog oddi ar gyfradd sylfaenol treth incwm ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.

    Mae'r Torïaid hefyd yn addo uwchraddio'r A55 a gwneud yr A40 i Abergwaun yng Nghymru yn ffordd ddeuol.

    Ymhlith addewidion eraill mae rhoi cap ar y cynnydd mewn treth cyngor a gofyn am refferendwm lleol ar gynnydd dros 5%.

    Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Pam cyhoeddi'r maniffesto heddiw?wedi ei gyhoeddi 11:08 GMT 3 Mawrth

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Y Ceidwadwyr yw'r cyntaf i lansio eu maniffesto ar gyfer yr etholiad fis Mai, ond mi oedd o'n benderfyniad munud olaf.

    Dim ond 24 awr o rybudd gawson ni, a dwi'n deall mai'r rheswm am hynny yw eu bod eisiau achub y blaen ar Reform fydd yn lansio eu cynllun nhw ddydd Iau.

    Yn ogystal â cholli rhai o'u haelodau i Reform, mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi colli staff yn ddiweddar, ac roedd 'na bryder eu bod wedi mynd â manylion y maniffesto efo nhw.

  20. Y Senedd - ethol 96 o aelodau eleniwedi ei gyhoeddi 11:03 GMT 3 Mawrth

    Y Senedd yw lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.

    Mae Aelodau'r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau'n well i bawb yng Nghymru.

    O 2026 ymlaen bydd gan y Senedd 96 o Aelodau, wedi'u hethol o bob cwr o Gymru.

    Ar 8 Mai, 2024, pasiwyd y ddeddf i gynyddu'r nifer o aelodau.

    Roedd angen dwy rhan o dair o'r aelodau i gefnogi'r mesur, ac fe ddigwyddodd hynny, gyda 43 yn pleidleisio o blaid, ac 16 yn erbyn

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma'r Senedd ar ei newydd wedd - lle i 96 aelod