Crynodeb

  1. Diolch yn fawr am ddilynwedi ei gyhoeddi 17:06 GMT+1 4 Awst

    Dyna ddiwedd ein llif byw ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.

    Os hoffech chi wylio uchafbwyntiau o gystadlaethau’r dydd, cofiwch am ein tudalen ganlyniadau, neu mae detholiad o luniau gorau'r dydd ar gael yma.

    Fyddwn ni'n ôl eto yfory i ddod â'r diweddaraf i chi o'r Maes.

    Hwyl am y tro!

    Rebecca ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  2. 'Ddim wedi suddo mewn a bod yn onest' - enillydd Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 17:03 GMT+1 4 Awst

  3. Aelod newydd o Hergest?wedi ei gyhoeddi 16:53 GMT+1 4 Awst

    Elin Fflur a Hergest

    Mae Elin Fflur wedi bod yn holi'r band, sy'n perfformio efo'i gilydd am y tro cyntaf mewn dros 20 mlynedd yn y Tŷ Gwerin heno.

  4. 'Wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl'wedi ei gyhoeddi 16:43 GMT+1 4 Awst

    Gethin ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Mae Gethin Thomas wedi ei gyflwyno'n Gymrawd Anrhydeddus yr Eisteddfod mewn seremoni yn y Pafiliwn.

    Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd: “Dwi’n teimlo fy mod wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl.

    "Mae cael fy ethol yn Gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd am gyfran helaeth o’m hoes yn anrhydedd fawr.

    "Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cydweithio â mi, ac yn fy nghefnogi ar hyd y daith gyda’r Eisteddfod.”

  5. Rebecca Thomas yn cael ei holi gan BBC Cymru wedi'r seremoniwedi ei gyhoeddi 16:37 GMT+1 4 Awst

    Rebecca Thomas
  6. Rebecca wedi ysgrifennu Ynys Gwales ar Ynys Enlliwedi ei gyhoeddi 16:27 GMT+1 4 Awst

    Mae Rebecca Thomas yn hanesydd, nofelydd ac ysgrifwr o Gaerdydd.

    Aeth i Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, cyn mynd ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Caergrawnt.

    Ailgydiodd mewn ysgrifennu creadigol ar ôl cwblhau ei doethuriaeth yn 2019, gan gyhoeddi ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, Dan Gysgod y Frenhines yn 2022, a'i hysgrif gyntaf, Cribo'r Dragon's Back yn 2021, a oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth ysgrif O'r Pedwar Gwynt.

    Aeth ymlaen i gyhoeddi nofel hanesyddol arall i oedolion ifanc, Y Castell ar y Dŵr yn 2023, a dwy nofel i blant, Anturiaethau'r Brenin Arthur ac Anturiaethau'r Afanc, yn ei rôl fel awdur preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

    Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i oedolion, Y Tŵr, yn 2025.

    Yn haf 2025 treuliodd gyfnod fel artist preswyl ar Ynys Enlli, lle ysgrifennodd Ynys Gwales.

    Rebecca Thomas
  7. 'Yr awdur yn feistr ar adrodd stori fywiog'wedi ei gyhoeddi 16:23 GMT+1 4 Awst

    “Dyma nofel uchelgeisiol sy’n rhoi gwedd newydd ar ail gainc y Mabinogi. Mae Ynys Gwales yn hawlio’n sylw o’r dechrau," meddai Meinir Wyn Edwards.

    "Hanes Llŷr a’i deulu o bysgotwyr sydd yma, a Morfudd, ceidwad Ynys Gwales, ac ar ddechrau’r nofel daw’r saith milwr a oroesodd y brwydro yn Iwerddon dan arweiniad Bendigeidfran i dafarn Moelros i chwilio am yr ynys, gan gludo pen y cawr gyda nhw.

    “Mae’r sgwennu’n llifo, a’r awdur yn feistr ar adrodd stori fywiog ac ennyn chwilfrydedd y darllenydd. Mae yma ddychymyg byw ar waith ac mae Ynys Gwales wedi ein cyffroi ni’n tri."

    Lleucu Roberts, Llwyd Owen a Meinir Wyn Edwards
    Disgrifiad o’r llun,

    Lleucu Roberts, Llwyd Owen a Meinir Wyn Edwards - beirniaid y gystadleuaeth

    "Gyda Game of Thrones a Lord of the Rings yn tanio dychymyg gwylwyr teledu a darllenwyr ar draws y byd, dyma nofel ffantasi sydd ag un droed ar y ddaear, er bod gweledigaeth amlwg Drycin yn gwneud i’r holl hanes hedfan," ychwanegodd Llwyd Owen.

    Dywedodd Lleucu Roberts: "Dyma nofel a lwyddodd i hudo gyda’i chyfuniad o ffantasi chwedlonol brydferth a’r emosiynau hynod ddynol sy’n rhychwantu’r canrifoedd maith rhyngom a phobl o’r un cig a gwaed â ni."

  8. Ynys Gwaleswedi ei gyhoeddi 16:19 GMT+1 4 Awst

    Ynys Gwales yw enw'r gwaith buddugol, a Drycin oedd ffugenw Rebecca Thomas.

    Rebecca Thomas
  9. Llongyfarchiadau Rebecca!wedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1 4 Awst
    Newydd dorri

    Rebecca Thomas yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.

  10. Teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 16:18 GMT+1 4 Awst

    Drycin
  11. Meinir Wyn Edwards yn traddodi beirniadaeth Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:14 GMT+1 4 Awst

    gwobr
    gwobr
  12. Naw wedi ymgeisio am y wobr eleniwedi ei gyhoeddi 16:11 GMT+1 4 Awst

    Fe gadarnhaodd y beirniaid Meinir Wyn Edwards, Llwyd Owen a Lleucu Roberts mai naw oedd wedi ymgeisio am y wobr eleni.

    gwobr goffa daniel owenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  13. Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:07 GMT+1 4 Awst

    Mae prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mawrth wedi dechrau.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 sy'n rhoddedig gan bobl ardal y Preseli er cof am Martin a Meryl Lloyd, Cilgerran.

  14. Mantach yn cystadlu ym Mrwydr Y Bandiau Gwerin yn y Tŷ Gwerinwedi ei gyhoeddi 16:03 GMT+1 4 Awst

    ty gwerin
  15. Lluniau: Llwyfan y Maes nos Lunwedi ei gyhoeddi 15:49 GMT+1 4 Awst

    Roedd Cowbois Rhos Botwnnog a Steve Eaves ymhlith yr artistiaid fu'n perfformio ar Lwyfan y Maes nos Lun cyn i griw Welsh of the West End gloi'r cyfan.

    Cowbois Rhos BotwnnogFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cowbois Rhos Botwnnog

    Steve EavesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Steve Eaves

    Glain RhysFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Glain Rhys - un o griw Welsh of the West End

    Welsh of the West EndFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Welsh of the West End

  16. Pennill coll Calon Lânwedi ei gyhoeddi 15:36 GMT+1 4 Awst

    Wrth draddodi darlith ar gyfansoddwr Calon Lân, John Hughes dywedodd Tudur Dylan Jones ei fod wedi dod o hyd i bennill coll wrth ymchwilio.

    Dyma bedwarawd yn canu'r pennill hwnnw am y tro cyntaf

  17. Perfformiad o ddrama fuddugol Eisteddfod yr Urdd 2026wedi ei gyhoeddi 15:24 GMT+1 4 Awst

    Yn ogystal â pherfformiadau gan rai o artistiaid cerddorol amlycaf Cymru, mae dramâu a sgyrsiau amrywiol hefyd yn cael eu cynnal yng Nghaffi Maes B.

    Cafodd Tishe Plant? - drama fuddugol Eisteddfod yr Urdd 2026 - ei pherfformio yno yn gynharach y prynhawn 'ma.

    actorion
  18. Gethin Thomas yw cymrawd newydd yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:19 GMT+1 4 Awst

    Mae Gethin Thomas yn cael ei gyflwyno'n Gymrawd Anrhydeddus yr Eisteddfod mewn seremoni ar y Maes y prynhawn 'ma.

    Dyma'r anrhydedd uchaf y gall yr Eisteddfod ei rhoi i unigolyn am flynyddoedd o wasanaeth i'r sefydliad.

    Dim ond pum Cymrawd Anrhydeddus sydd gan yr Eisteddfod ar unrhyw adeg, a bydd Gethin Thomas yn llenwi'r bwlch a adawyd yn dilyn marwolaeth D Hugh Thomas yn 2025.

    Dywedodd wrth Cymru Fyw fod hynny yn "fraint aruthrol" iddo.

  19. Clwb Dawns Lowri yn coluro cyn dawnsiowedi ei gyhoeddi 15:09 GMT+1 4 Awst

    colur

    Mae angen rhoi colur ar 19 aelod o Glwb Dawns Lowri cyn cystadlu heddiw.

    Mae Cara yn barod i fynd fel Medusa a Greta yn cael ei thrawsnewid i edrych fel neidr.

    Dywedodd Lowri: "Wnaeth hi gymryd pedair awr i gael pawb yn barod yn yr Urdd felly 'dan ni'n dechrau yn ddigon buan heddiw."

    coluro
  20. Y to ifanc yn mwynhau Sioe Stwnshwedi ei gyhoeddi 15:00 GMT+1 4 Awst

    Heb os rhai o'r perfformwyr prysuraf, a mwyaf poblogaidd, yn ystod wythnos yr Eisteddfod yw criw Stwnsh.

    Bu'r pedwar yn perfformio o flaen pabell lawn draw yn y Pentref Plant yn gynharach.

    sioe stwnsh