1. Cymru 2-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 45'00"

    Cwpan y Byd 2018

    Mae'r ail hanner wedi dechrau - C'MON CYMRU!

  2. Cymru 2-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:49 GMT+1 5 Medi 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Sam Vokes hefyd yn dathlu wrth gwrs - fo gafodd y gynta' o ddwy gôl mewn wyth munud dros Gymru.

    vokesFfynhonnell y llun, Reuters
  3. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 20:46 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Nid y perfformiad gorau gan Gymru yr yr hanner cyntaf ond pwy sydd yn poeni - 'da ni ar y blaen o ddwy gol a wedi torri calonau Moldova ar ddiwedd yr hanner. Sbardyn gobeithio nawr i rhoi marc lawr i ddangos i Awstria, Serbia ac Iwerddon na dim ffliwc oedd perfformiadau Ewro 2016."

  4. Allen yn dathluwedi ei gyhoeddi 20:44 GMT+1 5 Medi 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Joe Allen yn dal i ddathlu ei gôl fymryn cyn yr egwyl debyg. Gyda Gweriniaeth Iwerddon ar y blaen o 1-0 yn erbyn Serbia, fe fydd Cymru ar frg y grwp heno os fydd pethau'n aros fel ag y maen nhw.

    allenFfynhonnell y llun, Reuters
  5. Ti ddim yr unig un Siriol!wedi ei gyhoeddi 20:36 GMT+1 5 Medi 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  6. Cymru 2-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:35 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Bron yn drydedd i Neil Taylor gyda chic ola'r hanner cyntaf, ond mae'n hanner amser yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac mae pawb yn hapus - heblaw cefnogwyr Moldofa wrth gwrs.

    Cymru ar y blaen o 2-0 gyda Sam Vokes a Joe Allen yn rhwydo.

  7. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 20:32 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Gôl gynta' i Joe Allen dros Gymru, yn hollol haeddianol, manteisio ar gamgymeriad ond mae hi ar ben rwan ar Moldova, y cwestiwn fydd pawb yn ei ofyn rwan yw faint o goliau gawn ni heno."

  8. Cymru 2-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:31 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Pas i'r cwrt yn cael ei chlirio mor bell â Joe Allen y tu allan i'r cwrt, a'i ergyd yn mynd trwy goedwig o goesau ac i gefn y rhwyd. Cymru ddwy ar y blaen!

  9. Cymru 2-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:30 GMT+1 5 Medi 2016

    Gôl!

    JOE ALLEN!!!!

  10. Cymru 1-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 42'25"

    Cwpan y Byd 2018

    Bron yn ail! Bale y tro hwn ond arbediad da am gic gornel.

  11. Jiws yn anadlu!wedi ei gyhoeddi 20:27 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Am groesiad odidog gan y dyn ei hun, y cyflymder yn y croesiad a symudiad Vokes i dynnu oddiwrth yr amddifynwr yn berffaith.... ac anadlwch!"

  12. Cymru 1-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:26 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Dyna be' oedd ei angen! Croesiad perffaith gan Gareth Bale a Sam Vokes yn codi'n uwch na phawb yn y cwrt a phenio i'r rhwyd.

    C'MON CYMRU!

  13. Cymru 1-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 20:24 GMT+1 5 Medi 2016

    Gôl!

    VOKES I GYMRU - 1-0!

  14. Cymru 0-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 36'20"

    Cwpan y Byd 2018

    Cyfle i Gunter!!

    I mewn i'r cwrt, ond ceisio croesi yn lle ergydio a'r bêl allan am gic gornel i Gymru.

  15. Ydych chi'n cytuno?wedi ei gyhoeddi 20:22 GMT+1 5 Medi 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  16. Serbia 0-1 Gweriniaeth Iwerddonwedi ei gyhoeddi 20:21 GMT+1 5 Medi 2016

    Rowndiau rhagbrofol Rwsia 2018

    Yn y gêm arall sy'n cael ei chwarae ar hyn o bryd mae Gweriniaeth Iwerddon wedi mynd ar y blaen oddi cartre' yn erbyn Serbia.

  17. Rhowch hi i Vokes!wedi ei gyhoeddi 20:19 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Angen mwy o'r bêl i Vokes, mae o yn blatfform da i Gymru ddod a Bale, King a'r cefnwyr i'r gêm."

  18. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 20:17 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Y bwriad yn glir gan Bale o'r gic rhydd, dim ond cyffyrddiad lleiaf oedd angen."

  19. Cymru 0-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 28'55"

    Cwpan y Byd 2018

    ...a Bale ei hun gymrodd y gic ac fe aeth o fewn trwch blewyn i'r postyn pella'. Agos!

  20. Cymru 0-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 27'40"

    Cwpan y Byd 2018

    Trosedd arall ar Gareth Bale - mae'n cael ei gicio tipyn heno'n barod! Cic rydd i Gymru io'r asgell dde.