Rhyfelgan Gŵyr Harlechwedi ei gyhoeddi 18:43 GMT+1 11 Mehefin 2016
BBC Cymru Fyw
Dyna sy'n atseinio trwy Stade de Bordeaux ar y funud!
Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru
Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958
Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)
Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
BBC Cymru Fyw
Dyna sy'n atseinio trwy Stade de Bordeaux ar y funud!
Wali Tomos
'Dach chi'n fhwym Musty Picton...o! a ma' Cymfu wedi sgofio!!!!!!!!!
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Cerdyn Melyn
Un arall - y pedwerydd melyn - i Slofacia. Awgrym eu bod yn dechrau colli eu pennau?
Arthur Picton
Be'sy'n digwydd? Achos dwi'n y tŷ bach ers ugian munud!
Hal-Robson - Hal Robson Kanu!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!
Ffynhonnell y llun, bbc
Cerdyn Melyn
Un melyn eto i Slofacia - i Weiss y tro hwn.
Cic Rydd
...ond y bel yn glanio'n ddiogel yn nwylo golwr Slofacia.
BBC Cymru Fyw
Dywed ein gohebydd yn Ffrainc fod y siom o Aaron Ramsey'n methu cyfle i sgorio i'w deimlo yn ardal y cefnogwyr.
Ffynhonnell y llun, bbc
Cerdyn Melyn
Un i Mak o Slofacia....
BBC Cymru Fyw
Ydi Cymru wedi cael ail-wynt ers yr eilyddio?
BBC Cymru Fyw
...ac mae cefnogwyr Cymru'n canu'r anthem fel un llais.
BBC Cymru Fyw
Mae 'na gwmwl tywyll wedi codi dros ardal y cefnogwyr yn Bordeaux.

BBC Cymru Fyw
Peniad gan Ramsey o flaen gôl Slofacia - yn dilyn croesiad hyfryd gan Hal Robson-Kanu! Y bêl dros y trawst.
Ffynhonnell y llun, getty
Eilyddio
Jonny Williams yn cael ei eilyddio am Hal Robson-Kanu.
Twitter
Eilyddio
David Edwards i ffwrdd - a'r barfog Joe Ledley ymlaen.
Fe dorrodd Ledley asgwrn yn ei goes mor ddiweddar a Mai 7fed. Dipyn o ddyn!
Wali Tomos
Oes fhywun isio'n llongyfvach i, achos dwi'n cal cathod bach yn fama!!!!
BBC Cymru Fyw
Cefnogwyr yn dilyn yr ail hanner yn eiddgar ym Mharc Bute, Caerdydd.
Ffynhonnell y llun, cyngor caerdydd
BBC Cymru Fyw
Angen tyrchu llewys ar Gymru - gyda Slofacia'n pwyso mwy i lawr y cae.
Mae Joe Ledley a Hal Robson-Kanu'n cynhesu ar ochr y cae.
Cic Rydd
Tu allan i gwrt cosbi Cymru...ac mae Ashley Williams wedi ei anafu.