|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Papur Lapio
Os hoffet wneud papur lapio fel y Tweenies, dyma sut. Gofyn i oedolyn roi cymorth, a rho gynnig arni! 1. Torri taten yn ei hanner (cofio i gael oedolyn i helpu), yna, torri siâp ar ochr fflat y daten. Byddai siapiau fel hyn yn dda: coeden Nadolig, lleuad, seren, aeron a chelyn. 2. Trochi'r siâp yn ofalus yn y paent lliw. 3. Mae'n bosib hefyd i baentio'r siâp ar y daten gyda brws. 4. Gosod y siâp ar y papur, pwyso arno ac wedyn ei dynnu oddi ar y papur yn ofalus. 5. Dal ati i roi'r un ddelwedd ar draws y papur i gyd, wedyn aros nes bod y paent wedi sychu. 6. Nawr mae gen ti dy bapur lapio lliwgar di dy hun er mwyn lapio anrhegion i'th ffrindiau a'th deulu ar gyfer penblwydd neu Nadolig! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |