|
|
 |

Gwneud
Papur Lapio |
|
Os hoffet
wneud papur lapio fel y Tweenies, dyma sut. Gofyn i oedolyn roi cymorth,
a rho gynnig arni!
|
|
1. Torri
taten yn ei hanner (cofio i gael oedolyn i helpu), yna, torri siâp
ar ochr fflat y daten. Byddai siapiau fel hyn yn dda: coeden Nadolig,
lleuad, seren, aeron a chelyn.
|
|
2. Trochi'r
siâp yn ofalus yn y paent lliw. |
|
3. Mae'n
bosib hefyd i baentio'r siâp ar y daten gyda brws.
|
|
4. Gosod
y siâp ar y papur, pwyso arno ac wedyn ei dynnu oddi ar y papur
yn ofalus. |
|
5. Dal
ati i roi'r un ddelwedd ar draws y papur i gyd, wedyn aros nes bod
y paent wedi sychu. |
|
6. Nawr
mae gen ti dy bapur lapio lliwgar di dy hun er mwyn lapio anrhegion
i'th ffrindiau a'th deulu ar gyfer penblwydd neu Nadolig! |
|