|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Argraffiad
1. Gofyn i oedolyn dorri allan y siapau gwahanol y bydd angen ar eich argraffiad gan ddefnyddio moron, tatws neu sbwng. 2. Cymryd y darn o sbwng fydd yn gwneud corff y dylwythen a'i drochi yn y paent, yna ei osod r ddarn o bapur a phwyso arno yn ysgafn. 3. Tynnu'r sbwng o'r papur yn ofalus a dyna dy argraffiad cyntaf. 4. I roi coesau i'r dylwythen, trocha'r foronen yn y paent a'i argraffu dwywaith o dan y triongl. 5. Ar gyfer yr adennydd, trochi dau driongl bach sbwng yn y paent. Rhoi nhw ar ddwy ochr y corff a phwyso i lawr yn ysgafn. 6. Ar gyfer pen y dylwythen, trocha un pen o'r foronen yn y paent ac argraffu uwchben y corff. 7. Dal ati i argraffu'r un ddelwedd ar hyd y stribedyn o bapur a chyn hir fe fydd gennyt ti res perffaith o argraffiadau unffurf. |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |