|
1. Gofyn
i oedolyn dorri allan y siapau gwahanol y bydd angen ar eich argraffiad
gan ddefnyddio moron, tatws neu sbwng. |
|
2. Cymryd
y darn o sbwng fydd yn gwneud corff y dylwythen a'i drochi yn y paent,
yna ei osod r ddarn o bapur a phwyso arno yn ysgafn. |
|
3. Tynnu'r
sbwng o'r papur yn ofalus a dyna dy argraffiad cyntaf. |
|
4. I
roi coesau i'r dylwythen, trocha'r foronen yn y paent a'i argraffu
dwywaith o dan y triongl. |
|
5. Ar
gyfer yr adennydd, trochi dau driongl bach sbwng yn y paent. Rhoi
nhw ar ddwy ochr y corff a phwyso i lawr yn ysgafn. |
|
6. Ar
gyfer pen y dylwythen, trocha un pen o'r foronen yn y paent ac argraffu
uwchben y corff. |
|
7. Dal
ati i argraffu'r un ddelwedd ar hyd y stribedyn o bapur a chyn hir
fe fydd gennyt ti res perffaith o argraffiadau unffurf. |