|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Mwng Llew
Wyt ti'n hoffi gwisgo i fyny? Mae'r Tweenies yn hoffi gwneud hynny, ac os hoffet wisgo fel brenin y jyngl, jyst dilyn y camau isod i wneud mwng llew! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni! 1. Torri'r cerdyn i ddau stribedyn eitha' hir. Wedyn, gludo nhw wrth eu gilydd gyda thâp gludiog i ffurfio un stribedyn hir a fydd yn ffitio o amgylch dy ben. 2. Nawr, cymryd gweddill y cerdyn a'i dorri i stribedi llai. 3. Cymryd y stribedi a'i cyrlio nhw o amgylch pensil. 4. Cymryd y stribedi wedi eu cyrlio a gludo eu pennau nhw i'r stribedyn mwy, gan ddefnyddio tâp gludiog. 5. Nawr, cymryd y mwng a'i lapio o amgylch dy wyneb a'i dapio ar y gwaelod. Unwaith iti wneud hyn, gelli grwydro o gwmpas fel brenin y jyngl! |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |