|
|
 |

Gwneud
Mwng Llew |
|
Wyt ti'n hoffi
gwisgo i fyny? Mae'r Tweenies yn hoffi gwneud hynny, ac os hoffet
wisgo fel brenin y jyngl, jyst dilyn y camau isod i wneud mwng llew!
Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
|
|
1. Torri'r
cerdyn i ddau stribedyn eitha' hir. Wedyn, gludo nhw wrth eu gilydd
gyda thâp gludiog i ffurfio un stribedyn hir a fydd yn ffitio
o amgylch dy ben. |
|
2. Nawr,
cymryd gweddill y cerdyn a'i dorri i stribedi llai. |
|
3. Cymryd
y stribedi a'i cyrlio nhw o amgylch pensil. |
|
4. Cymryd
y stribedi wedi eu cyrlio a gludo eu pennau nhw i'r stribedyn mwy,
gan ddefnyddio tâp gludiog. |
|
5. Nawr,
cymryd y mwng a'i lapio o amgylch dy wyneb a'i dapio ar y gwaelod.
Unwaith iti wneud hyn, gelli grwydro o gwmpas fel brenin y jyngl!
|
|