|
|||||||||
|
|
Testun yn unig |
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 |
|
Gwneud Broga
Os hoffech wneud broga, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu, a rho gynnig arni! 1. Torra gylch mawr allan o bapur drwy lunio cylch o amgylch ymyl plât plastig neu bapur. 2. Plyga'r cylch yn ei hanner. 3. Torra bedwar cylch llai allan o bapur drwy lunio'r cylchoedd o amgylch ymyl plât plastig neu bapur a phlyga ddau o'r cylchoedd llai yn eu hanner. 4. Gludo'r ddau gylch bach sydd wedi eu plygu yn ymyl pen ucha'r cylch mawr sydd wedi ei blygu. Y rhain fyd y llygaid. 5. Troi drosodd y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a defnyddio'r ddau gylch bach arall i dorri allan dwy ochr ar y ddau gylch. 6. Gludo'r ddau gylch bach yma ar waelod y cylch mawr, ond ychydig ymhellach oddi wrth ei gilydd. Y rhain fydd y traed. 7. Cymryd y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a'i blygu drosodd eto, a lliwia smotyn ar y ddau lygad. 8. Yn y diwedd, fe ddylai fod gennyt ti froga yn edrych rhywbeth fel hyn. |
||
| About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |