|
1.
Torra
gylch mawr allan o bapur drwy lunio cylch o amgylch ymyl plât
plastig neu bapur.
|
|
2.
Plyga'r
cylch yn ei hanner. |
|
3. Torra
bedwar cylch llai allan o bapur drwy lunio'r cylchoedd o amgylch ymyl
plât plastig neu bapur a phlyga ddau o'r cylchoedd llai yn eu
hanner. |
|
4. Gludo'r
ddau gylch bach sydd wedi eu plygu yn ymyl pen ucha'r cylch mawr sydd
wedi ei blygu. Y rhain fyd y llygaid. |
|
5. Troi
drosodd y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a defnyddio'r ddau gylch
bach arall i dorri allan dwy ochr ar y ddau gylch.
|
|
6. Gludo'r
ddau gylch bach yma ar waelod y cylch mawr, ond ychydig ymhellach
oddi wrth ei gilydd. Y rhain fydd y traed. |
|
7.
Cymryd
y cylch mawr sydd wedi ei blygu, a'i blygu drosodd eto, a lliwia smotyn
ar y ddau lygad. |
|
8. Yn
y diwedd, fe ddylai fod gennyt ti froga yn edrych rhywbeth fel hyn. |