Profiad myfyrwyr - Keeley Reynolds Myfyrwyr canolfan Addysg Gydol Oes Blaenau Ffestiniog yn son am y profiad o ail-afael mewn addysg
Enw: Keeley Reynolds Coleg am ddwy flynedd. Mam i bedwar (15, 10, wyth a phump).
Yn astudio:Gorwelion Newydd. Astudiaethau merched. "Er mwyn ennill gwybodaeth."
Yn anodd?:Oedd, oherwydd na wyddwn beth oeddan nhw'n ei ddisgwyl gennyf.
Yn gobeithio: Ennill hunanhyder a theimlo'n gyfforddus wrth chwilio am waith.
Sylwadau: Mae'n anodd dychwelyd wedi 15 mlynedd y tu allan i addysg. Mae'n anodd bod yn fam a myfyrwraig ond mae hyn wedi bod yn gyfle gwych imi.
|  |