Gwreiddiau Cerddoriaeth Pop Gymraeg

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Arloeswyr byd pop Cymraeg 1960au a 1970au.

Casgliad o glipiau teledu archif yn adrodd hanes gwreiddiau cerddoriaeth bop Gymraeg yn y 1960au. Ceir cyfres o gyfweliadau yn cofio am naws y cyfnod ac yn ystyried effaith hyn ar gerddoriaeth Gymraeg. Ymysg y siaradwyr, mae rhai o arloeswyr byd pop Cymraeg y 1960au a'r 1970au.
O: Y Felin Bop - Rhaglen 3
Darlledwyd yn gyntaf : 4 Gorffennaf 1996

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Byd modern, Byd yr ugeinfed ganrif,

Allweddeiriau : Datblygiad Cymru 1900-2000, Diwylliant ieuenctid, Roc a Rôl, Cerddoriaeth pop, Hanes yr iaith Gymraeg, Recordiau Sain, Disc a Dawn,

Nodiadau :
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3: Sut mae rhai unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw. Byd yr ugeinfed ganrif.
TGAU: Datblygiad Cymru 1900-2000.
Safon Uwch: Agweddau ar hanes Ewrop 1880-1980.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Disgrifio sut y dechreuodd cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg. Sbarduno ymholiad pellach i ddatblygiad cerddoriaeth boblogaidd a chantorion/grwpiau Cymraeg hyd heddiw.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Ysgogi gwybodaeth a dealltwriaeth flaenorol am gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfywyr yn gallu deall mai yn ystod y 1960au a'r 1970au y daeth grwpiau a chantorion cerddoriaeth bop Gymraeg i'r amlwg gyntaf.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.