Y Gadair Ddu - Heddwyn

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Seremoni cadeirio Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917.

Ymateb y Cymry i seremoni cadeirio Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw, 1917. Lladdwyd Hedd Wyn yn y ffosydd, ym mrwydr Passchendaele y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn iddo allu derbyn ei wobr. Mewn seremoni arbennig ar ei gyfer, sy'n erbyn hyn yn cael ei alw 'Seremoni y Gadair Ddu' , cafodd y Gadair ei gorchuddio gan frethyn du.
O: Canrif o Brifwyl - Y Gaer Fechan Olaf
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Chwefror 2000

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 11-14,14-16,16+

Pwnc : Hanes

Testun : Hanes Cymru a Lloegr 1880-1980, Cymru a Phrydain fodern, Byd yr ugeinfed ganrif

Allweddeiriau : Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn,Barddoniaeth rhyfel, Cadair ddu, Eisteddfod Genedlaethol 1917, Penbedw, Brwydr Passchendaele, Yr Arwr, Trawsfynydd,

Nodiadau : Ysgogiad i astudiaeth o Hedd Wyn a'i ysgrifeniadau, Potential ar gyfer gwaith sgiliau llythrenedd mewn cyd-destun cryf hanesyddol.
CYFNOD/CYRSIAU/PYNCIAU:
CA3:
Sut mae rhai o unigolion a digwyddiadau'r ugeinfed ganrif wedi llunio ein byd ni heddiw.
TGAU: : Cymru a Lloegr ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, 1900-1919.
Safon Uwch: Cymru a Lloegr, tua 1900-1919. Newid a Gwrthdaro yng Nghymru, tua 1900-1919.
Bagloriaeth Cymru: Cymru, Ewrop a'r Byd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU HANESYDDOL: Ystyried arwyddocâd hanesyddol y Gadair Ddu. Defnyddio'r wybodaeth yn y clip i gefnogi ymholiad pellach i agweddau/ymateb pobl i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Gwerthuso'r gwahanol fathau o ffynonellau tystiolaeth a ddefnyddiwyd.
CYFLEOEDD I DDATBLYGU SGILIAU EHANGACH: Datblygu dealltwriaeth emosiynol y dysgwyr drwy werthuso ymateb y Cymry i dynged Hedd Wyn. Datblygu sgiliau llythrennedd drwy lunio cerdd neu ysgrif goffa addas ar gyfer cyfnod y rhyfel byd cyntaf o dan y teitl 'er cof am Hedd Wyn'.
AWGRYMIADAU AR GYFER GOSOD MEINI PRAWF LLWYDDIANT: Ddylai myfyrwyr yn gallu: 1) Deall ymateb pobl i'r digwyddiad. 2) Deall pam mae'r Cymry'n cofio am Hedd Wyn heddiw.


Gwylio a gwrando

Protest Cymdeithas yr Iaith

Cymru a Phrydain

Clipiau fideo addysgol am Gymru a Phrydain yn yr 20fed Ganrif.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

RhyfeddOD

Mynwent

Ysbrydion

Straeon ysbryd a chlipiau fideo a sain o bob cwr o Gymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.