

Dringor Twr - Bywyd
Gwenlyn Parry
|








|
|
- Ganwyd yn 1932 yn Neiniolen,
neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galwr pentref.
Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd
ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydron barhaus yn erbyn tlodi. Mae nifer o feirniaid llenyddol yn
gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddramâu.
- Yn 1939 aeth ei dad i ymladd
yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgor
trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dramâu Gwenlyn yn rhai cryfion.
- Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi
lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.
- Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref
or rhyfel.
- Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn âr
RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno â rhyfel yn dilyn holl hanesion
erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF.
Dywedodd ir cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y Twr a Sal gan iddo weld
sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.
- Wedi iddo ddychwelyd adref or RAF
aeth ir Coleg Normal ym Mangor iw hyfforddin athro. Yno ymddiddorodd yn
y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.
- Trar oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd
Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol.
Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddramâu syn peri i feirniaid weld ystyr grefyddol
iddyn nhw.
- Yn athro mathemateg yn Llundain
daeth yn fwy cyfarwydd â byd y theatr a threuliodd lawer oi amser hamdden yn y West End.
Dechreuodd hefyd ymhel â Chwmni Dramar
Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad â rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones.
Hefyd, bun arwain nifer o nosweithiau llawen yma.
- Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain
i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda. Yma bun dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng
y Gymraeg.
- Tran byw yng Nghaernarfon daeth
i adnabod Huw Lloyd Edwards a fun ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef ai perswadiodd i anfon ei
ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn
1961. Daeth yn gyd-fuddugol.
- Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd
Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd
iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
- Yn y cyfamser bun actio a chynhyrchu
yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones
- Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol
yn ysgol Dyffryn Ogwen ller oedd erbyn hyn yn athro.
- Yn 1966 ymunodd âr BBC
yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma
gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm ar ffilm Saesneg, Grand Slam.
- Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys
pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ngwyl Ddrama
Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.
- Bun briod ddwywaith, yn gyntaf
gyda Joy o Bontyberem ac wedyn gydag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.
- Bu farw ar Dachwedd 5 1991,
ac fei claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
|
|