bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Stretsio’r lastig

Atgofion actores: Maureen Rhys

‘Un arall o ddramâu od Gwenlyn Parry!’

Roeddwn i’n llafnas ifanc yng nghanol cwmni dethol yn gwrando ar y dyn penddu yma yn dweud straeon a dyma Elfyn Thomas yn troi ata i a deud,

"Ti’n gwbod pwy di’r dyn yma, twyt? Brawd Margaret Parry oedd yn Form Six pan oeddat ti yn Form One."

Do, fe aeth Margaret, Gwenlyn a minnau i’r un ysgol - dim ond fod Gwenlyn un mlynedd ar ddeg yn hynach na mi.

Yr hyn a’m trawodd i amdano y noson honno oedd y carisma - nid yn gonfensiynol olygus ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr. Dyn yn hawlio sylw, yn medru dweud ei ddweud mor ddifyr.

Cynnig Y Twr dros swpar

Fe fu i’n llwybrau groesi ambell i waith yn ystod y pymtheng mlynedd oedd i ddilyn. Eisteddfod Wrecsam oedd hi, ar ganol sgwrs, dyma Gwenlyn yn gofyn yn reit ddi-daro, "Dowch am swpar efo fi."

Felly y bu. John a minnau yn swpera efo Gwenlyn, a finnau am unwaith yn gwrando yn lle siarad!

Yn sydyn dyma fo’n troi ata i a gofyn, "Sut fasa ti’n licio bod yn ifanc, canol oed a hen?"
Doeddwn i ar y pryd naill ai’n ifanc, yn ganol oed nac yn hen.
"Be? Go iawn ti’n feddwl?" medda fi.
"Naci siwr, mewn drama, hogan."
"Wrth fy modd," medda fi. "Dyna be fydda sialens."
"Iawn ta," medda Gwenlyn. "Steddfod Caerdydd flwyddyn nesa amdani."
Hynny ydi, 1978.

Be fedrwn i neud wedyn ond codi o’m sedd a rhoi clamp o sws ar i foch o!

Yr anrheg yn cyrraedd

Ymhen rhyw ddeng mis mi ddaeth yr anrheg - a dyna beth oedd Y Twr.

Teitl da, fel pob un o deitlau dramâu Gwenlyn.

Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun yr oedd yn cymryd bron i flwyddyn i sgrifennu drama.

Drama sy’n gerdd

Oherwydd fy mod i yng Nghaerdydd ar y pryd a John ym Mangor yr oeddem ni wedi darllen y ddrama ar wahân ond yn unfryd unfarn fod hon yn mynd i fod yn sialens ac yn bleser.

Cerdd ydi hi a rhythmau pendant i’r dweud - yn cynnwys y rhegfeydd! Ac mae rhywun mwy cymwys na mi wedi dweud hynny mewn print, yn Rhagair Saunders Lewis i'r ddrama.

Noson gyntaf Y Twr

Anghofia i byth y noson gyntaf yn Theatr Newydd Caerdydd. Y lle’n orlawn. Dros fil o bobol yn disgwyl am ddrama newydd gan brif ddramodydd.

Bu’r mis o ymarfer dan law gadarn y cyfarwyddwr, David Lyn, yn bleser pur a dyma ni rwan yn barod i droedio’r llwyfan.

Yn yr ystafell wisgo yr oeddwn i’n crynu fel deilan a nannedd i’n clecian!
Ofn anghofio.
Ofn i bobol gerddad allan.
Ofn diflasu’r gynulleidfa.
Dim ond dau actor yn siarad. A dyma fi’n dewis un o’r ofnau i ddweud wrth Gwenlyn amdano, ofn anghofio.

"Paid â phoeni," medda fo. "Mi fyddai yn y gynulleidfa a mi godai ar fy nhraed a gweiddi’r llinall ac mi fydd pawb yn meddwl mai un o ddramâu od Gwenlyn Parry ydi hon eto!"

Dyma fo’n agor ei freichiau a’u cau amdanai a finna’n chwerthin.

Gwên a dagrau mewn brawddeg

Anghofiai byth, byth, y noson honno.
Y distawrwydd llethol, y chwerthin a’r crio.
Y cwbwl i gyd mewn ychydig dros ddwyawr. Y teimlad o bwer, dim llai, o allu gwneud i bobl chwerthin a chrio o fewn yr un frawddeg bron. Dyma i mi un o ragoriaethau Gwenlyn.

A defnyddio dywediad o’n hardal ni, "gwybod faint i stretsio’r lastig".

Dim ond ar lwyfan y gall rhywun gael profiad fel’na.

Dros fil o bobol, fel un pryfyn ar wal, yn sbecian ar fywyd preifat dau berson. Y cicio, y brathu, y crio a’r caru.

Deunaw mlynedd yn ddiweddarach perfformio’r un ddrama eto, dan law Graham Laker. Y tro yma heb egwyl na cholur.

Am brofiad! Am ddrama! Diolch fyth i Gwenlyn.

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy