|
|||||||||
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() |
Newyddion Chwaraeon Y Tywydd |
||
| BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
|
Gwenlyn y gwrandawr astud
Yr oedd Gwenlyn Parry yn wrandäwr astud ar bobol yn siarad, meddai ei wraig gyntaf, Joy. "Rwy'n ei gofion dweud wrtha i, Wyt ti wedi sylwi nad yw pobol byth yn gorffen eu brawddegau pan fyddan nhwn siarad? Roedd yn wir iawn am ei dad ai fam - fydden nhw byth yn cloi eu brawddegau. "Roedd ganddo fe glust fain iawn am ddeialog, dawn i greu sgwrs fel oedd pobol yn siarad." Yn ôl cyfeillion yr oedd barn Joy ei hun yn un bwysig iawn iddo ac yntau'n ystyried eu bod ill dau ar yr un donfedd. Hapus da phensil yn ei law Meddai hi: "Pan fydde syniad yn ei daro roedd en methu aros nes galle fe roi pensil ar bapur," meddai. "Roedd e hapusa pan oedd pensil yn ei law yn gweithio ar ddrama." "Roedd en disgwyl bo fin cadw gydag e wrth iddo fe fwrw ymlaen âi ddrama. Byddain dweud yn fanwl wrtha i bob cam o beth oedd yn digwydd yn y stori. Patrwm brawddegau i bob cymeriad "Roedd yn darllen darnau o ddeialog ac yn gofyn i fi, Pwy syn siarad fanna? Roedd ffordd o siarad, patrwm brawddegau, pob un oi gymeriade yn wahanol. "Wedi gorffen y ddrama fe fydde fen byrhau ac yn tocior stori ar ddeialog lawr ir asgwrn nes on in teimlo weithiau na fydde dim byd ar ôl. Roedd en feirniad llym ofnadwy oi waith ei hunan. "Fydde fe byth yn gollwng dim oi law nes ei fod yn gwbwl fodlon." "Mi fydde fe byth a hefyd yn newid llinellau gan ddweud pethe fel; Na, fydde Williams ddim yn siarad felna, ac weithiau yn rhoir llinell yng ngheg cymeriad arall." Trafod drwyr amser "Wedyn mi fyddain symud sefyllfaoedd o gwmpas ac mi fyddain trafod ac yn trafod drwyr amser." "Pan fydden nin mynd i weld drama rhywun arall yr oedd yn trafod a dadansoddir stori ar ystyr yn ddi-ddiwedd wedi hynny. Beth oedd y neges, beth oedd y dramodydd yn dreioi ddweud. Mi fyddain gofyn o hyd ac o hyd, beth oeddwn in feddwl. Dyna oedd y mwynhad iddo fe - i nin dau o ran hynny." Ei ddrama gyntaf Drama gyntaf Gwenlyn oedd Y Ddraenen Fach a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog a chyflwynwyd perfformiad ohoni y flwyddyn wedyn gan gwmni Cymry Llundain yng nghystadleuaeth drama un-act Eisteddfod Llanelli. "Yr oedd fy nhadcu a mamgu yn byw mewn rhes o dai ar fynydd Llangyndeyrn ac enwr lle oedd y Ddraenen Fach. Roedd nhad a mam wedi byw yno am gyfnod hefyd ac yr oedd Gwenlyn wedi bod fyny da fi i weld y lle. Doedd bron ddim or tai ar ôl erbyn hynny." "Roedd e wedi clywed gan ei dad y stori am y milwyr yn y Rhyfel Cyntaf yn dod allan or ffosydd i chwarae pêl-droed yn erbyn ei gilydd ar nos Nadolig. "Fe gyfunodd er digwyddiad hwnnw ar lle yn Y Ddraenen Fach." "Mae criw o filwyr mewn seler ac maen nhwn clywed swn pobol yn y seler arall ond dyn nhw ddim yn gwybod ai milwyr Prydeinig ynteu Almaenwyr sydd yna. Yn y diwedd maer drws yn agor a milwr Almaenig yn dod i lawr y grisiau ac y maer milwr ifanca yn y seler yn gwylltio ac yn ei saethu." Neuaddau gorlawn Saer Doliau Wrth sôn am Saer Doliau, y ddrama ddaeth â Gwenlyn Parry i sylwr genedl, dywedodd: "Pan ddechreuodd y ddrama ar ei thaith yn Nolgellau nid oedd y neuadd ond yn chwarter llawn ond pan ganodd y teliffon yn y diwedd roedd pawb wediu syfrdanu. Erbyn diwedd y daith roedd pob neuadd yn orlawn." Deuoliaeth pobl Yn ei lyfr am ddramâu Gwenlyn Parry dywed Dewi Z. Phillips mai yr un thema sydd ymhob un or dramâu a chytuna Joy fod yna ynddyn nhw i gyd y ddeuoliaeth honno sydd ymhob person - yr hunan da ar hunan drwg. Mae cymeriadau ei ddramâu yn gyfnewidiol, meddai, gan ddweud y gellid cyfnewid, er enghraifft, y saer ar bachgen ifanc yn Saer Doliau. Mae Y Ffin, wedyn, wedi ei pherfformio gyda dwy ferch a bachgen yn hytrach nar ddau ddyn a merch a sgrifennwyd gan Gwenlyn. Maer catalydd ymhob un oi ddramâu - ag eithrior Twr, meddai Joy. "Rwy'n meddwl mai Y Twr yw ei ddrama orau," meddai. "Maen fwy tynn, yn fwy aeddfed." |
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |