|
|||||||||
MAWRTH 18fed Tachwedd 2014 Hygyrchedd Geiriau Yn Unig |
![]() |
Newyddion Chwaraeon Y Tywydd |
||
| BBC Homepage Cymru'r Byd Addysg |
||
| » | Y Twr Y Dramodydd Y Cynhyrchiad Astudio'r Ddrama Amserlen teledu Amserlen radio E-gardiau Arolwg 2001 Gwybodaeth Ymateb |
|
Dringo Grisiaur Twr
Gris gyntaf y twr - efo Donald Duck Naw oed oeddwn i pan wnes i gyfarfod Gwenlyn am y tro cynta. Pnawn Sul oedd hi. Roedd ei dad, W. J. Parry, yn cael te yn ein ty ni. Y Sul arbennig hwnnw yr oedd Wesleaid Cylchdaith Ardal Bethesda a Deiniolen yn cynnal eu Cymanfa flynyddol yn Sling. Fel dau Wesla o Ddeiniolen yr oedd Gwenlyn ai dad yn bresennol. Doedd yna ddim caffi o fewn pedair milltir i Sling, felly, bwyta yn nhai cyd-Wesleaid oedd y drefn. Fel dau chwarelwr - fy nhad yn y Penrhyn a thad Gwenlyn yn Ninorwig - a dau Wesla yr oedd yn naturiol mai acw y daeth Mr Parry ai fab "am ymborth" chwedl y pen blaenor. Ar ôl bwyd, pan ddechreuodd y ddau dad siarad chwaral aeth y plentyn nawmlwydd yn anniddig a phenderfynodd Gwenlyn - tua phedair ar bymtheg fasa fo - ei ddiddori drwy wneud lluniau efo fo. Roedd on dipyn o arlunydd ac efo pensilau lliw gwnaeth lun ardderchog o Donald Duck. Bur llun hwnnw gen i am flynyddoedd ar wal fy llofft. Dynar diwrnod y rhois fy nhroed ar ris gyntaf Twr fy adnabyddiaeth o Gwenlyn ac efor llun ar cof am ei chwerthiniad yr oedd honnon ris gadarn i ddechraur dringo. Ail ris y twr - pregethwr ar brawf Aeth pum mlynedd heibio cyn i mi gael rhoi fy nhroed ar yr ail ris a hynny drwyr Wesleaid eto. Yr oedd Gwenlyn bellach yn bregethwr cynorthwyol gydar enwad a minnau yn bwt o organydd yng nghapal Gorphwysfa. Ar gerdyn plan blwyddyn y Wesleaid lleol rhif 35 oedd W. Gwenlyn Parry yn rhestr y pregethwyr ac ar ôl ei enw yr oedd y geiriau "Ar brawf" mewn cromfachau! Tybed â oedd y ddau air yna yn awgrymu ir dramodydd feddwl mynd ir weinidogaeth? Yr oedd yn hawdd iawn gwrando arno y diwrnod hwnnw. Wedyn y dois i ddeall fy mod yn gwrando ar ddeudwr stori penigamp. Trydedd ris y twr - y big break Ychydig feddyliais yr adeg honno y byddair dyn Parry yma yn chwarae rhan mor allweddol yn fy mywyd am gyrfa, ond pan sefais ar drydedd ris y Twr yr oedd rhyw awgrym bach o hynny. Daeth Gwenlyn i ddysgu gwyddoniaeth i ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, pan oeddwn i yn y chweched. Yr oedd cwmni drama yn yr ysgol a buan y daeth Gwenlyn i gymryd yr awenau. Ysgrifennodd basiant Pasg am castio i fel y Crist. Hyd y diwedd bun tynnu fy nghoes mai fo roddodd y "big break" imi! Fo hefyd gynhyrchodd Gymerwch Chi Sigaret am castio fel Phugas. Ar ôl i ni berfformio yn hynod o lwyddiannus in cyd-ddisgyblion gwrthododd y prifathro roi caniatâd inni berfformio in rhieni achos, yn ei farn o, fod y ddrama yn "rhy aflednais". Fel y dywedodd Gwenlyn, "Yr unig foi rioed i sensro Saunders Lewis!" Bu fy nghysylltiad ag o wedyn yn un hir a hapus. Dipyn o foi oedd y Wesla o arlunydd a dramodydd. |
|
© MMI |
|
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |